4. Beth sy'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud

Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau dros weithwyr mudol ag y maen nhw ar gyfer eu gweithlu Prydeinig.

Maen nhw'n gyfrifol am iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle pob person sy'n gwneud gwaith iddyn nhw. Rhaid iddyn nhw wirio risgiau i'w gweithwyr, ac unrhyw un allai gael eu niwedio gan y gwaith. Os ydyn nhw'n nodi risg, rhaid i'ch cyflogwr ddweud wrthych amdano a'r rhagofalon maen nhw wedi'u cymryd i'ch amddiffyn chi a gweithwyr eraill.

Ymhlith prif gyfrifoldebau eich cyflogwr mae:

  • dweud wrthych am unrhyw risgiau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'ch swydd
  • rhoi'r wybodaeth, y cyfarwyddyd a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i weithio'n ddiogel ac yna gwirio i wneud yn siŵr eich bod yn ei ddeall
  • gwneud yn siŵr eich bod wedi cael hyfforddiant priodol i yrru neu weithredu unrhyw beiriannau a pheidio â chaniatáu ichi wneud y gwaith hwnnw oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant priodol
  • rhoi offer neu ddillad amddiffynnol am ddim i chi, os oes angen ar gyfer y gwaith, a ddylai fod yn gynnes a/neu'n dal dŵr os oes rhaid gweithio y tu allan
  • sicrhau eich bod yn cael mynediad at doiled digonol, cyfleusterau ymolchi a dŵr yfed glân
  • sicrhau bod gennych fynediad at gymorth cyntaf brys
  • ystyried risgiau i fenywod o oedran cael plant, yn enwedig os ydynt yn feichiog neu'n bwydo o'r fron (er enghraifft risgiau o weithio gyda chemegau penodol)
  • ystyried anghenion gweithwyr dan 18 oed, a allai fod yn llai abl i ymdopi â'r un gofynion corfforol ag oedolyn sydd cyrraedd ie lawn dwf, neu'n fwy tueddol o fentro oherwydd bod ganddynt lai o brofiad gwaith

Am arweiniad mwy penodol darllenwch ein cyngor i gyflogwyr gweithwyr mudol.

Is this page useful?

Updated2022-12-09