3. Os oes gennych anabledd neu'n fam newydd neu feichiog 

Os oes gennych anabledd nad yw'n eich atal rhag gweithio ond a allai effeithio ar eich diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill wrth wneud mathau penodol o waith, argymhellir eich bod yn dweud wrth eich cyflogwr fel y gallant drefnu gwaith gwahanol ar eich cyfer.

Argymhellir hefyd rhoi gwybod i'ch cyflogwr (yn ysgrifenedig) os ydych yn feichiog, yn bwydo o'r fron neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y 6 mis diwethaf.

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr os oes gennych anabledd neu'n fam newydd neu feichiog, neu i ddatgelu unrhyw fanylion pellach os ydych eisoes wedi dweud wrthyn nhw. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n dweud wrthyn nhw am eich cyflwr, ni fyddant yn gallu cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddiogelu eich iechyd a'ch diogelwch, felly mae er eich lles i roi gwybod iddyn nhw.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar gyfer gweithwyr anabl a mamau newydd a beichiog.

Is this page useful?

Updated2022-12-20