2. Beth sy'n rhaid i chi ei wneud fel gweithiwr

Rhaid i chi:

  • weithio mewn ffordd sydd ddim yn achosi risg i chi eich hun na neb arall, er enghraifft gweithwyr eraill neu bobl a allai ddod i gysylltiad â'r gwaith rydych yn ei wneud. Os nad yw rhywbeth yn ddiogel, peidiwch byth â chymryd siawns
  • defnyddiwch offer gwaith yn y ffordd y cawsoch eich hyfforddi i'w ddefnyddio. Ni ddylech ddefnyddio peiriannau os nad ydych wedi cael eich dangos sut i'w ddefnyddio'n ddiogel. Os na chawsoch hyfforddiant neu os nad ydych yn cofio rhannau ohono, gofynnwch am gael eich dangos cyn i chi ei ddefnyddio
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio unrhyw beth a gyflenwyd ar gyfer eich iechyd a'ch diogelwch, er enghraifft masg wyneb, offer amddiffynnol neu ddillad llachar
  • Helpwch eich cyflogwr i leihau risgiau iechyd a diogelwch yn y gweithle trwy ddweud wrtho os ydych yn gweld risg, neu ddweud wrth gyd-weithiwr os ydych yn eu gweld yn gweithio mewn ffordd a allai niweidio eu hunain neu eraill

Is this page useful?

Updated2022-12-09