5. Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi'n poeni am eich iechyd a diogelwch

Dylai fod canllawiau diogelwch yn eich gweithle (er enghraifft y poster Cyfraith Iechyd a Diogelwch) yn darparu cyngor ar sut i godi pryderon am ddiogelwch. Os na allwch ddod o hyd i hyn neu os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud yna trafodwch hyn gyda'ch cyflogwr, rheolwr neu oruchwyliwr. Gallwch hefyd siarad â'ch cynrychiolydd diogelwch yn y gweithle, os oes un.

Os ydych wedi codi pryderon diogelwch ac yn credu bod eich cyflogwr wedi methu â chymryd camau priodol i'ch diogelu chi neu weithwyr eraill, gallwch naill ai ei godi gyda nhw eto neu gysylltu â HSE. Gallwch siarad â HSE yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw.

Is this page useful?

Updated2022-12-21