2. Beth sy'n rhaid i chi ei wneud fel cyflogwr

Fel cyflogwr, rydych yn gyfrifol am iechyd, diogelwch a lles pob person sy'n gwneud gwaith i chi ac unrhyw un y gallai'r gwaith hwnnw effeithio arno, megis ymwelwyr neu aelodau'r cyhoedd.

Dylech ystyried cymhwysedd ac anghenion gweithwyr mudol cyn iddynt ddechrau gweithio drwy:

  • ystyried eu sgiliau iaith Saesnega chymwyseddau sylfaenol (er enghraifft llythrennedd, rhifedd, priodoleddau corfforol, iechyd cyffredinol, profiad gwaith perthnasol), gan gynnwys a ydynt yn newydd i'r swydd
  • gwirio bod ganddynt y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen cyn iddynt ddechrau yn y gweithle, gan gynnwys a yw eu cymwysterau galwedigaethol yn gydnaws â'r rhai ym Mhrydain Fawr.

Os yw'ch busnes yn defnyddio neu'n cyflenwi gweithwyr gig, asiantaeth neu weithwyr dros dro, darllenwch ein canllawiau ar iechyd a diogelwch ar gyfer yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a dros dro i ddeall eich cyfrifoldebau.

Is this page useful?

Updated2022-12-09