6. Rhagor o ganllawiau a chymorth

Rhagor gan HSE, GOV.UK a sefydliadau eraill

HSE
Canllawiau a chymorth Disgrifiad
Cyhoeddiadau mewn ieithoedd eraill Canllawiau iechyd a diogelwch cyffredinol wedi'u cyfieithu
Adrodd am ddigwyddiad (RIDDOR) Sut i adrodd am anaf neu afiechyd a achoswyd gan y gwaith
Rheoli risgiau ac asesu risg yn y gwaith Camau y mae angen i gyflogwyr eu cymryd i gadw gweithwyr yn ddiogel
Lles yn y gwaith Canllawiau i gyflogwyr ar ddarpariaethau lles
GOV.UK
Canllawiau Disgrifiad
Recriwtio pobl o du allan i'r DU Cyflogi gweithwyr mudol ar ôl i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd 
Hawl i weithio yn y DU Sut i weld a oes gan bobl yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU
Sefydliadau eraill
Canllawiau Disgrifiad
Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) Cyngor diduedd am ddim ar hawliau, rheolau ac arfer gorau yn y gweithle. Cyngor ar gyflog, amser gwaith, seibiannau gorffwys a gwyliau ac ati
Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Yn cynrychioli gweithwyr ym Mhrydain Fawr. Gwybodaeth am hawliau iechyd a diogelwch yn y gwaith, wedi ei throsi i wahanol ieithoedd
Cyngor ar Bopeth Help a chyngor lleol ar fyw a gweithio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n bosibl y bydd y ganolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu rhoi cyflogwyr mewn cysylltiad â grwpiau cymunedol mudol am help gyda chyfieithiadau, recriwtio ac ati
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cyngor i gyflogwyr a gweithwyr ar driniaeth deg ac atal gwahaniaethu yn y gweithle
Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) Yn ymchwilio i ecsbloetio ym maes llafur yng Nghymru a Lloegr, ac yn rheoleiddio busnesau sy'n cyflenwi gweithwyr ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth, casglu pysgod cregyn, a'u diwydiannau prosesu a phecynnu. Cysylltwch os ydych yn pryderu am les gweithwyr neu ddarparwr llafur sy'n gweithredu heb drwydded
Canolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU ar gyfer cymwysterau a sgiliau byd-eang (UK ENIC) Help a chyngor i gyflogwyr wrth wirio cywerthedd y DU o gymwysterau galwedigaethol, academaidd neu broffesiynol dramor ar lefel genedlaethol
Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) Yn cynnal cynlluniau hyfforddi diogelwch fel y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS)
Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) Mae eu gwasanaeth i aelodau'n cynnwys cyngor ar faterion cyflogaeth a diogelwch gan dîm arbenigol o gynghorwyr
Y Gymdeithas Iaith Ryngwladol (ICC) Gwybodaeth am wasanaethau iaith a hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol

Is this page useful?

Updated2023-04-12