5. Llety

Er y bydd llawer o weithwyr tramor/mudol yn trefnu eu llety eu hunain, mae rhai diwydiannau (er enghraifft amaethyddiaeth) lle gallai'r cyflogwr ddarparu llety.

Os ydych yn darparu llety parhaol, sefydlog (nid lloches dros dro) i weithwyr, dylech fod yn ymwybodol bod hyn yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Deddfau Tai sy'n cael ei gorfodi gan Awdurdodau Lleol. Nid yw hyn yn berthnasol i lety symudol fel carafanau neu gynwysyddion.

Os ydych yn darparu llety preswyl mewn carafanau, mae hyn yn ddarostyngedig i Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960. Fel arfer mae angen caniatâd cynllunio ar safleoedd ac maen nhw'n destun trwyddedu gan yr awdurdod lleol.

Dylai gweithwyr allu cael mynediad diogel neu adael unrhyw lety a ddarperir ar eu cyfer a dylai fodloni safonau diogelwch  trydanol  a nwy.

Is this page useful?

Updated2022-12-09