Cyflwyniad
Mae HSE yn rheoleiddio i amddiffyn pobl rhag afiechyd, anaf neu farwolaeth o ganlyniad i weithgareddau gwaith ym Mhrydain Fawr.
Rydym yn rheoleiddio risgiau o fewn cwmpas y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a rheoliadau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn:
- gweithwyr rhag risgiau posibl o afiechyd, anaf neu farwolaeth oherwydd gwaith, megis mewn gweithgynhyrchu, gofal iechyd a chymdeithasol, adeiladu, gwastraff ac ailgylchu, ac amaethyddiaeth
- y cyhoedd a gweithwyr rhag risgiau posibl o ddigwyddiadau gyda'r potensial i niweidio llawer o bobl. Er enghraifft, gall hyn gynnwys tân, ffrwydrad neu ryddhau cemegau o osodiad neu biblinell gemegol, tân ar blatfform olew alltraeth, neu ryddhau pathogen peryglus o labordy
- y cyhoedd rhag risgiau posibl i'w hiechyd a'u diogelwch o weithgareddau gwaith megis safleoedd adeiladu a ffeiriau
Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn sail i'n dull rheoleiddio a'n datrysiadau sy'n seiliedig ar risg ac sy'n gosod nodau, i amddiffyn pobl wrth alluogi arloesedd a thwf.
Rydym yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael a'r ymwybyddiaeth o'r amgylchedd gwaith a busnes i lywio ein dull.
Mae ein dull yn llunio ein:
- cyngor i weinidogion
- cyswllt rheoleiddio cenedlaethol a rhyngwladol
- ymyriadau i ddylanwadu, annog a chefnogi pob deiliad dyletswydd i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau cyfreithiol
- ymyriadau i ddwyn i gyfrif y rhai sy'n torri'r gyfraith, a sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a'u teuluoedd
- blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i adeiladu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom a'n camau gweithredu i annog eraill i gefnogi ac ymgymryd ag ymchwil
Mae ein dull yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y risgiau mwyaf difrifol ac yn targedu deiliaid dyletswyddau gyda'r hanes rheoli risg gwaethaf.
Ar gyfer pwy mae'r wybodaeth hon a beth mae'n ei gynnwys
Mae'r wybodaeth hon i gefnogi didwylledd a thryloywder ynghylch sut rydym yn rheoleiddio i amddiffyn pobl rhag risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch sy'n deillio o weithgareddau gwaith.
Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â risgiau sydd o fewn cwmpas Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig. Rydym yn nodi prif nodweddion ein dull rheoleiddio cymesur sy'n gosod nodau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymysgedd wedi'i dargedu o ymyriadau.
Mae'r prif gyfrifoldeb am reoli risg i iechyd a diogelwch yn gorwedd gyda'r deiliaid dyletswyddau. Deiliad dyletswyddau yw'r person neu'r sefydliad sy'n creu'r risg. Maent yn gyfrifol yn gyfreithiol am reoli a chymryd rheolaeth ar risgiau o dan gyfraith iechyd a diogelwch.
Nid yw'r wybodaeth yma yn:
- darparu canllawiau neu wybodaeth i ddeiliaid dyletswyddau ar yr hyn sydd angen iddynt ei wneud neu sut y dylent wneud penderfyniadau
- darparu gwybodaeth i weithwyr ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Ewch i'n canllaw i weithwyr
- cwmpasu sut mae arolygwyr HSE yn gwneud penderfyniadau ar gydymffurfiaeth deiliaid dyletswyddau â'r gyfraith. Ewch i'n Datganiad Polisi Gorfodi am wybodaeth ar sut mae arolygwyr HSE yn gwneud penderfyniadau ar gydymffurfiaeth deiliaid dyletswyddau â'r gyfraith
Rhagor o wybodaeth am ein dull rheoleiddio
Mae cylch gwaith rheoleiddio HSE hefyd yn cynnwys cyfundrefnau gweithredu ym Mhrydain Fawr fel y gall busnesau ddefnyddio, cynhyrchu a masnachu cynhyrchion a chemegau mewn ffordd nad yw'n peryglu pobl na'r amgylchedd.
Dysgwch ragor am ein rôl fel awdurdod gwyliadwriaeth marchnad<.
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio gweithgynhyrchu, cyflenwi a defnyddio cemegau:
- Bioladdwyr
- Dosbarthu, labelu a phecynnu cemegol(CLP)
- Glanedyddion
- Plaladdwyr
- Caniatâd Gwybodus Ymlaen Llaw (PIC)
- UK REACH
Rydym hefyd yn goruchwylio diogelwch a pherfformiad pob adeilad yn Lloegr - ewch i'n tudalennau gwe ar y Rheolydd Diogelwch Adeiladau. Rydym yn rhoi gwybodaeth am ein dull rheoleiddio ar draws ein cylch gwaith llawn yn ein:
- strategaeth 2022-2032 - Diogelu pobl a lleoedd
- Cynllun Busnes - sy'n nodi crynodeb o'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud bob blwyddyn i gyflawni ein strategaeth
- Adroddiad a chyfrifon blynyddol - sy'n nodi crynodeb o'r hyn yr ydym wedi'i wneud
- Adolygiad gwyddoniaeth blynyddol - sy'n rhoi astudiaethau achos sy'n dangos sut rydym yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i ddiogelu pobl a lleoedd
Prif nodweddion ein dull rheoleiddio i amddiffyn pobl
Rydym yn rheoleiddiwr annibynnol. Mae ein dull rheoleiddio yn gosod nodau, wedi'i dargedu, yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae ein gweithgareddau rheoleiddio yn amddiffyn pobl rhag risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch o weithgareddau gwaith wrth alluogi arloesedd.
Ein strategaeth
Ar lefel uchel, mae Bwrdd HSE yn ystyried perfformiad iechyd a diogelwch ledled Prydain Fawr. Mae'r Bwrdd yn gosod strategaeth HSE sy'n tywys pawb sydd â rôl i'w chwarae wrth gyflawni safonau gwell mewn perfformiad iechyd a diogelwch fel rhan o'n cenhadaeth ehangach i amddiffyn pobl a lleoedd.
Polisi a deddfwriaeth ganolog
Mae gennym rôl polisi ganolog ar gyfer amddiffyn pobl rhag risgiau i iechyd a diogelwch o'r gwaith ym Mhrydain Fawr.
Rydym yn cynghori gweinidogion ar opsiynau a dulliau effeithiol i amddiffyn pobl rhag risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch; mae hyn yn cynnwys ymyriadau anneddfwriaethol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynghori gweinidogion ar ddeddfwriaeth
Rydym yn cynghori gweinidogion ar welliannau arfaethedig i, tynnu'n ôl, neu ddeddfwriaeth newydd sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Ystyr deddfwriaeth yw Deddfau a Rheoliadau a gymeradwywyd gan y Senedd.
Gall adolygiad o ddeddfwriaeth gael ei ysgogi gan, er enghraifft:
- newid technolegau ac arferion gwaith
- tystiolaeth newydd ar risgiau i iechyd a diogelwch
- pryderon y cyhoedd a blaenoriaethau'r llywodraeth
Rydym hefyd yn cynnal Adolygiadau Ôl-weithredu ar gyfer rhai darnau o ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth. Rydym yn dilyn egwyddorion arfer gorau ar gyfer yr adolygiadau hyn.
Ymgynghori â rhanddeiliaid ar gynigion deddfwriaethol
Rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid ar bob cynnig ar gyfer newidiadau i ddeddfwriaeth neu benderfyniadau polisi eraill sydd â grym cyfraith megis Cod Ymarfer Cymeradwy. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys:
- busnesau, cyflogwyr a chymdeithasau masnach
- gweithwyr, undebau llafur, a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch
- cyrff proffesiynol
- grwpiau eiriolaeth ar gyfer pobl sy'n pryderu am faterion iechyd a diogelwch
- sefydliadau addysgol a hyfforddi sy'n darparu gwasanaethau iechyd a diogelwch
Mae Hyb Ymgynghoriadau HSE yn rhoi ymgynghoriadau i'n rhanddeiliaid ar draws ein cylch gwaith rheoleiddio llawn.
Asesiad o gynigion deddfwriaethol
Mae ein hasesiad o gynigion yn dilyn y dull yng nghanllawiau Fframwaith Rheoleiddio Gwell y DU. Mae canfyddiadau ymgynghoriadau rhanddeiliaid yn ganolog i'n hasesiad. Byddem dim ond yn cynnig newid i gyfrifoldebau cyfreithiol deiliaid dyletswyddau sy'n:
- diwygio gofynion, os yw ein hasesiad yn dangos na allai dewisiadau eraill fel canllawiau, cod ymarfer gwirfoddol i'r diwydiant, neu Safon Brydeinig amddiffyn pobl yn ddigonol
- dileu gofynion, os nad oes eu hangen mwyach i amddiffyn pobl
Enghreifftiau o ymgysylltiad yr HSE â rhanddeiliaid ynghylch deddfwriaeth
Dal a storio carbon (CCS)
Mae dal, defnyddio a storio carbon (CCUS) yn dechnoleg sy'n dod i'r amlwg i gefnogi allyriadau carbon sero net. Mae carbon deuocsid (CO2) sy'n cael ei ryddhau mewn cyfleusterau cynhyrchu pŵer neu ddiwydiannol yn cael ei ddefnyddio neu ei gludo trwy biblinell i storfa danddaearol barhaol.
Rydym yn ymgysylltu â gweithredwyr sy'n ceisio sefydlu clystyrau diwydiannol CCUS ym Mhrydain Fawr. Fel rhan o'n gwaith i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn parhau i fod yn addas at y diben i amddiffyn pobl, rydym yn cadw'r ddeddfwriaeth bresennol dan adolygiad.
Adolygiad Ôl-weithredu 2023 yr HSE o Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Darparodd ymgynghoriad â rhanddeiliaid wybodaeth graidd ar gyfer ein Hadolygiad Ôl-Weithredu o Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) yn 2023. Arweiniodd yr adolygiad at newidiadau i:
- wella eglurder ein gwybodaeth RIDDOR ar gyfer deiliaid dyletswyddau
- symleiddio ein ffurflenni adrodd ar-lein fel eu bod yn haws i ddeiliaid dyletswyddau eu defnyddio a rhoi gwell gwybodaeth am iechyd a diogelwch
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yw'r brif ddeddf sy'n llywodraethu iechyd a diogelwch yn y gwaith ym Mhrydain Fawr. Mae'n nodi dyletswyddau cyffredinol deiliaid dyletswyddau.
Mae hefyd yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i ddeiliaid dyletswyddau ei gyflawni, ond nid sut y dylent ei gyflawni. O fewn y dyletswyddau cyffredinol, rhaid i ddeiliaid dyletswyddau gymryd mesurau i amddiffyn pobl rhag risgiau 'cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol' (SFAIRP).
Mae'r dull gosod nodau hwn yn darparu fframwaith deddfwriaethol sefydlog ar gyfer arloeswyr, buddsoddwyr a diwydiant sy'n:
- rhoi disgresiwn i ddeiliaid dyletswyddau roi mesurau synhwyrol a chymesur ar waith i amddiffyn pobl
- caniatáu creadigrwydd a gwelliannau mewn mesurau amddiffynnol
- galluogi arloesi technolegol ac arferion gwaith newydd
Mae'r rheoliadau cysylltiedig hefyd yn gosod nodau lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am:
- rhai gweithgareddau gwaith a sylweddau sydd â'r potensial ar gyfer risgiau uwch i bobl os nad yw deiliaid dyletswyddau yn rheoli'r risg yn effeithiol. Lle bo angen, mae'r gyfraith yn nodi gofynion penodol ar ddeiliaid dyletswyddau
- rhai gweithgareddau gwaith o bryder cymdeithasol sydd â'r potensial i greu risg uchel i bobl os nad yw deiliaid dyletswyddau yn rheoli'r risg yn effeithiol. Dim ond os oes ganddynt ganiatâd yr HSE y gall deiliaid dyletswyddau ymgymryd â'r gweithgareddau gwaith hyn. Ewch i'n tudalennau gwe caniatâd a thrwyddedu am ragor o wybodaeth.
Gweithio gyda rheoleiddwyr eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill ym Mhrydain Fawr i orfodi'r gyfraith. Rydym hefyd yn gweithio gydag adrannau'r llywodraeth i gefnogi polisïau ehangach y llywodraeth, ac yn ymgymryd â chyswllt rheoleiddio cenedlaethol a rhyngwladol.
Gweithio gyda rheoleiddwyr eraill i orfodi'r gyfraith ym Mhrydain Fawr
Rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill ar ran Prydain Fawr i orfodi'r gyfraith lle mae:
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith yn gorgyffwrdd â chyfraith fwy penodol a orfodir gan reoleiddwyr eraill
- rheoleiddwyr eraill yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith
Rydym yn gweithio ar y cyd â'r rheoleiddwyr hyn i:
- sicrhau bod y rheoleiddiwr mwyaf priodol yn ymyrryd
- rhannu gwybodaeth berthnasol pan fo'n briodol
- cydlynu gweithgareddau rheoleiddio ar y cyd lle bo'n briodol
- cynnal safonau cyffredin
- gweithredu fel 'Awdurdod Cymwys' ar y cyd o dan ddeddfwriaeth benodol
- cefnogi nhw i gyflawni eu cylch gwaith rheoleiddio
Enghreifftiau o sut mae HSE yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill
Awdurdod Cymwys ar y Cyd sy'n gorfodi’r Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
Mae HSE, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac asiantaethau amgylcheddol Cymru, Lloegr a'r Alban, yn cydweithio fel yr Awdurdod Cymwys ar y cyd sy'n gorfodi'r Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH). Rydym yn cydweithio i:
- sicrhau bod y rheoleiddiwr mwyaf priodol yn ymyrryd i amddiffyn pobl a'r amgylchedd rhag y risg bosibl o ddigwyddiadau mawr mewn gosodiadau ar y tir fel gweithfeydd cemegol a gorsafoedd pŵer niwclear
- cydlynu ein dull ymyrryd i leihau ceisiadau am wybodaeth ar ddeiliaid dyletswyddau
Partneriaeth gyd-reoleiddiol ag awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau a gorfodi ar gyfer iechyd a diogelwch ar gyfer llawer o sectorau gwaith ym Mhrydain Fawr. Yn gyffredinol, maent yn cwmpasu:
- manwerthu
- dosbarthu cyfanwerthu
- warysau
- cartrefi gofal preswyl (heb nyrsio)
- safleoedd gwestai ac arlwyo
- swyddfeydd
- diwydiannau defnyddwyr a hamdden
Mae gan awdurdodau lleol ac HSE Ddatganiad Ymrwymiad ar y cyd ar gyfer ein partneriaeth gyd-reoleiddio, a gefnogir gan Gymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn yr Alban, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol.
Mae ein Pwyllgor Cyswllt Gorfodi ar y cyd rhwng HSE a'r Awdurdodau Lleol (HELA) yn darparu goruchwyliaeth strategol ar ein partneriaeth i wneud y mwyaf o'n heffeithiolrwydd a chefnogi rhannu gwybodaeth.
Ewch i'n tudalen memorandwm dealltwriaeth 20 am restr lawn o reoleiddwyr eraill y mae HSE yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd a Ffyrdd.
Cefnogi cyflawni polisïau ehangach y llywodraeth
Rydym yn gweithio ag adrannau'r llywodraeth i sicrhau bod iechyd a diogelwch cymesur yn y gwaith yn cefnogi cyflawni polisïau ehangach y llywodraeth.
Enghreifftiau o HSE yn cefnogi polisïau ehangach y llywodraeth
Cefnogi'r agenda draws-lywodraethol ar dechnolegau sero net
Rydym yn cefnogi'n weithredol yr agenda draws-lywodraethol ar dechnolegau sero net. Mae ein llunwyr polisi, ein harbenigwyr gweithredol a'n gwyddonwyr yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, adrannau'r llywodraeth, busnesau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau dull cyd-gysylltiedig o reoleiddio.
Mae gwyddonwyr yn ein labordy yn cynnal ymchwil gydweithredol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn cysylltiad â diwydiant a rheoleiddwyr eraill. Mae hyn yn diwallu anghenion tystiolaeth allweddol i alluogi cyflwyno technolegau newydd yn ddiogel ar draws cynhyrchu pŵer, gwres, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol.
Cefnogi'r agenda iechyd a gwaith traws-lywodraethol
Rydym yn cefnogi'r agenda iechyd a gwaith traws-lywodraethol. Gyda chefnogaeth ein partneriaid, fe wnaethom ddatblygu canllawiau arfer gorau sy'n seiliedig ar egwyddorion i annog gweithredu cynnar a chefnogol gan gyflogwyr ar gyfer gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae ein partneriaid yn cynnwys:
- Y Ffederasiwn Busnesau Bach
- Y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
- Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
- Yr Uned Iechyd a Gwaith ar y Cyd (traws-lywodraethol)
Mae ein canllawiau ar 'Egwyddorion i gefnogi gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor yn y gwaith', yn anelu at fod yn glir ac yn ddefnyddiol i gyflogwyr a gweithwyr. Mae gennym becyn cymorth siarad i'w helpu i ddechrau sgyrsiau a allai fod yn anodd. Y pwrpas yw annog newid diwylliant i wneud gweithleoedd yn fwy croesawgar ac ymddiriedus fel y gall gweithwyr ffynnu yn eu rôl.
Cydgysylltu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol â rheoleiddwyr a sefydliadau
Rydym yn cysylltu â rheoleiddwyr a sefydliadau iechyd a diogelwch eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i rannu arferion rheoleiddio, gwybodaeth am dueddiadau iechyd a diogelwch, a heriau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg.
Er enghraifft, rydym yn weithgar o fewn, neu'n cydweithio ac yn cynorthwyo gyda:
- Rhwydwaith Rheoleiddwyr Iechyd a Diogelwch y DU (UKHSRN)
- Cymdeithas Ryngwladol Arolygu Llafur (IALI)
- Asiantaethau a gweithgareddau'r Cenhedloedd Unedig gan gynnwys y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) ac, ar gyfer ymbelydredd ïoneiddio, yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA)
- Gweithgorau a gweithgareddau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
- Rhwydwaith Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol fforwm rhynglywodraethol yr G20
Enghraifft o HSE yn cysylltu â rheoleiddwyr rhyngwladol
Rydym yn cynrychioli'r DU ar y Fforwm Rheoleiddwyr Rhyngwladol (IRF) ar gyfer gweithgareddau olew a nwy ar y môr a Fforwm Awdurdodau Ar y Môr, Môr y Gogledd (NSOAF).
Mae NSOAF yn dwyn ynghyd reoleiddwyr o Ddenmarc, yr Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Norwy a'r DU. Mae is-grwpiau arbenigol NSOAF yn cyfnewid gwybodaeth ac yn datblygu safbwyntiau cyffredin.
Mae gweithgareddau ar y cyd a gynhelir gan NSOAF yn cynnwys archwiliadau rhyngwladol o weithrediad diogel gosodiadau drilio a chyfathrebu'r gwersi a ddysgwyd. Mae NSOAF yn gweithio i leihau anawsterau posibl i ddeiliaid dyletswyddau sy'n gweithredu ym Môr y Gogledd oherwydd gwahaniaethau mewn cyfundrefnau a gofynion diogelwch rheoleiddio cenedlaethol a galluogi arloesi diogel.
Er enghraifft, mae rheoleiddwyr NSOAF yn cydweithio i:
- datblygu safonau hyfforddiant diogelwch
- hyrwyddo manylebau technegol cyffredin sy'n hanfodol o ran diogelwch ar gyfer seilwaith fel piblinellau tanddwr sy'n gweithredu rhwng gwledydd a chraeniau a ddefnyddir i osod tyrbinau gwynt
- rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys dal a storio carbon
Ymyriadau
Mae ein hymyriadau'n annog ac yn cefnogi deiliaid dyletswyddau i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau cyfreithiol i amddiffyn pobl rhag risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch. Rydym yn cymryd camau gorfodi cymesur i ddwyn i gyfrif y rhai sy'n torri'r gyfraith ac i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a'u teuluoedd.
Mae ein dull:
- yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y risgiau mwyaf difrifol i iechyd a diogelwch ac yn targedu deiliaid dyletswyddau gyda'r record rheoli risg gwaethaf
- yn rhagweld risgiau posibl yn y dyfodol o dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg ac arferion gwaith sy'n newid i alluogi arloesi diogel
- yn gweithredu i gyflawni'r cydbwysedd rheoleiddio cywir rhwng cefnogi arferion busnes diogel ac amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd
Ein prif ymyriadau
Rydym yn defnyddio cymysgedd wedi'i dargedu o ymyriadau i gyflawni ein strategaeth a gwneud y mwyaf o'n heffaith. Y prif ymyriadau a ddefnyddiwn yw:
- cyfathrebu, canllawiau, cyngor a gwybodaeth
- cydweithio a phartneriaeth
- dilyn adroddiadau am faterion a digwyddiadau iechyd a diogelwch
- arolygu gweithgareddau gwaith a gweithleoedd
- ymchwilio i ddigwyddiadau
- gorfodi gan gynnwys darparu cyngor, cyflwyno hysbysiadau ac erlyn
Rydym yn cyfleu gwersi a ddysgwyd o bob ymyriad i fwyhau eu heffeithiolrwydd.
Dewis ac adolygu ymyriadau
- cyfraddau, tueddiadau a gyrwyr afiechyd, anafiadau, marwolaethau a digwyddiadau peryglus
- nifer a demograffeg y bobl sydd mewn perygl
- tystiolaeth wyddonol ar achosi, atal a rheoli risg
- tystiolaeth a gwybodaeth ar ymwybyddiaeth deiliaid dyletswyddau o'u cyfrifoldebau cyfreithiol, ymddygiadau tuag at gydymffurfiaeth, a gweithredu mesurau rheoli effeithiol
- potensial ar gyfer niwed o dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg a lefelau parodrwydd technoleg
- lleihau costau cydymffurfio i ddeiliaid dyletswyddau
Mae ein cymysgedd o ymyriadau yn cynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu ac arolygu wedi'u targedu. Mae ein Cynllun Busnes blynyddol yn nodi ein hymgyrchoedd arfaethedig.
Ar gyfer gweithgareddau gwaith sy'n digwydd o dan ein dull rhoi caniatâd a'n trwyddedu, mae ein hymyriadau yn gymesur â'r risgiau a pherfformiad y deiliad dyletswydd. Er enghraifft, mae ein dull ymyrryd ar gyfer peryglon mawr diwydiannol, megis rhai gweithfeydd prosesu cemegol ar y tir a gosodiadau olew a nwy ar y môr, wedi'i nodi yn y Model Rheoleiddio Peryglon Mawr.
Rydym yn cadw ein hymyriadau dan adolygiad i sicrhau ein bod yn defnyddio'r dulliau mwyaf effeithlon ac effeithiol i amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd.
Cyfathrebu, canllawiau, cyngor a gwybodaeth
Ein nod yw rhoi'r hyder i ddeiliaid dyletswyddau reoli risgiau'n effeithiol ac yn gymesur er mwyn amddiffyn pobl. Rydym yn:
- cynyddu ymwybyddiaeth am risgiau a chyfrifoldebau cyfreithiol deiliaid dyletswyddau
- annog ymddygiadau cadarnhaol tuag at gydymffurfio â'r gyfraith i atal niwed i bobl
- cefnogi deiliaid dyletswyddau i ddeall y gyfraith a sut i weithredu mesurau synhwyrol rheoli risg
Mae gan ein canllawiau a'n Codau Ymarfer Cymeradwy (ACOPs) statws cyfreithiol. Ewch i'n tudalen ar statws cyfreithiol canllawiau HSE ac ACOPs.
Mae ein canllawiau, gwybodaeth a chyngor yn cwmpasu:
- hanfodion iechyd a diogelwch megis rheoli iechyd a diogelwch.
- gweithgareddau gwaith penodol gyda'r potensial i greu risg uwch i bobl os nad yw deiliaid dyletswyddau yn rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith. Er enghraifft, gweithgareddau a all amlygu gweithwyr i lwch silica neu i sŵn peryglus o uchel
Rydym yn gweithredu gwasanaeth i gefnogi deiliaid dyletswyddau, gweithwyr, aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill gyda chwestiynau penodol ar iechyd a diogelwch yn y gwaith. Gallwch ddysgu rhagor ar ein tudalen we gofynnwch i ni am iechyd a diogelwch.
Dulliau cyfathrebu
Rydym yn gweithio'n barhaus i ddefnyddio technolegau newydd a dulliau cyfathrebu arloesol i wella, targedu a chyflwyno negeseuon a chanllawiau iechyd a diogelwch allweddol.
Ein gwefan yw ein prif sianel gyfathrebu ac mae'n derbyn dros 75 miliwn o ymweliadau tudalen y flwyddyn. Mae ein cyfathrebu ar-lein am ddim yn cynnwys:
- gweminarau, pecynnau cymorth, fideos a phodlediadau gyda gwybodaeth a chyngor iechyd a diogelwch
- ein gwasanaeth e-fwletin sy'n rhoi newyddion a diweddariadau iechyd a diogelwch, yn ogystal â gwahoddiadau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac ymchwil
- rhybuddion a hysbysiadau diogelwch
- canlyniad camau gorfodi sylweddol
Mae ein hymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u targedu yn estyn allan at weithwyr, deiliaid dyletswyddau a rhanddeiliaid eraill, gan helpu i newid ymddygiadau ac atal niwed i bobl
Enghreifftiau o ddulliau cyfathrebu'r HSE
Cyfathrebiadau i wella ymwybyddiaeth o asbestos a chydymffurfiaeth deiliaid dyletswyddau
Lansiwyd yr ymgyrchoedd cyfathrebu ‘Asbestos a chi’ ac ‘Asbestos: Eich dyletswydd’ yn 2023 a 2024. Y nod yw codi ymwybyddiaeth crefftwyr o’r risgiau parhaus o asbestos mewn adeiladau ac i ysgogi newid ymddygiad gan ddeiliaid dyletswyddau i roi mesurau effeithiol ar waith i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau cliriach a mwy diweddar ar gyfer deiliaid dyletswyddau. Mae hyn wedi'i ddatblygu a'i dreialu gyda rhanddeiliaid y diwydiant i ddiwallu eu hanghenion yn well.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu fideos i weithwyr am asbestos a gyflwynir gan Brif Gynghorydd Meddygol yr HSE.
Cyflwynir yr ymgyrchoedd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys cyrff diwydiant, undebau llafur a chyflenwyr offer amddiffynnol i hyrwyddo diwylliant o reoli asbestos yn ddiogel yn y diwydiant adeiladu a'r rhai sy'n gyfrifol am adeiladau.
Pecyn cymorth ar gyfer asesu anhwylderau cyhyrysgerbydol
Mae pecyn cymorth HSE ar gyfer anhwylderau cyhyrysgerbydol (MSDs) yn gasgliad o offer ymarferol, ar-lein i helpu cyflogwyr i amddiffyn gweithwyr rhag risgiau i'w hiechyd o weithgareddau gwaith sy'n cynnwys:
- codi a chario
- gwthio a thynnu
- tasgau ailadroddus ac ystumiau lletchwith
Mae MSDs sy'n gysylltiedig â gwaith yn gyffredin ac mae ganddynt effaith sylweddol ar weithwyr, cyflogwyr a'r economi ehangach. Datblygodd ergonomegwyr HSE yr offer gan ddefnyddio ymchwil i sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio, yn gofyn am wybodaeth arbenigol leiaf i'w defnyddio, ac yn cefnogi ein canllawiau arfer da.
Gan weithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant, fe wnaethom rannu'r pecyn cymorth gyda chyflogwyr fel rhan o'n hymgyrch anhwylderau cyhyrysgerbydol, yn ogystal â thrwy ein e-fwletinau a'n gwefan.
Canllawiau a gwybodaeth ymarferol ar iechyd a diogelwch mewn amaethyddiaeth
Mae ein tudalennau gwe amaethyddiaeth yn darparu porth i'n canllawiau a'n gwybodaeth ymarferol i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys pobl hunangyflogedig, i gyflawni safonau da o ran iechyd a diogelwch. Mae ein efwletinau amaethyddiaeth yn rhoi newyddion a gwybodaeth am iechyd a diogelwch ac mae ganddynt dros 60,000 o danysgrifwyr. Cyflwynir ein hymgyrchoedd cyfathrebu amaethyddiaeth mewn cydweithrediad â phartneriaid sydd wedi ymrwymo i gynyddu ein dylanwad a'n heffaith.
Hyfforddiant a digwyddiadau
Mae ein rhaglen o digwyddiadau iechyd a diogelwch , fel cyrsiau hyfforddi, yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chymhwysedd ar heriau iechyd a diogelwch cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg a sut y gellir mynd i'r afael â nhw. Mae ein rhaglen yn ymgysylltu â dros 20,000 o bobl y flwyddyn.
Mae arbenigwyr HSE yn dylunio ein digwyddiadau gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y diwydiant a llywodraeth ehangach lle bo'n briodol. Mae ein dull yn cyfuno mewnwelediad rheoleiddio, arbenigedd gwyddonol a phrofiad o'r byd go iawn er mwyn cael yr effaith fwyaf.
Enghraifft o gwrs hyfforddi HSE
Mae ein cwrs hyfforddi bioddiogelwch ar gyfer deiliaid dyletswyddau ar gyfer labordai microbioleg cynhwysiant uchel a ddefnyddir ar gyfer gwaith gyda chyfryngau biolegol peryglus, fel rhai firysau a bacteria.
Mae deiliaid dyletswyddau gyda'r cyfleusterau hyn yn cynnwys diwydiannau biotechnoleg, labordai diagnostig y GIG a labordai ymchwil prifysgolion.
Mae ein harolygwyr arbenigol a'n microbiolegwyr yn cyflwyno'r cwrs wythnos a gynhelir yn ein Canolfan Wyddoniaeth ac Ymchwil yn Buxton. Mae'r cwrs yn cefnogi ein canllawiau ac yn hyrwyddo rheoli risg effeithiol ac ymarferol i amddiffyn pobl.
Annog eraill i osod safonau a chynhyrchu canllawiau a hyfforddiant
Rydym yn annog cyrff masnach a diwydiant, sefydliadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch, cyrff safonau gan gynnwys Sefydliad Safonau Prydain, a rhanddeiliaid eraill i gynhyrchu canllawiau, cyngor a hyfforddiant.
Rydym yn annog dylunwyr, cyflenwyr, gweithgynhyrchwyr offer a sefydliadau addysgol i osod safonau iechyd a diogelwch priodol ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarparant.
Cydweithio a phartneriaeth
Rydym yn arwain y ffordd, ond nid ydym yn gweithredu ar ein pennau ein hunain. Mae cydweithio a phartneriaethau yn cynyddu ein cyrhaeddiad, ein dylanwad a'n heffaith yn sylweddol. Mae eiriolaeth wrth wraidd ein dull gweithredu.
Rydym yn cydweithio ac yn partneru â:
- grwpiau diwydiant
- cynrychiolwyr cyflogwyr
- undebau llafur a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli gweithwyr
- cyrff proffesiynol
- rhanddeiliaid a chyfryngwyr eraill sydd â dylanwad sylweddol ar fusnesau a all helpu i osod a hyrwyddo safonau iechyd a diogelwch
Trwy gydweithio a phartneriaeth, rydym yn gweithredu gyda'n gilydd i:
- estyn allan at ddeiliaid dyletswyddau a'u cefnogi
- codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch
- ysgogi deiliaid dyletswyddau i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau cyfreithiol
- deall yr hyn y mae angen i ddeiliaid dyletswyddau ei wybod i reoli risgiau'n effeithiol
- datblygu atebion ymarferol i ddiwallu anghenion deiliaid dyletswyddau
Enghreifftiau o gydweithio a phartneriaethau HSE
Cydweithio â'r diwydiant i leihau risgiau iechyd o hylifau gwaith metel
Mae cydweithio a phartneriaeth yn ganolog i'n dull o wella diogelwch iechyd gweithwyr sy'n defnyddio hylifau gwaith metel cymysg dŵr (MWFs).
Defnyddir MWFs yn helaeth ar gyfer oeri ac iro wrth beiriannu metelau. Gall dod i gysylltiad â nhw niweidio'r ysgyfaint a'r croen.
Fe wnaeth Cymdeithas Ireidiau'r DU (UKLA) weithio’n agos gyda ni i ddatblygu eu 'Canllaw arfer da ar gyfer trin a gwaredu MWF yn ddiogel'. Paratowyd y canllaw gan banel arbenigol ar y cyd rhwng UKLA a HSE, gan ymgorffori cyngor gan reolwyr gweithdai peiriannau profiadol ac arbenigwyr meddygol. Fe wnaeth UKLA a HSE hefyd gynhyrchu cyfres o fideos cyflenwol ar y cyd ar 'Gofalu am Eich Hylifau Gwaith Metel'.
Mae cydweithio hefyd wedi cynnwys gweithdy arbenigol gyda chynrychiolwyr o weithgynhyrchwyr ireidiau a'r diwydiant peiriannu ar ddewisiadau amgen i ddefnyddio aer cywasgedig. Mae ymgysylltu â'n partneriaid yn y diwydiant yn ganolog i ddatblygu'r negeseuon am ein hymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer y sector.
Ymgyrch Working Minds yn atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith
Mae ein Hymgyrch Working Minds yn helpu busnesau i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol a chymryd camau i atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Crëwyd yr ymgyrch ar y cyd ag 8 sefydliad rhanddeiliaid ac mae ganddi dros 30 o bartneriaid, gan gynnwys elusennau cenedlaethol, grwpiau diwydiant a chyrff proffesiynol.
Mae partneriaid ein hymgyrch yn estyn allan i helpu i ledaenu ein negeseuon a dylanwadu'n eang. Maent yn darparu lleisiau ychwanegol i'n gweminarau, blogiau a phodlediadau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u hysbysu, a'n galluogi i gynnal digwyddiadau pwrpasol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae gan wefan yr ymgyrch gyngor ac arweiniad ymarferol i gefnogi deiliaid dyletswyddau i ganolbwyntio ar gamau effeithiol ar gyfer atal.
Dilyn adroddiadau am broblemau a digwyddiadau
Rydym yn cymryd camau cymesur i ddilyn adroddiadau am broblemau a digwyddiadau.
Adroddiadau am broblemau
Rydym yn derbyn dros 40,000 o adroddiadau am broblemau iechyd a diogelwch bob blwyddyn gan aelodau'r cyhoedd, gweithwyr, cynrychiolwyr diogelwch undebau ac eraill. Gall adroddiadau gynnwys delweddau a fideos ffôn. Rydym yn asesu pob adroddiad ac yn ymateb yn brydlon. Rydym yn cymryd camau cymesur pan fydd problem yn ein cylch gwaith a lle mae arwyddion o:
- risg sylweddol barhaus i bobl
- toriad sylweddol ar gyfraith iechyd a diogelwch yn y gwaith
Adroddiadau am ddigwyddiadau
Rhaid i ddeiliaid dyletswyddau roi gwybod am ddigwyddiadau penodol i ni o dan:
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
- deddfwriaeth sy'n benodol i rai gweithgareddau megis peryglon mawr diwydiannol
Mae digwyddiadau'n cynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith, afiechyd, clefyd, anafiadau, damweiniau fu bron â digwydd a digwyddiadau peryglus eraill.
Rydym yn asesu pob adroddiad o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae ein hasesiad yn glynu'n agos at y diffiniadau o ddigwyddiadau yn y ddeddfwriaeth berthnasol. Yn seiliedig ar ein hasesiad, rydym yn cymryd camau cymesur pan fydd digwyddiad o fewn ein cylch gwaith.
Camau cymesur ar adroddiadau am faterion a digwyddiadau
Mae'r camau cymesur a gymerwn mewn ymateb i faterion a digwyddiadau yn ein cylch gwaith yn cynnwys:
- arolygu
- ymchwilio
- gorfodi
Mae canllawiau ar awdurdodau gorfodi ar gyfer adrodd am faterion neu ddigwyddiadau sydd y tu allan i'n cylch gwaith.
Arolygu
Mae arolygu yn weithgaredd allweddol i asesu pa mor dda y mae deiliaid dyletswyddau yn rheoli risgiau i iechyd a diogelwch a, lle nad ydynt, i sicrhau gwelliannau i gyflawni hyn.
Pan fyddwn yn cynnal arolygiad, rydym yn ymgysylltu â gweithwyr neu eu cynrychiolwyr i wirio eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigonol ac yn cael eu hymgynghori â nhw ar iechyd a diogelwch. Lle bo'n briodol, rydym yn cymryd camau gorfodi cymesur.
Os byddwn yn canfod bod deiliad dyletswyddau wedi torri'r gyfraith, bydd yn rhaid iddynt dalu am yr amser y mae'n ei gymryd i ni eu helpu i gywiro pethau. Gelwir hyn yn 'ffi am ymyrraeth' (FFI). Dysgwch fwy ar ein tudalennau ffi am ymyrraeth.
Rydym yn darparu gwybodaeth i ddeiliaid dyletswyddau a gweithwyr ar yr hyn i'w ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw.
Ymgyrchoedd arolygu
Cynhelir tua hanner ein harolygiadau yn ein hymgyrchoedd arolygu wedi'u targedu. Rydym yn hysbysebu ein hymgyrchoedd arolygu yn eang fel bod deiliaid dyletswyddau yn gwybod y gallai ein harolygwyr fod yn ymweld a beth maen nhw'n chwilio amdano.
Enghraifft o ymgyrch arolygu
Gall weldio niweidio gweithwyr os nad yw deiliaid dyletswyddau yn rhoi mesurau effeithiol ar waith i reoli risgiau i iechyd a diogelwch. Mae llawer o risgiau iechyd wedi bod yn hysbys ers amser maith, megis y risg o ddatblygu asthma a 'thwymyn mygdarth metel'.
Mae'r risg i weithwyr o ddatblygu canser o fygdarth weldio dur di-staen wedi'i hen sefydlu. Fodd bynnag, yn 2018 cynhyrchodd yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser dystiolaeth newydd a nododd fod risg hefyd o ddatblygu canser o ddod i gysylltiad â mygdarth weldio dur carbon isel.
Mewn ymateb, cynhaliwyd cymysgedd o ymyriadau. Roedd hyn yn cynnwys rhybudd diogelwch, canllawiau a chyngor wedi'u diweddaru i ddeiliaid dyletswyddau, ymgysylltu â chyrff diwydiant a phroffesiynol ac undebau llafur, ac ymgyrch arolygu ffocws.
Arolygiadau wedi'u sbarduno gan wybodaeth reoleiddiol
Mae arolygiadau hefyd yn targedu gweithgareddau gwaith a deiliaid dyletswyddau lle mae gennym wybodaeth reoleiddiol am fethiannau sylweddol ym maes iechyd a diogelwch. Mae gwybodaeth reoleiddiol yn golygu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Mae hyn yn cynnwys:
- materion a adroddir gan aelodau'r cyhoedd, gweithwyr neu eraill
- digwyddiadau a adroddir gan ddeiliaid dyletswyddau
- ymchwiliadau i ddigwyddiadau sy'n dynodi methiannau ehangach o ran rheoli risg ar gyfer gweithgaredd gwaith
- perfformiad blaenorol deiliad dyletswydd ar gydymffurfio â'r gyfraith
- y ffaith ein bod yn rhannu gwybodaeth gyda rheoleiddwyr ac asiantaethau arolygu eraill
Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau arolygu eraill pan fydd risgiau heb eu rheoli i iechyd a diogelwch yn y gwaith yn gysylltiedig â thorri deddfwriaeth arall.
Enghraifft o HSE yn gweithio gydag asiantaethau eraill gan ddefnyddio deallusrwydd rheoleiddio
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) ac asiantaethau eraill. Rydym yn cefnogi arolygiadau wedi'u targedu dan arweiniad yr heddlu lle mae gwybodaeth am gaethwasiaeth fodern, masnachu pobl a chamfanteisio ar bobl, a risgiau heb eu rheoli i iechyd a diogelwch gweithwyr.
Mae'r ymchwiliadau hyn wedi arwain at ymchwiliadau ac erlyniadau HSE o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Er enghraifft, mae'r arolygiadau hyn dan arweiniad yr heddlu wedi targedu gweithrediadau golchi ceir.
Ymchwilio
Rydym yn ymchwilio i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwaith a materion a adroddir. Dewisir yr ymchwiliadau hyn ar sail:
- y risg uchaf i bobl
- y potensial mwyaf ar gyfer effaith reoleiddiol.
Lle bo'n briodol, rydym yn cymryd camau gorfodi cymesur.
Gall ein hymchwiliadau a'n camau gorfodi gynnwys dioddefwyr anaf neu afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith, a'r teuluoedd mewn profedigaeth pan fydd marwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith. Ewch i'n tudalen we ar ddioddefwyr a theuluoedd mewn profedigaeth am fanylion ynghylch y wybodaeth a ddarparwn iddynt.
Mae ymchwiliad yn ymyrraeth bwysig ar gyfer newid ymddygiad a gwella safonau iechyd a diogelwch yn y gwaith. Mae'n ein galluogi i atal risg barhaus, pennu achosion, nodi pa gamau y mae angen i ddeiliad dyletswydd eu cymryd i atal ailddigwyddiad, a dysgu gwersi ehangach ar atal.
Rydym yn rhannu gwersi a ddysgwyd gyda'r rhai sydd angen cymryd camau gweithredu. Mae hyn yn cynnwys trwy rybuddion a hysbysiadau diogelwch a'n gwasanaeth e-fwletin am ddim.
Gall ymchwiliadau hefyd arwain at ymgysylltu a phartneriaeth â chyrff diwydiant a phroffesiynol i:
- gefnogi eu camau gweithredu i ddiweddaru eu canllawiau a'u safonau i gasglu'r gwersi a ddysgwyd
- lle bo angen, cynnal ymchwil i ddatblygu tystiolaeth ar atal effeithiol
Enghreifftiau o weithgarwch ymchwilio HSE
Ymchwilio i farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith
Mae HSE, yr heddlu, a rheoleiddwyr a sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag ymchwilio i farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith wedi cytuno ar brotocolau a chytundebau cysylltu i gefnogi cydweithio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl. Mae'r cytundebau wedi'u nodi mewn protocolau marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Gweithio gydag arbenigwyr diwydiant ar wersi a ddysgwyd o ymchwiliadau
Rydym wedi ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau angheuol yn ymwneud â defnyddio craeniau tŵr, rhai ohonynt yn cynnwys nifer o farwolaethau. Rydym wedi cyhoeddi rhybuddion diogelwch, wedi cymryd camau gorfodi ac wedi cynnal ymchwil arbrofol i achosion methiannau mecanyddol.
Fe wnaeth ein hymgysylltiad â'r diwydiant nodi’r angen i wella bylchau mewn safonau diogelwch.
Fe wnaethom weithio gyda diwydiant i ddod â'u harbenigedd a'r wybodaeth a gafwyd trwy ein hymchwiliadau a'n hymchwil fforensig i ddigwyddiadau ynghyd i gyrraedd consensws ar safonau arfer da. Arweiniodd hyn at ddiwygio Cod Ymarfer Safonol Prydain ar gyfer Defnyddio Craeniau Tŵr yn Ddiogel (Safon Brydeinig 7121 rhan 5).
Cyfarwyddo cynnal ymchwiliad i ddigwyddiad
Gallwn ni hefyd, gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, gyfarwyddo cynnal ymchwiliad i ddigwyddiad. Rydym yn gwneud hyn ar gyfer y digwyddiadau iechyd a diogelwch mwyaf difrifol yn y gwaith lle gall fod risgiau sylweddol nad ydynt yn cael eu deall yn dda, gwersi i'w dysgu ar gyfer sector diwydiant cyfan, ac sy'n codi pryderon cyhoeddus mawr.
Enghraifft o HSE yn cyfarwyddo cynnal ymchwiliad i ddigwyddiad
Fe wnaethom gyfarwyddo cynnal ymchwiliad i Ddigwyddiad Storfa Olew Buncefield yn 2005 lle cafodd dros 40 o bobl eu hanafu. Amcangyfrifodd yr ymchwiliad fod effaith economaidd y digwyddiad yn £1 biliwn. Roedd y camau gweithredu yn dilyn argymhellion yr ymchwiliad yn cynnwys cyflwyno Egwyddorion Arweinyddiaeth Diogelwch Prosesau gan y diwydiant, rheoleiddwyr a'r undebau llafur, sy'n cynnwys cyfranogiad ar lefel y bwrdd a chymhwysedd mewn rheoli diogelwch.
Gorfodi
Rydym yn cymryd camau gorfodi cymesur pan nad yw deiliad dyletswydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol i amddiffyn pobl. Rydym yn cymryd camau gorfodi i:
- atal niwed i bobl
- sicrhau cydymffurfiaeth barhaus deiliad dyletswydd â chyfraith iechyd a diogelwch yn y gwaith
- sicrhau cyfiawnder
Mathau o gamau gorfodi
Mae ein camau gorfodi yn cynnwys:
- rhoi cyngor i ddeiliad dyletswydd ac ysgrifennu atynt i fynnu camau gweithredu; dyma'r camau gorfodi mwyaf cyffredin
- cyflwyno hysbysiad gwella neu hysbysiad gwahardd sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad dyletswydd wneud gwelliannau neu atal gweithgareddau peryglus (mae methu â chydymffurfio yn drosedd)
- tynnu'n ôl neu newid einc aniatâd a'n trwyddedu
- yn yr Alban, argymell erlyniad i'r Erlynydd Ffisgal
- yng Nghymru a Lloegr, dwyn erlyniad lle mae tystiolaeth o dorri cyfraith sylweddol ac mae er budd y cyhoedd gwneud hynny
Rydym yn egluro i ddeiliaid dyletswydd pa faterion sy'n destun gorfodi, a'r mesurau y mae'n rhaid iddynt eu cymryd i gyflawni cydymffurfiaeth gan gynnwys amserlenni.
Rydym yn hysbysu gweithwyr neu eu cynrychiolwyr pan fyddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn egluro pa gamau rydym yn ei gwneud yn ofynnol i'w cyflogwr eu cymryd i unioni pethau.
Ar ôl gorfodi, rydym yn cymryd camau dilynol cymesur, gan gynnwys ymweliadau safle, i wirio bod deiliaid dyletswyddau wedi gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Hawl deiliaid dyletswyddau i apelio
Rydym yn rhoi gwybodaeth i ddeiliaid dyletswyddau am eu hawl i apelio. Dysgwch fwy am beth i'w ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw
Egwyddorion a dull gorfodi
Mae ein camau gorfodi yn gymesur â'r risgiau i bobl ac â difrifoldeb y tor-cyfraith.
Mae ein Datganiad Polisi Gorfodi yn nodi ein hegwyddorion a'n dull cyffredinol. Rhaid i bob arolygydd HSE ac awdurdod lleol a staff eraill sy'n gwneud penderfyniadau gorfodi ddilyn y Datganiad Polisi Gorfodi.
Mae ein hegwyddorion a'n safonau ar gyfer cyfreithwyr gorfodi yn nodi sut mae HSE yn gwneud penderfyniadau ynghylch erlyniadau, a pha brosesau sydd gennym ar waith i sicrhau tegwch a chysondeb.
Dysgwch ragor am ein hegwyddorion a'n safonau gorfodi.
Cyfathrebu camau gorfodi difrifol
Rydym yn cyfathrebu'r camau gorfodi mwyaf difrifol, gan gynnwys trwy ein e-fwletinau a'n datganiadau i'r wasg. Rydym hefyd yn cyhoeddi cofrestr o gollfarnau a hysbysiadau HSE.
Ein nod yw:
- codi ymwybyddiaeth ehangach o'r effaith ar ddioddefwyr a'u teuluoedd
- gweithredu fel ataliad yn erbyn deiliaid dyletswyddau sy'n methu â chydymffurfio â'u cyfrifoldebau cyfreithiol i amddiffyn gweithwyr a'r cyhoedd
- darparu sicrwydd ein bod yn cymryd camau cadarn i sicrhau cyfiawnder
- codi ymwybyddiaeth o'n cyfathrebiadau ar y camau y mae angen i ddeiliaid dyletswyddau eu cymryd i amddiffyn pobl rhag risgiau i iechyd a diogelwch
Enghraifft o gyfathrebiadau ynghylch collfarnau
Yn 2024/25, arweiniodd erlyniadau HSE at dros 300 o gollfarnau. Gall y llysoedd osod dedfrydau o garchar hyd at 2 flynedd a/neu ddirwyon diderfyn. Dylai lefel y ddirwy adlewyrchu difrifoldeb y drosedd, faint o arian y gall y troseddwr ei dalu ac annog cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Mae ein cyfathrebiadau am gollfarnau yn cael eu rhannu’n eang drwy’r cyfryngau a chyrff diwydiant. Rydym yn amlygu’r effaith ar ddioddefwyr a’u teuluoedd, a’r mesurau cosbol a osodir gan y llysoedd. Rydym yn atgyfnerthu ein cyfathrebiadau ar gyfer deiliaid dyletswyddau ar y camau gweithredu y mae angen iddynt eu cymryd i amddiffyn pobl.
Galluogi arloesi
Rydym yn rhagweld ac yn ymateb i fyd gwaith, ffyrdd o wneud pethau ac arloesi technolegol sy'n newid. Rydym yn defnyddio 'dulliau’r dyfodol' i gefnogi datblygiad polisïau sy'n gadarn ac yn addasadwy ar gyfer llwybrau ansicr arloesi a newid.
Rydym yn ymgysylltu â diwydiant, arloeswyr, adrannau'r llywodraeth, a rheoleiddwyr a sefydliadau ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn gweithredu'n rheolaidd i helpu Prydain Fawr i addasu'n ddiogel.
Enghreifftiau o HSE yn galluogi arloesi
Creu'r Blwch Tywod Rheoleiddio Diogelwch Diwydiannol ar gyfer y sector adeiladu
ydym wedi creu'r Blwch Tywod Rheoleiddio Diogelwch Diwydiannol cyntaf yn y byd ar gyfer y sector adeiladu i archwilio sut y gall technolegau arloesol helpu i wella iechyd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), dadansoddeg weledol, realiti estynedig, realiti rhithwir, rhyngrwyd pethau, synwyryddion, dyfeisiau gwisgadwy, dronau a roboteg. Roedd y Blwch Tywod Rheoleiddio yn amgylchedd cydweithredol lle daeth rheoleiddwyr a diwydiant ynghyd â chwmnïau technoleg i ymchwilio i'r cyfleoedd y gallai technolegau newydd eu darparu ar gyfer gwella perfformiad a chydymffurfiaeth ym maes iechyd a diogelwch. Roedd o fudd i bob parti dan sylw trwy ddarparu lle diogel i archwilio cyfleoedd ar gyfer gwelliannau, nodi rhwystrau i fabwysiadu ac awgrymu sut y gellid eu goresgyn.
Galluogi defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial
- Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn dechnoleg drawsnewidiol gyda gallu sy'n datblygu'n gyflym.
- Mae’r defnydd o AI yn darparu cyfleoedd am fanteision gwirioneddol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gwaith, ond hefyd y potensial i greu neu gynyddu risgiau os nad yw deiliaid dyletswyddau yn rhoi rheolaethau effeithiol ar waith.
- Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i ddatblygu ein dull rheoleiddio ac archwilio'r heriau a'r cyfleoedd y mae AI yn eu cynnig.
Er enghraifft, rydym yn:
- gweithio gydag adrannau'r llywodraeth i lunio'r dull o reoleiddio AI a chydweithio â rheoleiddwyr eraill i annog cysondeb
- sefydlu perthnasoedd â rhanddeiliaid diwydiant ac academaidd i rannu gwybodaeth a dysgu
- ymgysylltu â chyrff safonau cenedlaethol a rhyngwladol i gefnogi sefydlu meincnodau ar gyfer rhyngweithio AI â pheiriannau a 'diogelwch swyddogaethol'
- cynyddu ein dealltwriaeth o ddefnydd AI mewn sectorau a reoleiddir gan HSE a'r effeithiau iechyd a diogelwch posibl
Galluogi defnydd dal a storio carbon yn ddiogel
Mae dal a storio carbon (CCS) yn dechnoleg sy'n dod i'r amlwg i gefnogi ynni glân a diogel. Mae carbon deuocsid a ryddheir mewn cyfleusterau cynhyrchu pŵer neu ddiwydiannol yn cael ei gludo trwy biblinell neu long i storfa danddaearol barhaol. Mae HSE wedi dwyn ynghyd ei arbenigedd mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, polisi ac ymyriadau i alluogi cyflwyno'r dechnoleg hon yn ddiogel.
Fe wnaethom alluogi gweithredwr i gynnal prawf chwistrellu carbon deuocsid cyntaf Prydain Fawr yn ddiogel. Chwistrellodd y gweithredwr garbon deuocsid i gronfa nwy naturiol wedi'i disbyddu o dan Fôr y Gogledd gan ddefnyddio platfform nwy alltraeth wedi'i ailbwrpasu. Ymgysylltodd tîm amlddisgyblaethol HSE â'r cwmni ar y tir ac ar y môr. Fe wnaethom gynghori ar ddisgwyliadau rheoleiddio a galluogi'r gweithredwr i ddatgloi eu hatebion diogelwch eu hunain. Fe wnaethom gynnal arolygiadau ar y tir ac ar y môr yn ystod y treial, gan ystyried agweddau peirianneg a systemau rheoli diogelwch.
Fe wnaeth y prawf alluogi’r gweithredwr i gael gwybodaeth hanfodol i gefnogi defnyddio cronfeydd dŵr wedi'u disbyddu ar gyfer storio carbon deuocsid parhaol.
Ymchwil ac ystadegau i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth
Mae gwyddonwyr a dadansoddwyr yr HSE yn cynnal ac yn cyhoeddi ymchwil wyddonol gadarn, ac ystadegau i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ategu a llywio ein gweithgareddau rheoleiddio.
Mae ein gwyddonwyr yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant ac yn cydweithio â sefydliadau gwyddonol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i sicrhau bod gan HSE fynediad at y dystiolaeth orau sydd ar gael. Rydym wedi ymrwymo i'r safonau moesegol uchaf ar gyfer ymchwil. Dysgwch ragor yn ein Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Concordat ar Uniondeb Ymchwil.
Mae ein Rhaglen Ymchwil a Rennir yn cefnogi cydweithio a buddsoddi allanol yn ein portffolio ymchwil. Mae hyn yn caniatáu rhannu adnoddau ac arbenigedd er budd pawb.
Rydym yn cyhoeddi crynodeb lefel uchel o'n diddordebau ymchwil ehangach - dysgwch ragor am ein meysydd diddordeb ymchwil. Rydym yn annog ac yn cefnogi eraill i ymgymryd ag ymchwil ac ariannu ymchwil i ddiwallu ein diddordebau ymchwil ehangach, gan gynnwys mewn cydweithrediad ag HSE.
Mae'r Pwyllgor Arbenigol Iechyd yn y Gweithle yn rhoi barn arbenigol annibynnol i ni ar iechyd galwedigaethol.
Dysgwch ragor am ein hymchwil wyddonol.
Dysgwch ragor am ystadegau iechyd a diogelwch.
Enghreifftiau o gyhoeddiadau HSE am ymchwil a dadansoddiad HSE
Ystadegau blynyddol ar iechyd a diogelwch yn y gwaith
Mae ein llyfryn ar-lein ‘Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith: Ystadegau Cryno Blynyddol’ yn rhoi ffeithiau allweddol sy’n nodi maint yr her i Brydain Fawr. Mae hyn yn amlygu nifer y gweithwyr sy’n dioddef o afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith, nifer y rhai a anafwyd a nifer y rhai a laddwyd. Mae hefyd yn nodi’r gost ariannol mewn biliynau o bunnoedd. Rydym yn defnyddio’r ystadegau hyn i gyflwyno’r achos i bawb yn y system iechyd a diogelwch i amddiffyn gweithwyr yn well.
Adolygiad gwyddoniaeth blynyddol
Mae ein hadolygiad gwyddoniaeth blynyddol yn rhoi astudiaethau achos sy'n dangos:
- ehangder ein gwaith gwyddoniaeth, peirianneg a dadansoddi gan gynnwys ymchwil, ymchwilio i ddigwyddiadau fforensig, a synthesis tystiolaeth
- ein cydweithrediadau gwyddonol cenedlaethol a rhyngwladol i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom
- sut rydym yn defnyddio tystiolaeth wyddonol gadarn ar draws ein cylch gwaith rheoleiddio llawn i amddiffyn pobl a lleoedd
Egwyddorion a gofynion sy'n sail i'n dull rheoleiddio
Mae ein dull rheoleiddio yn gweithredu o fewn y fframwaith cyfreithiol a osodwyd gan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
Mae ein dull yn cyd-fynd ag arfer da ar gyfer rheoleiddwyr. Mae ein gweithgareddau rheoleiddio yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur, yn gyson, ac wedi'u targedu. Gosodwyd yr Egwyddorion Rheoleiddio hyn ym 1997 gan y Tasglu Rheoleiddio Gwell ac maent yn y Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol (ar legislation.gov.uk).
O dan y Cod Rheoleiddwyr (ar GOV.UK) rydym yn:
- cefnogi cydymffurfiaeth a thwf
- ymgysylltu â'r rhai rydym yn eu rheoleiddio
- seilio ein gweithgareddau ar risg
- rhannu gwybodaeth am gydymffurfiaeth a risg
- darparu gwybodaeth, canllawiau a chyngor clir
- bod yn dryloyw ynghylch ein dull o ymdrin â gweithgareddau rheoleiddio
Mae arfer da ychwanegol ar gyfer rheoleiddwyr ac ar gyfer cyngor gwyddonol i'r llywodraeth yn cynnwys y canlynol:
- Egwyddorion rheoli risgiau i'r cyhoedd
- Dyletswydd twf: canllawiau statudol (ar GOV.UK)
- Fframwaith Rheoleiddio Gwell: canllawiau (ar GOV.UK)
- Adolygiad Ôl-Weithredu: canllawiau statudol o dan y Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth (ar GOV.UK)
- Cynhyrchu adolygiadau ôl-weithredu: egwyddorion arfer gorau (ar GOV.UK)
- Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (ar cps.gov.uk)
- Egwyddorion Ymgynghori (ar GOV.UK)
- Egwyddorion cyngor gwyddonol i'r llywodraeth (ar GOV.UK)
- Cod Ymarfer ar gyfer Pwyllgorau a Chynghorau Cynghori Gwyddonol (ar GOV.UK)