Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith

3. Cymerwch ymagwedd gynhwysol at iechyd yn y gweithle

Bydd arferion cynhwysol yn y gweithle yn eich helpu i recriwtio, cadw a gwneud y gorau o alluoedd gweithwyr anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel 'gweithwyr' yn y canllawiau hyn.

Yn eich busnes, mae arferion y gweithle yn gynhwysol o ran:

  • polisïau
  • gweithdrefnau
  • trefniadau
  • rheolau

Gall arferion yn y gweithle sy'n gynhwysol ddarparu buddion i’r busnes. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchiant cynyddol, cronfa fwy o dalent, mwy o greadigrwydd ac arloesi.

Dyluniwch weithle cynhwysol

Dyluniwch eich gweithle fel ei fod yn gynhwysol i bawb sy'n ei gyrchu, er enghraifft gweithwyr ac isgontractwyr. Gwnewch yn siŵr nad oes neb dan anfantais. Dylai pawb allu cyflawni eu gwaith yn effeithiol, yn ddiogel ac yn effeithlon. Gall unrhyw newidiadau fod yn briodol i faint eich busnes.

Darparwch arferion hygyrch yn y gweithle

Mae angen i’ch arferion yn y gweithle fod yn:

  • hygyrch
  • clir
  • cryno
  • hawdd i bob un o'ch gweithwyr eu deall

Dylent eich helpu i nodi, deall a mynd i'r afael â rhwystrau yn y gweithle.

Cymhwyswch arferion yn gyson ac yn deg. Gall addasiadau amrywio. Enghraifft o addasiad priodol fyddai absenoldeb anabledd neu weithio hyblyg. Darparwch ymatebion amserol i geisiadau am addasiadau i’r gweithle. Er enghraifft, eu cydnabod o fewn pythefnos.

Monitrwch ac adolygwch arferion y gweithle. Gall hyn helpu i sicrhau eich bod yn eu cymhwyso'n briodol, yn gymesur a'u bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.

Enghraifft

Sut y canolbwyntiodd rheolwr ar fynediad corfforol a gwell recriwtio

Roedd rheolwr am i'w meithrinfa cyn-ysgol fod yn hygyrch i bawb. Nid oedd am allgáu unrhyw un o'i chwsmeriaid na'i staff, er nad oedd yr un o'i staff wedi dweud wrthi am unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor.

Beth newidiodd

Fe wnaeth hi greu polisi hygyrchedd ar gyfer y busnes. Meddyliodd hi’n arbennig am fynediad corfforol i'r ddarpariaeth cyn-ysgol. Ystyriodd hi’r defnydd o ddrysau a ffenestri, a gweithredu polisi llawr clir. Penderfynodd y byddai ei holl hysbysiadau a thestun ysgrifenedig mewn fformat Hawdd ei Ddarllen.

Y manteision

Ymunodd gweithiwr rhannol ddall â'r cyn-ysgol. Roedd yn gallu cyrchu'r holl gyfleusterau a mannau yn y feithrinfa. Roedd ei gyfnod sefydlu fel aelod newydd o staff yn syml hefyd oherwydd bod yr holl ddeunydd darllen mewn fformat Hawdd ei Ddarllen. Daeth y gweithiwr rhannol ddall yn gyflym yn aelod amhrisiadwy o'r tîm a ffynnodd yn ei rôl.

Codwch ymwybyddiaeth a hyrwyddo arferion cynhwysol

Gall modelu rôl a hyrwyddwyr anabledd gefnogi arferion cynhwysol.

Codwch ymwybyddiaeth o gymorth mewnol ac allanol sydd ar gael trwy weithgareddau hybu iechyd. Gallai hyn gynnwys:

  • hyfforddiant ar reoli straen
  • amlygrwydd eich rhwydweithiau cymorth i gymheiriaid

Darparwch gyngor ychwanegol

Os oes angen help arnoch i ddatblygu datrysiad i sefyllfa gymhleth, gallech gael cyngor cymwys.

Gallai hyn ddod o:

  • y cynllun Mynediad i Waith
  • cynlluniau cynghori i gyflogeion
  • AD
  • darparwr iechyd galwedigaethol

Mynediad i Waith

Gall Mynediad i Waith helpu gweithiwr i gael gwaith neu aros mewn gwaith os oes ganddo gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd.

Bydd y cymorth a gânt yn dibynnu ar eu hanghenion. Trwy Fynediad i Waith, gallant wneud cais am:

  • grant i helpu i dalu am gymorth ymarferol gyda gwaith
  • cymorth i reoli iechyd meddwl yn y gwaith
  • arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau

Is this page useful?

Updated: 2024-01-18