Mae'r dudalen hon yn disgrifio arfer gorau. Nid yw'n esbonio'r gyfraith

7. Defnyddiwch gyfathrebu effeithiol a hygyrch

Fel cyflogwr, mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyfathrebu mewn ffordd effeithiol a hygyrch â phawb sy'n gweithio i chi, gan gynnwys gweithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor. Byddwn yn cyfeirio at y ddau fel ‘gweithwyr’ yn y canllawiau hwn.

Gall hyn gynnwys:

  • sicrhau bod gwybodaeth mewn fformat hygyrch
  • cyfathrebu mewn modd amserol fel bod gweithwyr yn deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau
  • sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ac yn ymarferol

Gall cyfathrebu mewn ffordd effeithiol a hygyrch:

  • gwneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi ac yn fwy hyderus
  • cefnogi dychweliad gweithiwr i'r gwaith yn ystod absenoldeb salwch, wrth gadw mewn cysylltiad

Darparwch gyfathrebiadau hygyrch

Mae angen i'ch cyfathrebu ar arferion y gweithle fod yn:

  • hygyrch
  • clir
  • cryno
  • hawdd ei ddeall

Ystyriwch fformat, cyfrwng a chynnwys unrhyw gyfathrebiadau. Gwnewch yn siŵr ei fod yn gynhwysol i'ch holl weithwyr. Er enghraifft, meddyliwch am ddefnyddio:

  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Hawdd ei Ddarllen
  • sain i destun
  • lefelau cyferbyniad digonol rhwng cefndir a thestun
  • fformatau hygyrch i ddarllenwyr sgrin/trosleisiau a thechnoleg gynorthwyol arall

Ymgynghorwch â chynrychiolwyr gweithwyr ac unrhyw grwpiau anabledd yn eich sefydliad.

Enghraifft

Sut y gwnaeth staff wella eu sgiliau cyfathrebu ar ôl newid i weithio o bell

Mae'r newid i weithio o bell mewn elusen fach wedi golygu cynnydd yn y defnydd o alwadau fideo ar gyfer cyfarfodydd. I weithiwr byddar, mae'n anoddach dilyn galwadau fideo a chymryd rhan ynddynt. Weithiau mae hi’n cael ei hallgáu o gyfarfodydd, penderfyniadau a sgyrsiau.

Beth newidiodd

Gyda'i rheolwr, archwiliodd y gweithiwr gamau ymarferol i gefnogi cyfathrebu. Fe wnaethon nhw atgoffa cydweithwyr i geisio siarad un ar y tro. Gofynnwyd i bobl anfon deunydd dilynol ysgrifenedig ar ôl sgyrsiau a chyfarfodydd. Mae'r elusen bellach yn defnyddio meddalwedd fideo alwad ag isdeitlau wedi'u hymgorffori ynddo, ac yn darparu gwasanaeth darllen gwefusau.

Y manteision

Croesawodd y gweithiwr y gefnogaeth a chaiff ei gynnwys mewn cyfarfodydd a phenderfyniadau. Mae'n adolygu ei gofynion cyfathrebu yn rheolaidd gyda'i rheolwr llinell ac AD i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.

Annog cyfathrebu da

Annog deialog agored rhwng rheolwyr a gweithwyr fel rhan o arferion gwaith arferol.

Dylai rheolwyr fod yn sensitif bob amser a chadw sgyrsiau gyda gweithwyr yn gyfrinachol.

Gwnewch yn siŵr bod rheolwyr ond yn rhannu'r wybodaeth hon pan yw’n:

Darparwch gymorth i reolwyr

Mae angen i chi sicrhau bod rheolwyr yn cael cymorth priodol. Meddyliwch sut y gall rheolwyr gyrchu hyfforddiant neu gyngor ychwanegol os oes angen. Gallwch ddarparu hwn yn fewnol neu'n allanol, neu gyfeirio at adnoddau am ddim ar-lein.

Is this page useful?

Updated:2023-11-30