RHYBUDD: Asbestos

Contents

ar gyfer gweithwyr cynnal a chadw, atgyweirio ac adnewyddu adeiladau

Byddwch yn ymwybodol o asbestos - y llofrudd cudd

MAE LLWCH ASBESTOS YN LLADD

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl ym Mhrydain yn marw o afiechydon sy'n gysylltiedig ag asbestos, gan iddynt anadlu llwch asbestos flynyddoedd maith yn ôl. Mae'r dioddefwyr yn cynnwys pobl a fu'n gweithio yn y masnachau adeiladu. Nid oes modd gwella o'r afiechydon hyn.

Os mai saer coed, saer dodrefn, ffitiwr siop, plwmwr, trydanwr ayb ydych chi ac os ydych yn gwneud gwaith cynnal a chadw, atgyweirio ac adnewyddu ar adeiladau hyn, gall fod risg o lwch asbestos.


Y PERYGL

Mae miloedd o dunelli o asbestos i'w cael o hyd mewn adeiladau hyn. Daw'r perygl i chi wrth ddrilio, torri, sandio neu aflonyddu ar ddeunydd a wnaed o asbestos ac anadlu'r llwch i mewn.


CEIR ASBESTOS

  • fel gorchudd inswleiddiol a chwistrellwyd ar waith dur a choncrit ayb
  • fel lagio ar bibellau a boeleri ayb
  • fel bwrdd inswleiddio mewn waliau, ar ddrysau a nenfydau
  • fel sment asbestos ar gyfer gorchuddion toeon a waliau, pibellau a thanciau ayb
  • mewn peth plastrau addurniadol

DYMA DDYLECH EI WNEUD

  • Gofyn a fu archwiliad am asbestos yn gweithle.
  • Os na fu archwiliad, triniwch unrhyw inswleiddion neu fwrdd inswleiddio ayb fel asbestos.
  • Os ydych yn ansicr ynghylch sut i barhau, stopiwch weithio a gofynnwch am gyngor.
  • Defnyddiwch y dulliau gwaith diogel a'r offer a ddarperir gan eich cyflogwr.
  • Rhwystrwch lwch asbestos rhag cael ei ryddhau neu ei gadw i'r lefel isaf posibl. Sicrhewch nad yw'n lledu i effeithio ar bobl eraill.

RHAI ARFERION GWEITHIO DA

  • Cadwch ddeunydd asbestos (gan gynnwys gwastraff) yn llaith tra'n gweithio arnynt.
  • Peidiwch â defnyddio offer pwer ar ddeunydd asbestos; maent yn creu llwch. Defnyddiwch offer llaw yn lle hynny.
  • Defnyddiwch fwgwd addas (resbiradur) pan na allwch osgoi creu llwch. Peidiwch â'i anadlu i mewn. Ni allwch weld ffibrau niweidiol asbestos pan fyddant yn yr aer.
  • Cliriwch lwch asbestos wrth fynd ymlaen gyda sugnwr llwch 'Math H'. Peidiwch â defnyddio ysgub na brwsh.
  • Cyn iddo sychu, bagiwch wastraff asbestos ddwywaith mewn bagiau polythen cadarn.
  • Labelwch yr un allanol i ddangos ei fod yn cynnwys asbestos.
  • Ymolchwch cyn prydau bwyd a chyn i chi adref.
  • Peidiwch â mynd â dillad amddiffynnol sydo wedi eu difwyno gan asbestos adref i'w golchi; dylai'ch cyflogwr eu hanfon i olchdy arbenigol.

Sicrhewch fod eich cydweithwyr yn deall y peryglon. Dangoswch y cerdyn hwn iddynt.


GWYBODAETH YCHWANEGOL

Dylai'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth gyflaw a hyfforddiant i chi ar gyfer gweithio gydag asbestos. Bydd eich cynrychiolydd diogelwch, arolygwr HSE neu arolygwyr yr awdurdod lleol yn gallu rhoi cymorth a chyngor pellach i chi. Dylid cyfeirio ymholiadau eraill at Ganolfan Gwybodaeth HSE, Broad Lane, Sheffield S3 7HQ.

Mae cyhoeddiadau Cymraeg, gan gynnwys copïau sengl pellach o'r daflen Abestos a chi a Llwch Asbestos - y llofrudd cudd, ar gael yn rhad ac am ddim o Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas, Llanishen, Caerdydd CF14 5SH. Mae cyhoeddiadau HSE am ddim a'r rhai sydd ar werth ar gael drwy'r post o HSE Books Ffôn: +44 (0)333 202 5070.

Mae'r cerdyn poced hwn yn cynnwys gwybodaeth am arferion da nad ydynt yn orfodol ond a allai fod o ddefnydo i chi wrth ystyried yr hyn sydd angen i chi wneud. IND(G)188P(W) 4/97 C20.


Related content

Is this page useful?

Updated 2024-08-14