Contents
- Mythau cyffredin ynglŷn â rheoliadau
- Persbectif y swyddfa
- Gwaith Papur-beth sydd angen i chi wneud a pham
- Trydan
- COSHH-Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Diogelwch
- Anhwylder
- Y gweithle
- Llyfrau/taflenni perthnasol
Mythau cyffredin ynglŷn â rheoliadau
'Mae yna ormod o reoliadau a gormod o lenwi ffurflenni. Petawn i'n darllen popeth a gyhoeddir gan y llywodreath ni fyddai amser gennyf i redeg fy musnes'.
Cwyn gyfarwydd? I'ch helpu chi, mae'r llyfryn hwn yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud mewn swyddfa lle mae'r risgiau i iechyd a diogelwch yn isel. Yr egwyddor sy'n sylfaen i lawer o'n cyfraith iechyd a diogelwch yw bod yna gydbwysedd rhwng y risg a chost ei atal. Lle mae'r risgiau yn isel, er enghraifft mewn swyddfeydd bach ni ddylai gostio llawer i sicrhau eich bod yn cadw o fewn y gyfraith. Edrychwn ar bum enghraifft:
Rheoli Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
'Mae angen asesiad ysgrifenedig o'r risg arnaf er mai dim ond ysgrifenyddes rhan-amser rwyf yn ei chyflogi.'
Gwir neu Anwir?
Anwir, Dim ond pan gyflogir pum person neu fwy y mae angen asesiadau ysgrifenedig a hyd yn oed bryd hynny dim ond canfyddiadau arwyddocáol y mae angen eu cofnodi.
Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
'Dywedodd rhywun wrthyf fod yn rhaid profi'r lamp ar fy nesg bob chwe mis.'
Gwir neu Anwir?
Anwir, Nid oes gofyniad penodol i brofi offer trydanol yn y rheoliadau hyn.
Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH yn fyr)
'Mae angen asesiad COSHH ar gyfer pob sylwedd rydych yn ei ddefnyddio, yn cynnwys cwyr lloriau.'
Gwir neu Anwir?
Anwir, Dim ond ar gyfer sylweddau peryglus y mae angen asesiadau. Ar gyfer cynnyrch a ddefnyddir mewn swyddfeydd mae hyn yn golygu'r rheini sydd â labeli yn dwyn rhybudd diogelwch penodol. Y canlyniad fel arfer fydd penderfyniad i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
Rheoliadau Trin â Llaw
'Ni ellir gofyn i unrhyw un godi mwy na 25 kg.'
Gwir neu Anwir?
Anwir, Nid yw'r rheoliadau yn gosod terfynau. Eu bwriad yw gostwng y nifer fawr o anafiadau codi sy'n gostus iawn i gyflogwyr a'r wlad.
Rheoliadau Offer Sgriniau Arddangos
'Mae hidlyddion sgriniau i ostwng ymbelydredd bellach yn orfodol.'
Gwir neu Anwir?
Anwir, Mae ymbelydredd o VDUs o lefel isel. Nid oes rhaid i chi ddarparu hidlyddion ar gyfer sgriniau.
Bydd y llyfryn hwn yn eich cynorthwyo i ddeall yr agweddau ar y gyfraith iechyd a diogelwch y mae angen i chi eu gwybod ac yn egluro pa agweddau nad ydynt yn berthnasol i weithleoedd risg isel.
Persbectif y swyddfa
Nid yw pobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd bach yn ymddangos yn amlwg mewn ystadegau damweiniau cenedlaethol. Ym 1991/92, dim ond naw damwain fawr a ddigwyddodd i bob 100 000 o bobl a gyflogwyd yn y sector swyddfeydd o'u cymharu â 128 i bob 100 000 yn y sector gweithgynhyrchu.
Mae damweiniau yn digwydd mewn swyddfeydd ond mae'n rhaid cyfateb y mesurau iechyd a diogelwch â'r lefelau o risg.
Rhoddir cyngor ar ddiwedd y llyfryn ar sut i gael mwy o fanylion ar bynciau penodol ond gallwch ofyn i'ch arolygwr iechyd a diogelwch lleol os ydych yn ansicr am unrhyw beth.
Mae'r llyfryn hefyd yn rhoi gwybodaeth am daflenni HSE pellach a allai fod o ddefnydd i chi.
Beth bynnag yw maint eich busnes dylech ddeall y fframwaith cyfreithiol sylfaenol. Mae gennych ddyletswyddau:
i'ch gweithwyr (yn cynnwys rhai o dan hyfforddiant), ble bynnag maent yn gweithio;
i ymwelwyr â'ch swyddfa;
i'r rheini yr effeithir arnynt gan eich gwaith (cymdogion neu'r cyhoedd);
i bobl sy'n defnyddio cynnyrch rydych yn eu cyflenwi;
i ddefnyddwyr eich gwasanaethau, er enghraifft os ydych yn dylunio offer;
i'r rheini sy'n defnyddio eich offer neu sy'n gweithio mewn gweithle a ddarperir gennych (er enghraifft contractwyr a staff asiantaeth).
Yn syml, mae'n rhaid i chi ofalu am y bobl y gallai'r hyn rydych yn ei wneud effeithio arnynt.
Nodiadau
- Mae'r gyfradd anafiadau a nodir ar gyfer pob math o swyddfa nid rhai bach yn unig.
- Ffynhonnell: HSE Annual Report 1991/92 Health and Safety in Service Industries 1991/92
Gwaith Papur - beth sydd angen i chi wneud a pham
Dylai perchenogion a rheolwyr swyddfeydd bach, risg isel fod yn ymwybodol o'r gofynion canlynol a allai fod yn berthnasol:
Cofrestru
Mae gan swyddfeydd lle cyflogir pobl ddyletswydd i gofrestru gan ddefnyddio ffurflen swyddogol OSR1. Gellir ei chael o'ch awdurdod gorfodi (yn gyffredinol, hwn fydd eich Adran Iechyd yr Amgylchedd). Mae'r ffurflen ond yn gofyn am fanylion sylfaenol iawn, fel eich cyfeiriad cywir a faint o bobl rydych yn eu cyflogi a dim ond unwaith mae'n rhaid ei chwblhau. Mae'n galluogi'r awdurdod gorfodi i wybod pwy ydych chi a beth rydych yn ei wneud.
Gwybodaeth i weithwyr
Mae'n ofynnol i chi roi gwybodaeth benodol i'ch staff am gyfraith iechyd a diogelwch. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy ddarparu poster yn cynnwys y wybodaeth hon. Enw'r poster yw Cyfraith Iechyd a Diogelwch - Beth ddylech ei wybod ac mae'n costio tua £4 gan HSE Books. Gellir cael taflen unigol Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati - Cyngor i gyflogedigion hefyd.
Rhoi gwybod am ddamweiniau
Os digwydd damwain y dylid hysbysu'r awdurdodau yn ei chylch mae'n ofynnol i chi hysbysu'r awdurdod gorfodi a chwblhau ffurflen F2508(W). Gellir cael y ffurflenni hyn o HSE Books ond i fod yn ddamwain y dylid hysbysu'r awdurdodau yn ei chylch mae'n rhaid i'r ddamwain fod yn gysylltiedig â gweithgaredd gwaith. Mae taflen ar gael am ddim Canllaw pawb i RIDDOR '95 sy'n rhoi manylion pellach am y digwyddiadau perthnasol.
Polisi diogelwch ysgrifenedig
Mae gennych ddyletswydd i wneud trefniadau digonol ar gyfer iechyd a diogelwch, ond dim ond os ydych yn cyflogi pum person neu fwy y mae angen polisi ysgrifenedig. Os oes angen i chi ysgrifennu un gwnewch hwn yn fyr a pherthnasol. Gellir dod o hyd i arweiniad ar ddrafftio polisi syml yn y cyhoeddiad HSE Writing a safety policy statement: advice to employers.
Tystysgrif (Yswiriant Gorfodol) Atebolrwydd Cyflogwyr
Rhaid arddangos eich tystysgrif yswiriant.
Asesiadau
Mae'r Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn cynnwys dyletswydd i gyflawni asesiadau risg, ond nid oes rhaid i chi gofnodi asesiad os:
ydych yn cyflogi llai na phum person;
nad yw canfyddiadau'r asesiad yn arwyddocáol, hynny yw nad oes angen unrhyw fesurau arbennig;
gellir disgrifio/rheoli'r risg yn hawdd; neu
bydd yn ymwneud â gweithgaredd sydd yn amodol ar asesiad penodol o dan reoliadau eraill (er enghraifft COSHH).
Mae taflen ar gael sy'n rhoi mwy o wybodaeth am beth ddylid ei wneud a'r hyn na ddylid ei wneud wrth asesu risg - 5 cam i asesu risgiau.
Trydan
Achosir mwy o ddamweiniau trydanol gan blygiau, socedi a gwifrau diffygiol na'r teclynnau eu hunain. Yn gyffredinol, mae swyddfeydd yn llai peryglus na gweithleoedd eraill ond:
darparwch allfeydd socedi digonol gan osgoi neu leihau'r defnydd o addaswyr. Gall socedi wedi eu gorlwytho arwain at berygl o dân;
profwch y ddyfais cerrynt gweddilliol, os oes un wedi ei gosod. Y cwbl sy/n rhaid ei wneud yw gwthio botwm prawf a gall helpu i gynnal effeithlonrwydd y ddyfais. Fel arfer, rhoddir cyngor ar ba mor aml y dylid gwneud hyn ar gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr;
peidiwch â defnyddio cymalau wedi eu tapio i gysylltu ceblau gan nad oes ganddynt y cryfder mecanyddol sydd ei angen nac ychwaith inswleiddio digonol na diogelwch rhag hylifau. Dylid adnewyddu ceblau sydd wedi eu difrodi yn llwyr ond os oes rhaid uno ceblau dylid defnyddio'r cysylltwyr cywir;
cynhaliwch eich archwiliad gweledol eich hun o blygiau a gwifrau a dylech eu hatgyweirio fel y bo angen. Mae'r namau i fod yn wyliadwrus ohonynt yn cynnwys difrod ffisegol i'r cebl, methiant y daliwr cortyn wrth y plwg ac arwyddion o ordwymo. Os canfyddir namau dylai rhywun sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gwblhau'r dasg yn ddiogel wneud y gwaith atgyweirio;
ystyriwch a oes gennych offer y mae angen archwiliad a phrawf manylach arnynt neu a yw'r gosodiad ei hun wedi dod i'r pwynt lle mae'n debygol bod angen prawf arno. Er enghraifft, gall offer mewn swyddfeydd a gaiff ei symud yn aml neu sydd â gwifren sy'n cael ei throi llawer ddatblygu nam mewnol;
peidiwch ag anwybyddu arwyddion amlwg fel switsio diffygiol neu stopio ysbeidiol. Gallai'r rhain ddynodi nam mewnol fel gwifren rydd a allai beri i waith metel mewnol ddod yn fyw;
diffoddwch offer cyn datblygio a chyn glanhau;
byddwch yn ymwybodol o sut i ddelio gyda sioc drydanol. Gellir cael cerdyn sy'n rhoi'r wybodaeth hon gan HSE (ffôn: 0151 951 4434), gan ddyfynnu cyfeirnod F731;
anogwch staff i roi gwybod am unrhyw offer trydanol nad yw'n gweithio'n iawn;
sicrhewch fod staff yn ymwybodol o'r camau diogelwch hyn;
byddwch yn wyliadwrus o ddiogelwch trydanol oherwydd gallai'r canlyniadau arwain at drychineb.
Rhoddir cyngor pellach yn nhaflen HSE Maintaining portable electrical equipment in offices and other low-risk environments.
COSHH Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau y caiff y risgiau o sylweddau peryglus eu rheoli'n iawn. O safbwynt swyddfeydd, sylweddau peryglus yw'r rhai hynny sydd â label rhybudd - os oes unrhyw amheuaeth dylai'r cyflenwr allu dweud wrthych. Rhaid i'r cyflenwr hefyd ddweud wrthych pa gamau diogelwch i'w cymryd gyda'r sylwedd. Fel arfer darperir y wybodaeth ar label neu daflen data. Mae COSHH yn golygu mai eich swyddogaeth chi yw gweld a yw defnyddio'r sylwedd yn wirioneddol angenrheidiol. Os ydyw, mae'n rhaid i chi sicrhau bod y camau diogelwch yn gweddu i'ch amgylchiadau a bod eich staff yn eu deall ac yn eu dilyn.
Ar gyfer sylweddau masnachol a werthir gan gyflenwyr offer swyddfa dyna'r cyfan sydd i COSHH. Gofynnwch am gyngor, gan ddechrau gyda'r cyflenwr, os ydych yn defnyddio sylweddau mwy soffistigedig.
Rhoddir gwybodaeth bellach ar COSHH yn y llyfryn HSE COSHH: canllaw byr newydd ar gyfer cyflogwyr.

Diogelwch
Mae llithro, baglu a chwympo yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ddamweiniau mewn swyddfeydd, nifer ohonynt pan fydd staff yn symud neu yn cario llwythi. Maent yn digwydd oherwydd cyflwr lloriau, goleuo gwael neu annibendod. Gellir osgoi damweiniau o'r fath yn hawdd trwy gofio'r pwyntiau canlynol:
peidiwch â gadael gwifrau i orwedd o amgylch y lloriau gan greu perygl o faglu;
cliriwch ollyngiadau yn gyflym;
adnewyddwch neu atgyweiriwch orchuddion llawr sydd wedi rhwygo ayb;
darparwch ganllawiau ar risiau a sicrhewch fod y grisiau wedi eu goleuo'n dda;
peidiwch â rhwystro'r ffordd drwy goridorau.
Anhwylder

Mae'n annhebygol y bydd angen monitro'r aer neu archwiliadau iechyd i'r staff mewn swyddfeydd bach ond dylech ystyried y canlynol:
gwnewch weithfannau yn gyfforddus gyda seddau lle bo angen. Efallai y bydd gofyn i seddau allu cael eu haddasu i uchder y bwrdd gweithio a gall troedfeinciau ostwng straen cyhyrol;
cadwch eich blwch cymorth cyntaf yn llawn a phenodwch rywun i gymryd yr awenau mewn argyfwng a galw ambiwlans. Os oes gennych weithwyr rhan amser trefnwch i'r ddyletswydd gael ei rhannu;
yn gyfreithiol, nid oes angen person sydd wedi ei hyfforddi mewn cymorth cyntaf mewn swyddfa fach ond mae nifer o fusnesau yn cydnabod gwerth cael un;
gwnewch drefniadau er mwyn i staff allu defnyddio mannau/ystafelloedd gorffwys heb brofi anesmwythder oherwydd mwg tybaco. Mae taflen yr HSE Smygu goddefol yn y gwaith yn rhoi gwybodaeth bellach;
mae trin, codi a chario yn brif achosion eraill o anafiadau. Os oes angen symud cypyrddau, desgiau neu eitemau trwm neu swmpus eraill yna cymerwch gamau, er enghraifft darparu troli neu olwynion, er mwyn eu symud heb berygl o anafu'r cefn;
rhowch wybod i'ch awdurdod lleol1 os oes gennych system awyru sydd â thŵr oeri dŵr. Cofiwch y bydd angen archwiliadau rheolaidd a gwaith cynnal a chadw i atal tyfiant bacteria legionella. Mae gwasanaethau dŵr poeth hefyd yn ffynhonnell bosibl o facteria legionella a rhoddir gwybodaeth bellach yn y llyfryn HSE The control of legionellosis including legionnaire's disease;
Mae'r prif broblemau a all godi gyda'r defnydd o VDUs yn ymwneud â chynllun y gwaith neu'r weithfan. Os oes defnydd dwys neu barhaol yn eich swyddfa, sicrhewch fod yna seibiannau digonol a bod y defnyddwyr yn gwybod sut i drefnu eu gwaith neu weithfan i osgoi symudiadau lletchwith, adlewyrchiadau a phoenau. Rhoddir cyngor pellach yn llyfrynnau HSE Ergonomics at work a Gweithio gyda VDUs;
ystyriwch a yw'ch staff mewn perygl o ddioddef trais pan yn cludo arian neu'n ymdrin â'r cyhoedd. Mae arweiniad ar gael yn y llyfryn HSE Violence to staff.
1 Mae angen hysbysu eich cyngor dosbarth lleol, eich Cyngor Bwrdeistref yn Llundain, neu yn yr Alban, eich cyngor ynys neu gyngor dosbarth.Back
Y gweithle
Ceir y gofynion sylfaenol isod:
Toiledau - darparwch ddigon o doiledau ar gyfer gweithwyr a chadwch nhw yn lân ac mewn cyflwr da.
Golchi - darparwch ddŵr tap oer a phoeth (neu gynnes), sebon a thywelion neu ddull arall o sychu.
Dŵr yfed - darparwch gyflenwad o ddŵr yfed iachus.
Tymheredd - dylai tymheredd yr ystafell fod o leiaf yn 16 °C lle mae pobl yn eistedd i weithio.
Glanweithdra - cadwch y gweithle mewn cyflwr glân.
Goleuo/Golau - sicrhewch fod yna olau digonol (golau naturiol yn ddelfrydol) i osgoi problemau blinder gweledol.
Gofod - darparwch leiafswm o 11 metr ciwbig ar gyfer pob person sydd mewn gweithfan yn barhaol.
Awyru - ar gyfer y rhan fwyaf o swyddfeydd, bydd agor y ffenestri yn darparu awyriad digonol.
Rhoddir gwybodaeth ar bob un o'r pwyntiau hyn yn Approved Code of Practice and Guidance. Workplace health, safety and welfare HSE.
Os oes gennych lifft, sicrhewch y caiff ei archwilio gan berson cymwys (er enghraifft eich cwmni yswiriant) bob chwe mis.
Llyfrau/taflenni perthnasol
Cyhoeddiadau Prisiedig
Hanfodion iechyd a diogelwch yn y gwaith 1995 (W) ISBN 0 7176 0838 7
The control of legionellosis including legionnaire's disease 1993 HS(G) 70 ISBN 0 7176 0451 9
A Guide to the Health and Safety at Work etc Act 1974 L1 1993 ISBN 0 7176 0441 1
A Guide to the Offices, Shops and Railway Premises Act 1963 HS(R)4 (rev) 1989 ISBN 0 11 885463 1
Cyfraith Iechyd a Diogelwch - Beth ddylech ei wybod (poster) 1989 ISBN 0 11 701573 3
Maintaining portable electric equipment in low-risk environments IND(G) 160 L ISBN 0 7176 0719 4 (ar gael mewn pecynnau o bymtheg)
Workplace health, safety and welfare. Workplace (Health, Safety and Welfare) Regulations 1992: Approved Code of Practice and Guidance L24 1992 ISBN 0 7176 0413 6
Cofnodi anaf neu ddigwyddiad peryglus (Ffurflen 2508) (W) Cofnodi achos o afiechyd (F2508A)(W) ISBN 0 7176 1138 8
Taflenni Am Ddim
COSHH - canllaw byr newydd ar gyfer cyflogwyr: gofynion Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) 1994 IND(G) 136L(W)
If the task fits Ergonomics at Work 1994 IND(G) 90L
First-aid needs in your workplace: your questions answered (rev) 1990 IND(G) 3L
5 cam i asesu risg 1994 IND(G) 163 L(W)
Trin llwythi â llaw. Canllaw byr i gyflogwyr 1993 IND(G) 143L(W)
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati Cyngor i weithwyr 1990 HSC 5(W)
Smygu goddefol yn y gwaith 1992 IND(G) 63L
Canllaw pawb i RIDDOR '95 1996 HSE 31(W)
Violence at work IND(G) 69L Gweithio gyda VDUs 1994 IND(G) 36L (diwyg)(W)
Writing a safety policy statement: advice for employers 1987 HSC 6 (ar gyfer y cwmnïau hynny sydd â phum gweithiwr neu fwy ac y mae datganiad polisi ysgrifenedig yn ofyniad cyfreithiol).
Mae HSE yn cynhyrchu nifer fawr o lyfrynnau canllaw. Os na ddangosir y pwnc sydd o ddiddordeb i chi, mae rhestr lawn o gyhoeddiadau prisiedig ar gael gan HSE Books.
Gwybodaeth bellach
Gellir cael cyngor am ddim drwy gysylltu â'r arolygwr iechyd a diogelwch yn y cyngor lleol, sydd fel arfer wedi ei leoli yn Adran Iechyd yr Amgylchedd neu gan HSE.
Os yw'ch swyddfa yn gysylltiedig â neu'n rhan o ffatri yna yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fydd eich awdurdod gorfodi.
Os oes angen cyngor arnoch am gamau diogelu rhag tân dylech gysylltu â swyddog atal tân eich awdurdod lleol.
Gellir cael cyhoeddiadau Cymraeg am ddim o: Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas, Llanishen, Caerdydd CF14 5SH.
Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth a'r rhai sydd am ddim ar gael drwy'r post gan HSE Books, TSO Customer Services, PO Box 29, Norwich, NR3 1GN, Ffôn: +44 (0)333 202 5070
Dylid cyfeirio ymholiadau eraill at Ganolfan Gwybodaeth HSE, Broad Lane, Sheffield S3 7HQ.
Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arfer da nad ydynt yn orfodol ond a allai fod o ddefnydd i chi wrth ystyried beth sydd angen i chi ei wneud.
Gellir atgynhyrchu'r cyhoeddiad hwn am ddim ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu werthiant. Mae'r wybodaeth ynddo yn gyfredol ar 4/97. Dylid cydnabod y ffynhonnell fel HSE.
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
IND(G) 173L(W) C20 4 97