Cynllun Iaith Gymraeg

Mae hwn wedi ei baratoi gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ôl yr egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin ar sail cydraddoldeb.

Mae'r Cynllun yn gosod allan ymrwymiad  Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGIaD) i ddarparu gwasanaeth iaith Gymraeg sydd yn ystyried y galwadau gan, ac sy'n berthnasol i, siaradwyr Cymraeg.

Crynodeb

Mae AGIaD wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddiwygio ei Gynllun Iaith Gymraeg. Dyma'r canlyniad.

Mae'n gosod allan bwriad AGIaD i ddarparu Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer ei waith yng Nghymru.

Mae'r Cynllun hwn yn cwmpasu pob agwedd o waith gan gynnwys:

  • gohebiaeth
  • cyfathrebu ar y ffôn
  • cyfarfodydd â'r cyhoedd
  • ymgyrchoedd
  • cyhoeddiadau gan gynnwys ffurflenni  

Mae HSE wrthi'n gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar hyn o bryd i ddiweddaru ac adolygu ei gynllun iaith Gymraeg.

Translate this page

Is this page useful?

Updated 2020-09-16