Datganiad i'r Wasg
Rhybudd hse i weithredwyr caeau ffeiriau ar ôl i gwmni gael ei erlyn
Cyf: 711/W/08 - 18fed Rhagfyr 2008
Galwodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch heddiw ar i weithredwyr caeau ffeiriau ddiogelu'r cyhoedd drwy sicrhau bod eu staff yn cael eu hyfforddi a'u goruchwylio'n gywir.
Gwnaed yr apêl ar ôl i gwmni Oakwood Leisure Ltd gael ei erlyn am ddigwyddiad, a arweiniodd at farwolaeth Hayley Williams, merch 16 oed.
Syrthiodd Hayley, o Bont-y-pŵl, 100 troedfedd o'r Hydro Ride ym mharc Oakwood yn Sir Benfro ym mis Ebrill 2004.
Yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Iau) cafodd y cwmni ddirwy o £250,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £80,000 ar ôl iddo bledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach i gyhuddiad o dan Adran 3(1) o Ddeddf Iechyd a Ddiogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.
Dywedodd yr Arolygydd HSE, Phil Nicolle: "Rydym yn cydymdeimlo'n fawr â theulu Hayley. Dylai'r achos trist hwn fod yn rhybudd i weithredwyr caeau ffeiriau bod yn rhaid iddynt roi'r flaenoriaeth i ddiogelwch uwchlaw pob dim.
"Mae caeau ffeiriau, gan gynnwys parciau thema, yn denu ac yn diddanu miliynau o bobl yn ddiogel bob blwyddyn, ond yn anffodus ceir damweiniau a digwyddiadau o hyd. Ac eto achosir y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, fel yn yr achos hwn, gan fethiannau rheolwyr.
"Dangosodd ein harchwiliad fethiannau systematig gan gwmni Oakwood Leisure Ltd i sicrhau bod eu staff yn cael eu hyfforddi a'u goruchwylio'n gywir i sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau diogelwch sylfaenol sy'n hanfodol yn achos reidiau megis yr Hydro.
“Nid yw'r un farwolaeth nac anaf difrifol ar gae ffair neu mewn parc thema yn dderbyniol ac mae mesurau priodol i reoli peryglon yn hanfodol. Fel yn yr achos hwn, archwilir unrhyw ddigwyddiadau a geir yn drylwyr i sicrhau y caiff unrhyw gamau adfer sydd eu hangen eu nodi a'u cymryd i leihau'r posibilrwydd y ceir digwyddiadau tebyg.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd ym mis Gorffennaf 2008, plediodd Oakwood Leisure Ltd yn euog i gyhuddiad o dan Adran 3(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.
- Mae Adran 3 (1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 yn nodi: “It shall be the duty of every employer to conduct his undertaking in such a way as to ensure, so far as is reasonably practicable, that persons not in his employment who may be affected thereby are not thereby exposed to risks to their health or safety.”
- Cofnododd y cwest i farwolaeth Hayley Williams reithfarn naratif ym mis Mai 2005, a nododd i Hayley gael ei “ejected from the Hydro ride because she was not properly restrained and died as a result of the injuries she sustained.”
Cyhoeddwyd ar ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gan Adran Newyddion a Chysylltiadau Cyhoeddus Cymru Swyddfa Hysbysrwydd Ganolog. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0844 800 6823.