RIDDOR - Cymraeg
Ffurflenni arlein
Beth yw RIDDOR?
Mae RIDDOR yn sefyll am Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995, a ddaeth i rym ar Ebrill 1 1996. Mae RIDDOR 95 yn golygu ei fod yn ofyniad cyfreithiol i adrodd ar ddamweiniau, glefydau a digwyddiadau peryglus difrifol sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’n perthyn i bob gweithgaredd gwaith, heb berthyn i bob math o ddigwyddiad.
Paham mae angen imi adrodd ar ddigwyddiad?
Mae’n ofyniad cyfreithiol i adrodd ar ddamweiniau a salwch yn y gwaith. Mae’r wybodaeth yn galluogi awdurdodau (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol) i adnabod ble a sut mae’r risgau’n codi, ac i ymchwilio i ddamweiniau difrifol. Wedyn gallwn helpu a rhoi cyngor ar y modd i ostwng anafiadau a chlefydau yn eich gweithle.
Beth sy'n rhaid imi ei wybod am RIDDOR?
Os ydych yn gyflogwr, yn hunangyflogedig neu os mai chi yw’r person sy’n rheoli safle gwaith, mae dyletswyddau arnoch o dan y Rheoliadau.
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Dim llawer! I’r mwyafrif o fusnesau, mae damwain, ddigwyddiad peryglus neu achos o glefyd y dylid adrodd arno’n gymharol brin.
Pryd fyddaf yn gorfod gwneud adroddiad?
Mae rhaid adrodd ar y canlynol:
- marwolaethau;
- anafiadau mawr;
- anafiadau sy’n parhau am fwy na thri diwrnod;
- clefydau;
- digwyddiadau peryglus
Marwolaeth neu anaf difrifol
Mae rhaid ichi adrodd ar unwaith os yw damwain yn gysylltiedig â gwaith gan olygu bod:
- un o’ch cyflogeion, neu berson hunangyflogedig sy’n gweithio ar eich safle, yn cael ei ladd neu’n dioddef anaf mawr (gan gynnwys achosion o drais corfforol); neu
- aelod o’r cyhoedd yn cael ei ladd neu’n mynd i’r ysbyty.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen briodol.
Anafiadau mawr
- Toriad, heblaw i fysedd, bodiau a bysedd troed
- Trychiad
- Tynnu ysgwydd, clun, pen-glin neu asgwrn cefn o’i le
- Colli golwg (dros dro neu’n barhaol)
- Llosg cemegol neu fetel poeth i’r llygad neu unrhyw anaf treiddgar i’r llygad
- Anaf sy’n digwydd fel canlyniad i sioc drydanol neu losg trydanol sy’n arwain at anymwybyddiaeth, neu sydd angen dadebriad neu fynediad i’r ysbyty am fwy na 24 awr
- Unrhyw anaf arall sy’n arwain at hypothermia, salwch neu anamwybyddiaeth a achosir gan wres, neu sy’n galw am ddadebriad neu am fynediad i’r ysbyty am fwy na 24 awr
- Anymwybyddiaeth a achosir gan asffycsia neu gan ddatguddio i sylwedd niweidiol neu i gyfrwng biolegol
- Salwch aciwt sydd angen triniaeth feddygol, neu golli ymwybyddiaeth oherwydd sugno unrhyw sylwedd drwy anadlu, lyncu neu drwy’r croen
- Salwch aciwt sydd angen triniaeth feddygol ble mae rheswm i gredu bod hwn wedi digwydd fel canlyniad i ddatguddio i gyfrwng biolegol neu ei docsinau neu i ddeunydd heintiedig
Anafiadau dros-dri-diwrnod
Mae rhaid ichi hysbysu’r awdurdod gorfodi o fewn deng niwrnod os oes damwain sy’n gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys achosion o drais corfforol) ac mae un o’ch cyflogeion, neu berson hunangyflogedig sy’n gweithio yn eich gweithle, yn dioddef anaf sy’n eu rhwystro rhag gweithio, neu rhag cyflawni eu hystod lawn o ddyletswyddau arferol am fwy na thri diwrnod olynol (heb gyfrif diwrnod y ddamwain).
Clefyd
Os bydd meddyg yn dweud wrthych fod un o’ch cyflogeion yn dioddef oherwydd clefyd galwedigaethol, efallai y bydd rhaid adrodd arno. Mae rhaid adrodd ar rai clefydau a chyflyron meddygol yn unig a restrir yn y Rheoliadau, a dim ond os yw’r person yn gwneud y math o waith a osodir am y cyflwr hwnnw.
Mae’r mathau o glefydau y mae rhaid adrodd arnynt yn cynnwys:
- rhai enghreifftiau o wenwyno
- rhai clefydau’r croen fel dermatitis galwedigaethol, ganser y croen, wlser crôm, ffolicwlitis/acne olew;
- clefydau’r ysgyfaint, gan gynnwys asthma galwedigaethol, glefyd y ffarmwr, niwmoconiosis, asbestosis, mesothelioma
- heintiau fel leptosbirosis, hepatitis, twbercwlosis, anthracs, legionelosis a thetanws;
- clefydau eraill fel canser galwedigaethol, rhai gyflyrau cyhyrysgerbydol, parlys y llaw, a dirgryndod llaw-fraich.
Restr lawn o glefydau y dylid eu cofnodi a’r mathau o waith.
Digwyddiadau peryglus
Digwyddiadau peryglus yw rhai digwyddiadau penodol fu bron â digwydd. Nid oes rhaid adrodd ar bob digwyddiad fu bron â digwydd. Dyma restr o’r rheini y dylid adrodd arnynt:
- cwymp, ddymchweliad neu fethiant rhannau dwyn-lwyth lifftiau ac offer codi;
- ffrwydriad, gwymp neu hollt unrhyw lestr caeëdig neu bibellau cysylltiedig;
- methiant unrhyw gynhwysydd nwyddau mewn unrhyw un o’i rannau dwyn-lwyth;
- peiriannau neu offer sy’n dod i gysylltiad â llinellau pŵer uwchben;
- cylched byr neu orlwyth trydanol sy’n achosi tân neu ffrwydriad;
- unrhyw ffrwydriad, gamdaniad, fethiant anfwriadol ynghylch dymchwel i achosi i ddeunydd gwympo neu daflu’n fwriadol y tu hwnt i ffin y safle, anaf wedi’i achosi gan ffrwydriad;
- rhyddhad damweiniol o gyfrwng biolegol sy’n debyg o achosi salwch dynol difrifol;
- methiant radiograffeg diwydiannol neu offer arbelydru i ddatrymuso neu i ddychwelyd i’w safle diogel ar ôl y cyfnod datguddio bwriadedig;
- diffyg cyfarpar anadlu tra’n cael ei ddefnyddio neu yn ystod ei brofi’n uniongyrchol cyn ei ddefnyddio;
- methiant offer plymio neu’n eu peryglu, maglu plymiwr, ffrwydriad yn agos i blymiwr, neu esgyniad afreolus;
- cwymp neu gwymp rhannol sgaffald sydd dros bum metr o uchder, neu sydd wedi’i godi’n agos i ddŵr ble gallai fod perygl o foddi ar ôl syrthio;
- gwrthdrawiad anfwriadol trên ag unrhyw gerbyd;
- digwyddiad peryglus wrth ffynnon (heblaw ffynnon ddŵr);
- digwyddiad peryglus wrth biblinell;
- methiant unrhyw offer maes ffair sy’n dwyn llwyth, neu ddireiliad neu wrthdrawiad anfwriadol ceir neu drenau;
- mae tancer ffordd sy’n cludo sylwedd peryglus yn dymchwel, yn dioddef niwed difrifol, yn mynd ar dân neu ryddheir y sylwedd;
- mae sylwedd peryglus a gludir ar y ffordd yn gysylltiedig â than neu’n cael ei ryddhau.
Mae rhaid adrodd ar y digwyddiadau peryglus dilynol heblaw mewn cysylltiad â gweithleoedd ar y môr:
- cwymp anfwriadol:
- unrhyw adeilad neu strwythur sy’n cael ei adeiladu, ei newid neu ei ddymchwel ble mae dros bum tunnell o ddeunydd yn cwympo;
- wal neu lawr mewn lle gweithio;
- unrhyw ffugwaith
- ffrwydriad neu dân sy’n peri atal gwaith arferol am dros 24 awr;
- rhyddhad sydyn, afreolus mewn adeilad o:
- 100 cg neu fwy o hylif fflamadwy;
- 10 cg o hylif fflamadwy uwchben ei bwynt berwi;
- 10 cg neu fwy o nwy fflamadwy; neu
- o 500 cg o’r sylweddau hyn os yw’r rhyddhad yn yr awyr agored;
- rhyddhad damweiniol unrhyw sylwedd a allai niweidio iechyd.
Nodwch: mae categorïau ychwanegol o ddigwyddiadau peryglus yn perthyn i lofeydd, chwareli, systemau trafnidiaeth perthnasol (rheilffyrdd ac ati) a gweithleoedd ar y môr.
Digwyddiadau nwy
Os ydych yn ddosbarthwr, llenwr, neu gyflenwr nwy fflamadwy a rydych yn darganfod, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol bod rhywun wedi marw neu wedi dioddef 'anaf mawr' mewn cysylltiad â’r nwy rydych wedi’i ddosbarthu, ei lenwi, ei fewnforio neu’i gyflenwi, mae rhaid adrodd arno ar-lein gan ddefnyddio form F2508G1 .
Os ydych yn beiriannydd nwy sydd wedi cofrestru â’r Gofestr Diogelwch Nwy, mae rhaid ichi ddarparu manylion ynghylch unrhyw offer neu ffitiadau nwy rydych yn ystyried eu bod yn beryglus, i’r fath raddau y gallai pobl farw neu ddioddef ‘anaf mawr’ oherwydd y gallai eu cynllun, eu hadeiledd, eu gosod, eu haddasu neu eu gwasanaethu achosi:
- gollyngiad damweiniol o nwy;
- ymlosgiad annigonol o nwy neu;
- tynnu annigonol o gynnyrch ymlosgiad nwy.
Llenwch y online form F2508G2.
Rwyf yn hunangyflogedig. Beth sydd rhaid imi’i wneud?
Os ydych yn gweithio ar safle rhywun arall a rydych naill ai’n cael eich anafu neu’n cael eich anafu’n ddifrifol a na allwch wneud eich gwaith arferol am fwy na thri diwrnod, yna mae’r perchennog yn gyfrifol am hysbysu’r awdurdodau, felly dylech sicrhau eu bod yn gwybod amdano pryd bynnag mae’n bosibl.
Os ydych yn gweithio yn eich gweithle’ch hunan yna mae rhaid ichi adrodd ar anafiadau ichi’ch hunan, eich cyflogeion neu os yw aelod o’r cyhoedd wedi’i anafu ar eich safle, os oes unrhyw ddigwyddiad peryglus ar eich safle, neu os yw meddyg yn dweud wrthych bod cyflwr neu glefyd arnoch sy’n gysylltiedig â gwaith.
Fodd bynnag, os ydych yn hunangyflogedig, a chewch eich anafu’n ddifrifol ar eich safle, nid oes angen adrodd arno ar unwaith. Dylech chi neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan wneud hyn o fewn 10 niwrnod.
Sut wyf yn adrodd?
Y ffordd hawsaf yw adrodd arlein.
Os nad oes mynediad gennych i’r rhyngrwyd yna gallwch adrodd ar farwolaethau ac anafiadau mawr drwy ffonio 0300 0031856
Cadw cofnodion
Mae rhaid ichi gofnodi unrhyw anaf, glefyd neu ddigwyddiad peryglus y mae rhaid ichi adrodd arno i awdurdod gorfodi. Gallwch gadw’r cofnod ar unrhyw ffurf sy’n gyfleus ichi, ond mae rhaid i hwn gynnwys:
- dyddiad a dull cofnodi;
- dyddiad, amser a lle’r digwyddiad;
- manylion personol y rhai oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad neu’r clefyd;
- disgrifiad byr o natur y digwyddiad neu’r clefyd.
Gallwch gadw cofnodion gan:
- lawrlwytho neu argraffu copïau o’r ffurflen adrodd ar-lein;
- gofnodi manylion ar gyfrifiadur;
- gadw cofnod ysgrifenedig.