Cynnal a chadw offer trydanol symudol mewn swyddfeydd ac amgylcheddau risg isel eraill
Contents
- 'Dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i mi gael fy lamp desg wedi ei phrofi bob chwe mis. Ydy hyn yn wir?'
- 'Beth yw offer trydanol symudol?'
- 'A oes risgiau o offer trydanol symudol a ddefnyddir mewn swyddfeyddac ati?'
- 'Beth all fynd o'i le?'
- 'Sut byddaf i'n gwybod os bydd wedi'i ddifrodi?'
- 'Beth yw digon o wybodaeth a hyfforddiant?'
- 'Pa mor aml ddylem ni edrych?'
- 'Beth all defnyddwyr ei wneud?'
- 'Beth fydd yn digwydd os dônt o hyd i rywbeth o'i le?'
- 'Beth am brofi, roeddwn yn meddwl ei fod yn hanfodol?'
- 'A allaf i osod gwahanol fathau o offer gyda'i gilydd ar gyfer archwilio neu brofi?'
- 'Sut byddaf i'n gwybod os bydd offer wedi'i ddaearu ai peidio?'
- 'Beth am brofi offer arall?'
- 'Oes yn rhaid i'r archwiliad a'r prawf cyfun gael eu cynnal gan drydanwr?'
- 'A oes rhaid i mi gadw cofnodion?'
- 'Beth arall sydd angen i mi ei wneud?'
- 'Beth am offer y mae gweithwyr wedi dod â nhw i'r gwaith eu hunain?'
- 'Beth a ddywed y gyfraith?'
- 'Mae gennyf hefyd ffatri fach, lle mae'n amlwg bod y risgiau yn fwy; pa arweiniad arall sydd ar gael?'

Mae'r daflen hon yn nodi'r camau diogelu y gellir eu cymryd er mwyn atal perygl o offer trydanol symudol yn yr eiddo hynny lle mae risgiau yn gyffredinol yn isel, ee swyddfeydd neu lyfrgelloedd. Mae'r camau diogelu yn debyg i'r rheini ar gyfer offer trydanol a ddefnyddir mewn eiddo eraill, ond maent yn cyfateb i amgylcheddau risg isel.
'Dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i mi gael fy lamp desg wedi ei phrofi bob chwe mis. Ydy hyn yn wir?'
Nac ydy. Mae'r gyfraith yn gofyn iddi gael ei chynnal a'i chadw. Nid yw'n gofyn cael system gymhleth ac aml o brofi trydanol.
'Ond mae gennyf lawer o offer trydanol yn fy swyddfeydd, beth sydd yn rhaid i mi ei wneud i'w gynnal a'u gadw?'
Gan fwyaf, ei archwilio'n weledol. Drwy ganolbwyntio ar system rad, syml o edrych am arwyddion gweledol o ddifrod neu namau, a'u hatgyweirio, byddwch yn atal y mwyafrif o ddamweiniau trydanol rhag digwydd.
'Beth yw offer trydanol symudol?'
Yn gyffredinol, offer sydd â chebl a phlwg a sy'n cael ei symud o gwmpas fel arfer ac y gellir ei symud o le i le yn hawdd, ee sugnwr llwch, tegell, gwresogydd, awyrell, teledu, lamp desg; a hefyd offer a allai gael ei symud, ee llungopïwr, peiriant ffacs, a chyfrifiadur pen desg.
'A oes risgiau o offer trydanol symudol a ddefnyddir mewn swyddfeydd ac ati?'
Oes, ond maent yn isel o'u cymharu â'r rhan fwyaf o weithleoedd. Fodd bynnag, os nad ydych erioed wedi cael system archwilio, neu os esgeuluswyd gwaith cynnal a chadw, mae mwy o siawns bod peth o'r offer yn beryglus a bydd angen i chi gymryd camau.
'Beth all fynd o'i le?'
Gall y ceblau a'r plygiau, neu weithiau yr offer eu hun, gael eu difrodi. Gallai hyn achosi sioc trydan. Gall sioc trydan ladd. Gall offer wedi'i ddifrodi hefyd achosi tanau.
'Sut byddaf i'n gwybod os bydd wedi'i ddifrodi?'
Drwy edrych! Dyma'r cam diogelu cynnal a chadw pwysicaf. Gellir dod o hyd i tua 95% o namau neu ddifrod drwy edrych (archwiliad gweledol).
Yn gyntaf, nodwch eich offer a sut a phryd y'i defnyddir. Y pethau byddwch yn edrych amdanynt ar yr offer, y cebl a'r plwg (ar ôl ei ddatgysylltu) fydd arwyddion o:
- difrod, ee toriadau, ôl traul (ac eithrio scyffio ysgafn) i orchudd y cebl;
- difrod i'r plwg, ee y cas wedi cracio neu'r piniau wedi plygu;
- uniadau heb fod yn rhai safonol gan gynnwys uniadau â thâp yn y cebl;
- gorchudd allanol (gwain) y cebl heb gael ei angori wrth agoriad y plwg neu'r offer. Edrychwch i weld a yw inswleiddio lliw y gwifrau mewnol yn dangos;
- offer sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn amodau lle nad oedd yn addas, ee mewn gweithle gwlyb neu lychlyd;
- difrod i orchudd allanol yr offer neu rannau rhydd amlwg neu sgriwiau; a
- gorwresogi (marciau llosgi neu staenio).
Yn ogystal, gallai archwilio ffurfiol gynnwys tynnu gorchudd y plwg a gwirio
- bod ffiws yn cael ei ddefnyddio (hy ei fod yn ffiws iawn ac nid darn o wifren, hoelen ac ati);
- bod gafael y cebl yn dal rhan allanol (gwain) y cebl yn dynn;
- bod y gwifrau, gan gynnwys y ddaear os bydd wedi'u ffitio, wedi'u cysylltu i'r terfynellau cywir (gweler y diagram ar du mewn y clawr blaen);
- nad oes unrhyw wifren noeth yn weledol ac eithrio wrth y terfynellau;
- bod sgriwiau'r derfynell yn dynn; ac
- nad oes unrhyw arwydd o ddifrod mewnol, gorwresogi na bod hylif, llwch neu faw wedi mynd i mewn.
Nid yw hyn yn berthnasol i blygiau wedi'u mowldio lle mai dim ond y ffiws all gael ei wirio.
Mae'r mwyafrif o'r gwiriadau hyn hefyd yn berthnasol i geblau ymestyn a'u plygiau a'u socedi.
'Mae'n ymddangos mor hawdd, ond dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i mi gael trydanwr i wneud hyn.'
Nid yw hyn yn angenrheidiol ar gyfer y math o offer a ddefnyddir fel arfer mewn amgylcheddau risg isel. Gall unrhyw aelod synhwyrol (cymwys) o staff ei wneud os bydd ganddynt ddigon o wybodaeth a hyfforddiant.
'Beth yw digon o wybodaeth a hyfforddiant?'
Bydd angen iddynt wybod beth i edrych arno, beth i edrych amdano a beth i'w wneud, ond yn bwysicach dylent allu osgoi perygl iddyn nhw eu hunain ac i eraill. Felly, dylai fod ganddynt wybodaeth drydanol sylfaenol ynghyd â synnwyr cyffredin, ee troi'r offer i ffwrdd a'i ddatblygio yn gyntaf! Gall hyfforddiant syml gwmpasu hyn.
'Pa mor aml ddylem ni edrych?'
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o offer a sut y'i defnyddir. Er enghraifft, mwy na thebyg y caiff cebl i degell ei drin a'i symud sawl gwaith bob dydd, tra mai dim ond pan gaiff dodrefn swyddfa eu haildrefnu y caiff cebl cyfrifiadur ei symud. Mae'r tabl ar y dudalen gyferbyn yn awgrymu cyfnodau y gellir eu defnyddio i ddechrau tan i chi feddu ar ddigon o brofiad i benderfynu hyn eich hun.
'Beth all defnyddwyr ei wneud?'
Dylech eu hannog i edrych yn feirniadol ar yr offer trydanol a ddefnyddiant, ac edrych am ddifrod i du allan yr offer a'r cebl a'r plwg cyn eu defnyddio, ond ni ddylent dynnu'r plwg yn ddarnau.
'Beth fydd yn digwydd os dônt o hyd i rywbeth o'i le?'
Dylent ddweud wrth rywun (goruchwyliwr neu reolwr) a dylid labelu'r offer fel offer â nam ac atal ei ddefnyddio er mwyn cael ei atgyweirio. (Gellid tynnu'r plwg i ffwrdd i'w atal rhag cael ei ddefnyddio.)
'Beth am brofi, roeddwn yn meddwl ei fod yn hanfodol?'
Ddim ar gyfer pob math o offer. Fodd bynnag, ni ellir gweld rhai namau drwy edrych yn unig, yn arbennig diffyg daearu parhaus. Ar gyfer peth offer mae daear yn hanfodol i ddiogelwch. Felly dylai'r holl offer sydd wedi'i ddaearu, a'r mwyafrif o geblau a phlygiau sydd wedi'u cysylltu â'r offer, hefyd gael archwiliad a phrawf cyfun achlysurol i edrych am y namau hyn a namau eraill. Nodir cyfnodau awgrymedig ar y dudalen gyferbyn.
Gellir cynnal archwiliadau a phrofion cyfun ar ddechrau system cynnal a chadw i sefydlu cyflwr gwreiddiol yr offer.
Dylid cynnal archwiliadau a phrofion cyfun:
- os bydd rheswm i amau y gallai'r offer fod â nam, wedi'i ddifrodi neu ei lygru ond na ellir cadarnhau hyn drwy archwiliad gweledol; ac
| Swyddfeydd ac amgylcheddau risg isel eraill yn unig Cyfnodau cychwynnol* awgrymedig | |||
|---|---|---|---|
| Offer/amgylchedd | Gwiriadau defnyddiwr | Archwiliad gweledol ffurfiol | Archwilio a phrofi cyfun |
| Yn cael ei weithredu gan fatri: (llai na 20 folt) | Na | Na | Na |
| Foltedd isel iawn: (llai na 50 folt AC) ee offer ffôn, goleuadau desg foltedd isel | Na | Na | Na |
| Technoleg gwybodaeth: ee cyfrifiaduron pen desg, sgriniau VDU | Na | le, 2-4 blynedd | Na os oes inswleiddiad dwbl - hyd at 5 mlynedd fel arall |
| Llungopïwyr, peiriannau ffacs: NID rhai a ddelir â llaw. Prin yn cael eu symud | Na | le, 2 - 4 blynedd | Na os oes inswleiddiad dwbl - hyd at 5 mlynedd fel arall |
| Offer gydag inswleiddiad dwbl: NID rhai a ddelir â llaw. Yn cael eu symud yn achlysurol, ee awyrellau, lampau bwrdd, taflunydd sleid | Na | le, 2 - 4 blynedd | Na |
| Offer gydag inswleiddiad dwbl: YN CAEL EI DDAL Â LLAW ee ambell lanhawr llawr |
le | le, 6 mis - le,1 flynedd |
Na |
| Offer wedi'i ddaearu (Dosbarth 1): ee tegellau trydan, ambell lanhawr llawr |
le | le, 6 mis - le,1 flynedd |
le, 1 - 2 flynedd |
| Ceblau a phlygiau wedi'u cysylltu i'r uchod. Ceblau ymestyn (prif wifren foltedd) |
le | le, 6 mis - le,4 blynedd yn dibynnu ar y math o offer y'i cysylltir iddo |
le, 1 - 5 mlynedd yn dibynnu ar y math o offer y'i cysylltir iddo |
*DS: Dylid defnyddio profiad o weithredu'r system gynnal a chadw dros gyfnod o amser, ynghyd â gwybodaeth ar y namau a ddarganfuwyd, i adolygu amledd yr archwiliad.
Dylid hefyd ei ddefnyddio i arolygu p'un a ddylid cynnal archwiliad a phrawf cyfun i offer a cheblau a phlygiau cysylltiedig a pha mor aml y dylid gwneud hynny.
- ar ôl unrhyw waith atgyweirio, addasu neu waith tebyg ar yr offer, pan fydd angen sefydlu ei integredd.
'A allaf i osod gwahanol fathau o offer gyda'i gilydd ar gyfer archwilio neu brofi?'
Gallwch. Os y bydd yn haws i chi gynnal yr archwiliad neu brofi'r holl offer ar yr un pryd mae hawl gennych wneud felly, ond dylech ddefnyddio'r cyfnod tabl byrraf yn y grwp, nid yr hiraf.
'Sut byddaf i'n gwybod os bydd offer wedi'i ddaearu ai peidio?'
Gelwir offer nad yw wedi'i ddaearu fel arfer yn offer ag 'inswleiddio dwbl' neu 'Dosbarth II' a chaiff ei farcio â'r symbol. Mae gan y cebl ddwy wifren. Bydd offer nad yw wedi'i farcio â'r symbol hwn fel arfer wedi'i ddaearu ac fe'i elwir 'Dosbarth I'. Mae gan y cebl dair gwifren.
'Beth am brofi offer arall?'
Ni fydd angen profi peth offer, ee a weithredir â batri neu sydd â foltedd isel iawn. Ni ddylai fod angen profi offer arall ond yn achlysurol bydd angen profi'r ceblau a'r plwg. Awgrymir cyfnodau o hyd at 5 mlynedd ond bydd eich profiad yn penderfynu beth fydd orau.
Gellir difrodi rhai mathau o offer busnes, ee cyfrifiaduron, VDUs neu argraffwyr, drwy brofion amhriodol. Rhestrir arweiniad ar gyfer profi'r math hwn o offer ar ddiwedd y daflen hon. Gellir profi ceblau pwer datgysylltadwy ar gyfer y math hwn o offer yn ddiogel os na fyddant wedi'u cysylltu â'r offer.
'Oes yn rhaid i'r archwiliad a'r prawf cyfun gael eu cynnal gan drydanwr?'
Ddim o reidrwydd. Gall aelod o staff wneud hyn os ydynt wedi derbyn hyfforddiant addas. Mae angen gwybodaeth a phrofiad mwy nag sydd ei angen ar gyfer yr archwiliad yn unig, a bydd angen yr offer iawn arnynt er mwyn cynnal y profion. Dylent wybod sut i ddefnyddio'r offer yn gywir a sut i ddehongli'r canlyniadau.
'A oes rhaid i mi gadw cofnodion?'
Nid yw'r gyfraith yn gofyn hyn. Ond hwyrach y bydd o ddefnydd i chi os oes gennych lawer o offer trydanol i gadw cofnod ohono a hefyd i'ch helpu i adolygu eich gweithdrefnau cynnal a chadw. Bydd profiad o'r namau a ddarganfuwyd yn penderfynu p'un a ellir ymestyn cyfnodau archwilio a ph'un a ddylid cynnal archwiliad a phrawf cyfun a pha mor aml y dylid gwneud hyn.
'Beth arall sydd angen i mi ei wneud?'
Adolygu eich system fonitro o bryd i'w gilydd unwaith y bydd gennych brofiad i weithio arno. Gwiriwch beth sy'n cael ei ganfod a bod camau yn cael eu cymryd a phenderfynwch a yw'r amlderau yn gywir.
'Beth am offer y mae gweithwyr wedi dod â nhw i'r gwaith eu hunain?'
Yn ddelfrydol ni ddylech adael iddynt ddod â nhw i'r gwaith. Weithiau bydd hyn yn anodd i'w atal a hwyrach y bydd angen i chi ei gynnwys yn yr archwiliad gweledol.
'Beth a ddywed y gyfraith?'
Mae Rheoliad 4(2) Rheoliadau Trydan yn y Gwaith 1989 yn nodi 'Fel y bo'n briodol i atal perygl, dylid cynnal a chadw pob system er mwyn atal perygl o'r fath, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol'.
'Mae gennyf hefyd ffatri fach, lle mae'n amlwg bod y risgiau yn fwy; pa arweiniad arall sydd ar gael?'
Rhestrir cyhoeddiadau eraill gan HSE a sefydliadau eraill yn rhoi arweiniad ar gynnal a chadw offer trydanol isod. Argymhellion yw'r tablau amledd ar gyfer archwilio a phrofi a roddir ynddynt ac nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.
Maintaining portable and transportable electrical equipment HS(G)107 HSE Books 1994 ISBN 0 7176 0715 1
Maintaining portable electrical equipment in hotels and
tourist accommodation
IND(G)237L HSE Books. Mae'r daflen hon ar werth mewn pecynnau
o 10 o HSE Books ISBN 0 7176 1273 2.
Copïau unigol ar gael am ddim.
FEI Recommendations for Periodic Safety Checks for Business Equipment Federation of the Electronics Industry, Rhifyn 2, Gorffennaf 1994
Code of practice for In-service Inspection and Testing of Electrical Equipment The Institution of Electrical Engineers ISBN 0 85296 844 2
Mae cyhoeddiadau ar werth a chyhoeddiadau am ddim yr HSE ar
gael i'w harchebu drwy'r post:
HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS Ffôn:
01787 881165 Ffacs: 01787 313995
Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth hefyd ar gael o lyfrwerthwyr da.
Ar gyfer ymholiadau eraill ffoniwch Linell Wybodaeth HSE,
Ffôn:
0845 345 0055
, neu ysgrifennwch
Mae cyhoeddiadau Cymraeg sydd am ddim ar gael o:
Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas,
Llanishen, Caerdydd CF14 5SH.Ffôn: 01222 263 000
Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arfer da nad yw'n orfodol ond a allai fod o ddefnydd i chi wrth ystyried yr hyn sydd angen i chi ei wneud.
Gellir atgynhyrchu'r llyfryn hwn am ddim, ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu werthu. Mae'r wybodaeth yn gyfredol ar 11/96. Cydnabyddwch y ffynhonnell fel HSE.
INDG236(W) 4/98 C20

