HSE banner

i Wybodaeth Cyfarwyddyd a hyfforddiant

Cyhoeddir yr arweiniad hwn gan yr Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch. Nid yw dilyn yr arweiniad yn orfodol ac rydych yn rhydd i gymryd camau eraill. Ond os byddwch yn dilyn yr arweiniad byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio ˆ'r gyfraith. Mae arolygwyr iechyd a diogelwch yn ceisio sicrhau cydymffurfiad ˆ'r gyfraith a gallant gyfeirio at yr arweiniad hwn fel enghraifft o arfer da.

Cyflwyniad

Mae'r gyfraith iechyd a diogelwch yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant. Mae'r daflen hon yn nodi, mewn pum cam hawdd, beth sydd angen i chi ei wneud.


Gwybodaeth

Ystyr gwybodaeth yw darparu deunydd ffeithiol i bobl ynglŷn ˆ mesurau iechyd a diogelwch.

CAM 1 Penderfynwch ar BWY mae angen y wybodaeth:

CAM 2 Penderfynwch PA wybodaeth sydd ei hangen i gwmpasu:

CAM 3 Penderfynwch PRYD y mae angen gwybodaeth. Yn syml, yr ateb yw - mewn digon o amser i allu gweithredu arni. Felly meddyliwch am beth sydd ei angen ar eich gweithwyr:

a meddyliwch am pryd y bydd angen gwybodaeth ar bobl eraill, ee staff cynnal a chadw sy'n ymweld.

CAM 4 Penderfynwch SUT rydych yn mynd i ddarparu'r wybodaeth. Meddyliwch am faint y wybodaeth, pwy sydd ei hangen a phryd. Gallech ei darparu:

Pa bynnag ffordd a ddewiswch, bydd yn rhaid i'r wybodaeth a ddarparwch fod yn hawdd i'w deall. Gwnewch yn siwr bod y bobl sy'n derbyn y wybodaeth yn gwybod pam eu bod yn ei derbyn a beth a ddisgwylir iddynt ei wneud. Hefyd, os bydd angen, gallech gael rhywun - hwyrach un o'r gweithwyr neu aelod o'r gymuned leol - i gyfieithu gwybodaeth ar gyfer pobl na fyddai'n gallu ei deall fel arall.

CAM 5 GWIRIWCH fod y wybodaeth wedi bod yn effeithiol:


Cyfarwyddyd a Hyfforddiant

Ystyr cyfarwyddyd yw dweud wrth bobl beth y dylent ei wneud a beth na ddylent ei wneud. Ystyr hyfforddiant yw eu helpu i ddysgu sut i'w wneud.

CAM 1 Penderfynwch ar BWY mae angen hyfforddiant:

CAM 2 Penderfynwch PA hyfforddiant sydd ei angen a beth yw'r amcanion - mae rhoi'r hyfforddiant anghywir neu gormod o hyfforddiant yn wastraff amser ac arian.

Gall eich Cyngor Hyfforddiant a Menter (TEC) lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol.

CAM 3 Penderfynwch SUT i weithredu hyfforddiant (gweler rhestr wirio 3).

CAM 4 Penderfynwch PRYD bydd angen i chi ddarparu hyfforddiant:

CAM 5 GWIRIWCH fod yr hyfforddiant wedi gweithio:

Dylai'r pum cam hwn roi digon i chi feddwl amdano. Os hoffech wybod mwy am yr hyn a ddywed y gyfraith ynglŷn ˆ gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant, mae taflen am ddim (A guide to information, instruction and training: common provisions in health and safety law, IND(G)235(L)) ar gael o HSE Books (gweler tudalen 15). Mae hon yn egluro bod Deddf lechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (Deddf HSW) a Rheoliadau Rheoli lechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1992 ('Rheoliadau Rheoli') yn gosod DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL ar gyflogwyr ac eraill i ddarparu gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch. Yn ogystal, mae nifer o reoliadau sy'n delio ˆ pheryglon neu ddiwydiannau penodol sydd ˆ DYLETSWYDDAU PENODOL. Os yw'r peryglon hyn yn gysylltiedig ˆ'ch gwaith chi, rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth a'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan y rheoliadau. Mae'r daflen hefyd yn egluro sut mae'r gofynion mewn gwahanol reoliadau yn cysylltu ˆ'i gilydd, ac yn crynhoi'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i chi.


Rhestr wirio 1

Yr hyn sydd angen i reolwyr a goruchwylwyr ei wybod

Mae angen i reolwyr a goruchwylwyr:

Er mwyn gwneud hyn mae angen iddynt:


Rhestr wirio 2

Yr hyn a ddywed y gyfraith am hyfforddiant

Mae Rheoliadau Rheoli lechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1992 yn nodi bod yn rhaid i chi ddarparu hyfforddiant iechyd a diogelwch i bobl:

Mae'n rhaid i chi ddarparu hyfforddiant yn ystod oriau gwaith ac nid ar draul y bobl sy'n gweithio i chi.

Mae gan bobl anghenion hyfforddi drwy gydol eu gyrfaoedd, ond ar yr adegau hyn bydd eu hanghenion hyfforddi yn fwy nag ar adegau eraill:

Gwnewch yn siwr eich bod yn darparu HYFFORDDIANT GLOYWI pan fydd angen i bobl ddiweddaru eu sgiliau, yn arbenning pan fydd yr hyfforddiant yn ymwneud ˆ rhywbeth nad ydynt yn gwneud yn aml, fel delio ag achosion brys. Gwnewch yn siwr bod deunydd hyfforddi yn gyfredol.


Rhestr wirio 3


Ymagweddau tuag at hyfforddiant

'EISTEDD GERLLAW NELLIE' Mae dysgu o berson profiadol yn y swydd yn ffurf draddodiadol o hyfforddi, ond mae ei werth yn dibynnu ar ba mor dda y mae 'Nellie' wrth drosglwyddo'r cyfarwyddiadau cywir, diweddaraf. Os defnyddiwch y dull hwn, hwyrach y byddai'n ddefnyddiol ystyried rhoi hyfforddiant i'r 'Nellies' ar sut i hyfforddi.

HYFFORDDIANT AR Y SAFLE Ni fydd yn rhaid i chi anfon pobl i ganolfan hyfforddi neu goleg bob amser. Weithiau gall fod yn well o ran cost gofyn i'r hyfforddwyr ddod i'ch eiddo chi a hyfforddi grŵp o bobl.

DYSGU O BELL Gall dysgu o bell fod ar sawl ffurf - llyfrau, tapiau sain neu fideos, dysgu yn seiliedig ar gyfrifiadur, neu gymysgedd ohonynt i gyd. Mae'n gofyn i'r person sy'n gwneud yr hyfforddiant fod yn ymroddedig iawn, ac yn barod i weithio ar ei ben ei hun gan fwyaf. Hwyrach bydd angen llawer o gefnogaeth ac anogaeth ar rywun sy'n gwneud y math hwn o hyfforddiant, ond os gallwch ddarparu hyn, mae dysgu o bell yn ffordd economaidd iawn o ddarparu hyfforddiant. Mae HSE wedi cyhoeddi You can do it - The what, why and how of improving health and safety, canllaw hunan-gymorth i reolwyr busnesau bach a chynrychiolwyr diogelwch gweithwyr.

DYSGU YN SEILIEDIG AR GYFRIFIADUR NEU DYSGU RHYNGWEITHIOL Daw'r deunydd hyfforddi ar ddisg cyfrifiadur, ac mae'r defnyddiwr yn darllen gwybodaeth ac yn ateb cwestiynau. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r hyfforddedigion ryngweithio ˆ'r deunydd hyfforddi. Cynllunnir y math hwn o hyfforddiant i fod yn gyfeillgar i'r defnyddiwr.

SUT I DDEWIS Y DARPARWR HYFFORDDIANT CYWIR Bydd unrhyw fusnes yn archwilio darpar gyflenwyr yn ofalus cyn prynu nwyddau a gwasanaethau. Nid yw dewis darparwr hyfforddiant yn wahanol:


Gwybodaeth am hyfforddiant galwedigaethol

Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC)

Mae CGC yn gymwysterau sy'n dibynnu ar allu'r ymgeiswyr i brofi eu bod yn gymwys i wneud swydd a bod ganddynt y wybodaeth gefndirol (sef gwybodaeth sylfaen) i ategu'r cymhwyster hwnnw. Cynlluniwyd CGC fel cymwysterau yn seiliedig ar waith, gyda thystiolaeth o gymhwyster a gasglwyd yn y gweithle.

Gall unrhyw un wneud CGC - nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol, a gallant gymryd cyn hired ag sydd ei angen i gyflawni'r cymhwyster. Mae CGC yn cynnwys unedau, ac mae rhai pobl yn gweld nad oes angen CGC cyfan arnynt ond y byddai'n well ganddynt wneud yr unedau sy'n berthnasol i'w gwaith. Mae unedau ar wahˆn yn ennill credyd yr un, ond er mwyn cael CGC mae'n rhaid i chi gyflawni pob uned. Mae CGC ar gael o lefel 1, am gymhwyster mewn gwaith sylfaenol iawn, i lefel 5, a gynlluniwyd ar gyfer uwch reolwyr.

Er mai cymwysterau yw CGC, ac nid cyrsiau hyfforddi, cynigir llawer o gynlluniau hyfforddi sy'n arwain atynt. Yn ddamcaniaethol, os bydd person eisoes yn gymwys, ni fyddai angen hyfforddiant ychwanegol i gael CGC, ond bydd angen peth hyfforddiant ar y mwyafrif o bobl sy'n ceisio amdanynt fel y gallant gael y wybodaeth sylfaen. Mae'n werth gwybod y gellir dysgu gwybodaeth sylfaen o unrhyw ffynhonnell - nid oes yn rhaid i ymgeiswyr fynychu cwrs penodol, na phrynu pecyn penodol. Fodd bynnag, caiff llawer o bobl eu cofrestru ar gyfer cyrsiau fydd yn arwain at CGC, gan eu bod hwy a'u cyflogwyr yn gweld mai dyma'r ffordd fwyaf cyfleus i astudio am y cymwysterau hyn.

Datblygir CGC gan ddiwydiant ac maent yn ymwneud ˆ swyddi penodol. Mae iechyd a diogelwch yn rhan bwysig o bron pob CGC, ac mae CGC ar gyfer Ymarferwyr lechyd a Diogelwch. Os hoffech wybod mwy am CGC, cysylltwch ˆ: The National Council for Vocational Qualifications, 222 Euston Road, London NW1 2BZ (ffôn: 0171 387 9898, ffacs: 0171 387 0978)

Mae cyhoeddiadau ar werth a chyhoeddiadau am ddim yr HSE ar gael i'w harchebu drwy'r post o:

HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS Ffôn: 01787 881165 Ffacs: 01787 313995

Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth hefyd ar gael o lyfrwerthwyr da.

Ar gyfer ymholiadau pellach ffoniwch Linell Wybodaeth HSE, Ffôn: 0845 345 0055 , neu ysgrifennwch at HSE Infoline, Caerphilly Business Park, Caerphilly, CF83 3GG

Mae cyhoeddiadau Cymraeg sydd am ddim ar gael o: Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas, Llanishen, Caerdydd CF14 5SH. Ffôn: 01222 263 000

Tudalen gartref HSE ar y We Fyd Eang: http://www.open.gov.uk/hse/hsehome.htm

Gellir atgynhyrchu'r llyfryn hwn am ddim, ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu werthu. Mae'r wybodaeth yn gyfredol ar 7/97. Cydnabyddwch y ffynhonnell fel HSE.

INDG213(W) 4/98 C20