HSE banner

CYFLWYNIAD

Mae'r daflen hon at eich sylw chi fel cyflogwr. Mae'n cynnig cyngor ac arweiniad syml er mwyn eich helpu i sicrhau y caiff symudiadau cerbydau yn y gweithle, a gweithgareddau fel llwytho, cynnal a chadw ac ati eu gweithredu yn ddiogel.

Mae'n berthnasol i unrhyw gerbyd neu ddarn o offer symudol a ddefnyddir gan gyflogwyr, gweithwyr, pobl hunan-gyflogedig neu ymwelwyr i unrhyw leoliad gwaith (ac eithrio teithio ar ffyrdd cyhoeddus). Mae hyn yn cwmpasu ystod eang iawn o gerbydau cyfarwydd, er enghraifft ceir a faniau, wagenni fforch godi, cerbydau nwyddau trwm, dympwyr ac ati, yn ogystal â cherbydau ac offer llai cyffredin.

Dylai'r daflen fod yn ddefnyddiol i bob gweithle lle defnyddir cerbydau. Ar gyfer gweithleoedd fel safleoedd adeiladu, chwareli, ffermydd, gweithredwyr coedwigaeth ac ati, dylech gyfeirio at arweiniad penodol ar ddelio gydag amodau a pheryglon penodol y diwydiannau hyn (gweler tudalen 12 am fanylion).


DAMWEINIAU - NIFEROEDD, COSTAU AC ACHOSION

Bob blwyddyn caiff tua 70 o bobl eu lladd mewn damweiniau yn ymwneud â cherbydau yn y gweithle. Yn ogystal, ceir mwy na 1000 o anafiadau difrifol, hy damweiniau lle ceir esgyrn wedi torri, trychiadau ac ati. Mae'r damweiniau hyn fel arfer yn ymwneud â phobl yn cael eu taro gan gerbydau sy'n symud, pobl yn syrthio oddi ar gerbydau, pobl yn cael eu taro gan wrthrychau yn syrthio o gerbydau (fel arfer yn rhan o'r llwyth) neu gerbydau yn troi drosodd. Mae ceir a mathau eraill o gerbydau yn gyffredin iawn, ar ffyrdd cyhoeddus ac mewn gweithleoedd. O ganlyniad yn aml nid yw cyflogwyr na gweithwyr yn sylweddoli - tan i ddamwain ddifrifol ddigwydd - y gall gweithgareddau cerbydau fod yn beryglus iawn, a bod angen eu rheoli'n iawn er mwyn sicrhau gweithle diogel.


Y DYLETSWYDDAU CYFREITHIOL

Mae angen iddynt:

  1. asesu'r risgiau i'w gweithwyr ac unrhyw un arall, er enghraifft aelodau o'r cyhoedd, yn deillio o'u gweithgareddau gwaith; a
  2. penderfynu pa fesurau sydd angen iddynt eu cymryd er mwyn sicrhau gweithle diogel ac arferion gwaith diogel ac i gydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol.

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WNEUD MEWN GWIRIONEDD?

Mae'r paragraffau sy'n dilyn yn rhoi cyngor i chi ar sut y gallech chi, fel cyflogwr, gynnal asesiad risg, gydag enghreifftiau sy'n ymwneud â chludiant yn y gweithle. (Mae'r rhestr wirio ar dudalennau 6-11 yn darparu arweiniad i rai o'r prif bwyntiau i'w hystyried).

Nodwyd pum cam i'ch helpu i asesu'r risgiau yn systematig.

  1. Yn gyntaf, bydd angen i chi nodi unrhyw beryglon sy'n gysylltiedig â gweithgareddau cerbydau yn y gweithle. Er mwyn gwneud hyn, edrychwch ar bob un o'r gweithgareddau gwaith sy'n ymwneud â cherbydau, er enghraifft, cerbydau'n cyrraedd ac yn ymadael, eu symudiad o fewn y gweithle, gwaith ar lwytho a dadlwytho ac ati, a gofynnwch: Beth yw'r peryglon, a beth sy'n achosi'r peryglon hynny? Er enghraifft:
    • Oes perygl o bobl yn cael eu taro gan gerbydau a beth yw'r achos?
    • Oes perygl o bobl yn syrthio o gerbydau, er enghraifft wrth fynd i mewn i neu ddod allan o'r cerbyd neu wrth lwytho/dadlwytho neu gyflawni gweithgareddau eraill, a beth yw'r achos?
  2. Yna dylech nodi pwy allai gael eu niweidio gan bob un o'r peryglon hyn. Mae hyn yn debygol o gynnwys gyrwyr, gweithwyr eraill, cwsmeriaid ac o bosibl aelodau o'r cyhoedd.
  3. Yna, ar gyfer pob perygl, dylech werthuso'r risg, hy y tebygrwydd i niwed ddigwydd a'i ddifrifoldeb, ac asesu p'un a yw'r camau diogelu presennol yn ddigonol neu p'un a oes angen mwy o gamau diogelu. Mewn gwirionedd, dylech ofyn: A gymerwyd mesurau priodol i leihau'r risg hwn, ac a yw'r mesurau yn ddigonol? Os penderfynwch nad yw rhai risgiau wedi cael eu rheoli yn ddigon da bydd angen i chi gymryd camau i'w gostwng cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol.
  4. Os oes gennych lai na phum gweithiwr nid oes angen i chi gofnodi unrhyw beth, ond os oes gennych bump neu'n fwy o weithwyr mae'n rhaid i chi gofnodi canfyddiadau arwyddocáol eich asesiad. Ystyr hyn yw:
    1. cofnodi, fel arfer drwy nodi'r peryglon mwyaf arwyddocáol; a
    2. cofnodi eich casgliadau pwysicaf, er enghraifft: Risg o wrthdaro o ganlyniad i dro dall: angen gosod drych sefydlog ar gornel yr adeilad. Mae'n rhaid i chi hefyd roi gwybod i'ch gweithwyr am eich canfyddiadau.
  5. Yn hwyr neu'n hwyrach byddwch yn cyflwyno cerbydau newydd neu yn newid llwybrau traffig, neu bydd natur y gweithgareddau gwaith sy'n ymwneud â cherbydau yn newid, gan arwain, o bosibl at beryglon newydd. Os bydd perygl newydd, bydd angen diwygio'r asesiad risg. Mewn unrhyw achos, mae'n arfer da i adolygu'r asesiad risg o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol.

RHESTR WIRIO

Mae'r rhestr wirio ganlynol yn nodi'r pethau y dylech edrych arnynt wrth:

(a) ceisio nodi'r peryglon sy'n ymwneud â gweithgareddau cerbydau; ac

(b) asesu p'un a yw'r camau diogelu presennol yn ddigonol.

Mae hefyd yn rhoi syniadau synnwyr cyffredin er mwyn lleihau risgiau. Ni fydd y rhestr wirio o reidrwydd yn gynhwysfawr nac yn berthnasol i bob sefyllfa waith.


Y gweithle

  1. Gwiriwch fod cynllun y llwybrau yn briodol i weithgareddau cerbydau ac ar droed yn y gweithle. Er enghraifft:
    • A gaiff cerbydau a cherddwyr eu cadw ar wahân yn ddiogel?
    • A oes pwyntiau croesi addas i gerddwyr ar lwybrau cerbydau?
    • A oes ardaloedd parcio addas i'r holl anghenion parcio?
    • A yw'r llwybrau i gerbydau yn osgoi troeon sydyn neu ddall?
    • A oes cyfle ar gyfer cyflwyno system unffordd ar lwybrau i gerbydau o fewn y gweithle er mwyn lleihau'r risg o wrthdaro?
  2. Gwiriwch fod y llwybrau traffig cerbydau yn addas i'r math a'r nifer o gerbydau sy'n eu defnyddio. Er enghraifft:
    • A ydynt yn ddigon llydan?
    • A ydynt wedi eu hadeiladu'n dda, hy a oes ganddynt arwynebau cadarn a gwastad?
    • A ydynt yn rhydd o rwystrau a pheryglon eraill?
    • A ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw yn dda?
  3. Gwiriwch fod nodweddion diogelwch addas yn cael eu darparu lle y bo'n briodol. Er enghraifft:
    • A yw'r ffyrdd wedi eu marcio lle y bo'r angen, ee er mwyn nodi hawl tramwy ar gyffyrdd?
    • A oes angen arwyddion cyfeiriad, arwyddion cyfyngiadau cyflymder a, lle y bo'n briodol, arwyddion fel Ildiwch, Dim mynediad ac ati?
    • A oes angen nodweddion fel drychau sefydlog i alluogi pobl i weld yn well ar droeon dall, atalfeydd cyflymder i ostwng cyflymder cerbydau, neu rwystrau i gadw cerbydau a cherddwyr ar wahân?

Y cerbydau

  1. Gwiriwch fod y cerbydau yn eich gweithle yn ddiogel ac yn addas ar gyfer y gwaith y cânt eu defnyddio ar ei gyfer. Er enghraifft:
    • A oes ganddynt freciau gwasanaeth a pharcio addas ac effeithiol?
    • A oes ganddynt gyrn, goleuadau, adlewyrchwyr, goleuadau bacio yn ôl a nodweddion diogelwch eraill fel sydd eu hangen?
    • A oes ganddynt seddau a, lle y bo angen, wregysau diogelwch sy'n ddiogel ac yn sicrhau cysur gyrwyr?
    • A oes gardiau ar rannau peryglus o'r cerbyd, ee siafftiau pŵer, gyriannau cadwyn, pibellau gwacáu agored?
    • A oes angen diogelwch ar yrwyr rhag amodau tywydd garw, neu yn erbyn amgylchedd gweithio annymunol, ee yn erbyn yr oerfel, baw, llwch, tarthau, a sŵn a dirgryniad gormodol?
    • A oes ffordd ddiogel o fynd i mewn a dod allan o'r caban a rhannau eraill sydd angen eu cyrraedd?
    • A oes angen diogelu gyrwyr rhag anaf os bydd y cerbyd yn troi drosodd, ac i atal gyrwyr rhag cael eu taro gan wrthrychau sy'n syrthio?
  2. Sicrhewch y daw cerbydau o dan weithdrefnau cynnal a chadw priodol.

Er enghraifft:


Gyrwyr a gweithwyr eraill

  1. Gwiriwch fod eich gweithdrefnau dethol a hyfforddi yn sicrhau bod eich gyrwyr a gweithwyr eraill yn gymwys i berfformio eu gweithgareddau gwaith mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Er enghraifft:
    • Ydych chi'n gwirio profiad blaenorol eich gyrwyr ac yn eu profi er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys?
    • Ydych chi'n darparu hyfforddiant ar sut i wneud y gwaith a gwybodaeth am beryglon penodol?
    • A oes gennych chi raglen fwriedig o hyfforddiant gloywi i yrwyr a gweithwyr eraill er mwyn sicrhau eu cymhwyster parhaus?
  2. Gwiriwch beth a wna eich gyrwyr a'ch gweithwyr eraill wrth ymgymryd â'u gweithgareddau gwaith. Er enghraifft:
    • A yw eich gyrwyr yn gyrru gyda gofal, ee yn defnyddio'r llwybrau cywir, yn gyrru o fewn y cyfyngiad cyflymder ar y safle ac yn dilyn unrhyw reolau safle eraill?
    • A ydynt yn parcio'n ddiogel, ac mewn mannau diogel?
    • A yw eich gweithwyr yn defnyddio arferion gwaith diogel, ee wrth lwytho/dadlwytho, diogelu llwythi, gweithredu gwaith cynnal a chadw ac ati?
    • A oes yn rhaid i'ch gyrwyr a gweithwyr eraill ruthro er mwyn cwblhau eu gwaith ar amser, neu a oes risg o ddamweiniau a achosir gan flinder o ganlyniad i oriau gwaith gormodol?
  3. Gwiriwch, drwy ymgynghori â'ch gweithwyr, fod eich lefel rheolaeth rheolwyr/goruchwyliaeth yn addas. Er enghraifft:
    • A yw eich goruchwylwyr, gyrwyr a gweithwyr eraill, yn cynnwys contractwyr a gyrwyr sy'n ymwelwyr, yn ymwybodol o reolau'r safle ac yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran cynnal gweithle diogel ac arferion gwaith diogel?
    • A gaiff pawb yn y gweithle eu goruchwylio ac a ydynt yn atebol am eu cyfrifoldebau, ac a orfodir system glir o gosbau pan fydd gweithwyr, contractwyr ac ati yn methu â chynnal safonau?

Gweithgareddau cerbydau

  1. Sicrhewch nad oes angen ond yr isafswm lleiaf posibl o symudiadau BACIO YN ÔL, ac os bydd bacio yn ôl yn angenrheidiol y'i gwneir yn ddiogel ac mewn mannau diogel. Er enghraifft:
    • A oes cyfle ar gyfer cyflwyno systemau unffordd ar lwybrau er mwyn lleihau'r angen am facio yn ôl?
    • A oes angen nodi a marcio 'ardaloedd bacio yn ôl' fel eu bod yn glir i yrwyr a cherddwyr?
    • A allech chi eithrio personél nad ydynt yn hanfodol o ardaloedd lle mae bacio yn ôl yn gyffredin?
    • A oes angen arwyddwr (bancsmon) i gyfarwyddo cerbydau sy'n bacio yn ôl?
    • A oes drychau ochr allanol a drychau ôl ar gerbydau i ddarparu'r welededd lwyr orau posibl?
    • A oes gan y cerbydau larymau bacio yn ôl?
  2. Gwiriwch fod gyrwyr yn cymryd gofal wrth BARCIO eu cerbydau, yn cynnwys eu cerbydau preifat eu hunain, a'u bod yn parcio mewn mannau diogel. Er enghraifft:
    • A yw eich gyrwyr yn defnyddio'r mannau parcio penodol?
    • A ydynt bob amser yn sicrhau bod eu cerbydau a'u hôl-gerbydau wedi eu brecio yn ddiogel a'u diogelu cyn eu gadael wedi parcio?
  3. Gwiriwch fod gweithrediadau LLWYTHO A DADLWYTHO yn cael eu gweithredu'n ddiogel. Er enghraifft:
    • A weithredir gweithrediadau llwytho/dadlwytho mewn man sydd i ffwrdd o draffig sy'n mynd heibio, cerddwyr ac eraill nad ydynt yn ymwneud â'r gweithrediadau llwytho/dadlwytho?
    • A weithredir gweithgareddau llwytho/dadlwytho gan ddefnyddio systemau gwaith diogel ar dir sy'n wastad, yn gadarn ac yn rhydd o dyllau?
    • A yw'r cerbydau yn cael eu brecio a/neu eu sefydlogi, fel y bo'n briodol, er mwyn atal symudiadau anniogel yn ystod gweithrediadau llwytho a dadlwytho?
    • A weithredir y llwytho/dadlwytho fel, cyhyd ag y bo'n bosibl, y caiff y llwyth eu daenu yn wastad er mwyn atal y cerbyd neu'r ôl-gerbyd rhag ansefydlogi?
    • A weithredir gwiriadau er mwyn sicrhau bod llwythi yn ddiogel ac wedi'u trefnu fel na allant symud o amgylch, ee llithro ymlaen os bydd yn rhaid i'r gyrrwr frecio'n sydyn, neu lithro i ffwrdd os bydd yn rhaid i'r cerbyd ddringo llethrau serth?
    • A oes gwiriadau er mwyn sicrhau na chaiff cerbydau eu llwytho y tu hwnt i'w cynhwysedd?

GWYBODAETH BELLACH

Rhoddir arweiniad mwy cynhwysfawr yn Workplace transport safety (HS(G)136, ISBN 0 7176 0935 9) ar gael o HSE Books. Mae'n darparu cyngor manwl i helpu'r rheini sy'n ymwneud â phob math o gludiant yn y gweithle i sicrhau gweithle diogel i gerbydau ac i gerddwyr, ac i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau iechyd a diogelwch.

Mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael hyfyd yn y cyhoeddiadau HSE canlynol:

Management of health and safety at work Dull Gweithredu Cymeradwy L21 1992 ISBN 0 7176 0412 8

Successful health and safety management HS(G)65 1991 ISBN 0 7176 0425X

Pum cam i asesu risgiau INDG 163(W)

Tractorau diogelwch INDG185(W) 1995

Safety in working with lift trucks 1992 ISBN 0 11 886395 9

Health and safety in motor vehicle repair 1991 ISBN 0 11 885671 5

Reversing vehicles INDG148 1993 (Copïau unigol am ddim; ISBN 0 7176 1063 2 am becynnau sydd ar werth)

Health and safety in retail and wholesale warehouses HSG76 1992 ISBN 0 11 885371 2

Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle: Canllaw byr i reolwyr INDG244(W) 1997

Mae cyhoeddiadau ar werth a chyhoeddiadau am ddim yr HSE ar gael i'w harchebu drwy'r post o:

HSE Books
PO Box 1999
Sudbury, Suffolk CO10 6FS
Ffôn: 01787 881165
Ffacs: 01787 313995

Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth hefyd ar gael o lyfrwerthwyr da.

Ar gyfer ymholiadau eraill ffoniwch Linell Wybodaeth HSE, Ffôn: 0845 345 0055 , neu ysgrifennwch at HSE Infoline, Caerphilly Business Park, Caerphilly, CF83 3GG

Mae cyhoeddiadau Cymraeg sydd am ddim ar gael o:

Swyddfa HSE Caerdydd,
Adeiladau'r Llywodraeth,
Ty Glas,
Llanishen,
Caerdydd CF14 5SH.
Ffôn: 01222 263 000

Tudalen gartref HSE ar y We Fyd Eang: http://www.open.gov.uk/hse/hseh ome.htm

Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arfer da nad yw'n orfodol ond a allai fod o ddefnydd i chi wrth ystyried yr hyn sydd angen i chi ei wneud.

Gellir atgynhyrchu'r llyfryn hwn am ddim, ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu werthu. Mae'r wybodaeth yn gyfredol ar 5/95. Cydnabyddwch y ffynhonnell fel HSE.

C20 INDG199(W) 4/98
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch