TRACTORAU diogelwch
Contents
- Cyn Dechrau
- Safle diogel
- Tan bwer
- Gyrru
- Pobl eraill
- Bachu
- Peiriannau eraill
- Peryglon eraill
- Troi drosodd
- Gwybodaeth ychwanegol
TRACTORAU diogelwch canllaw diogelwch cam wrth gam
canllaw diogelwch cam wrth gam
Mae'r Ilyfryn hwn ar gyfer pawb sy'n defnyddio tractor, neu beiriannau a weithredir gan dractor. P'un a ydych yn fyfyriwr, gyrrwr tractor cyson, neu'n ffermiwr - dysgwch am ddiogelwch tractor cyn iddi fod yn rhy hwyr. Rhwng 1987 a 1993 archwiliodd Arolygwyr yr Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch (HSE) dros 1000 o ddamweiniau tractor. Bu cant trideg a chwech o bobl farw a dioddefodd 398 anafiadau difrifol, gan gynnwys colli braich neu goes a thorri esgyrn. Dim ond rhan fechan o'r nifer gwirioneddol o ddamweiniau yw'r ffigwr hwn - ni ddaw nifer ohonynt i sylw HSE. Byddai camau diogelwch syml ond hanfodol wedi atal y rhan fwyaf o'r damweiniau hyn.
Mae'r Ilyfryn hwn yn dangos sut y gall hyfforddiant mewn diogelwch tractor arbed eich bywyd.
CYN DECHRAUCyn i chi fynd yn agos at dractor, rhaid i chi wybod y camau diogelwch sylfaenol.
ARCHWILION DIOGELWCH a STOPIO DIOGEL yw'r rhain.
Mae ARCHWILION DIOGELWCH yn sicrhau eich bod yn ddiogel. Dyma'r gofynion:
- Ydw i'n gwisgo dillad ac esgidiau addas?
- Ydw i wedi darllen a deall y Ilawlyfr hyfforddi?
- Sut byddaf yn cyflawni'r gwaith hwn?
- Ydw i wedi archwilio'r peiriannau cyn dechrau?
- Ydw i'n gwybod digon i weithio'n ddiogel?
STOPIO'N DDIOGEL yw:
- sicrhau bod y brêc Ilaw ymlaen;
- sicrhau y gadewir pob dyfais rheoli ac offer yn ddiogel;
- stopio'r injan; a
- tynnu'r allwedd
GWNEWCH HYNNY BOB TRO:
- cyn gadael eich sedd; neu
- pan ddaw unrhyw un arall yn agos; neu
- pan fydd unrhyw un arall yn gweithio ar y peiriant.
- Gwisgwch esgidiau sy'n gafael yn dda - esgidiau diogelwch sydd orau
- Gwisgwch ddillad na fyddant yn dal ar beiriannau - troswisgoedd os yn bosibl
- Clymwch wallt hir yn ôl
- Tynnwch unrhyw emwaith a allai gydio - peidiwch ag anghofio oriawr a modrwyau
- Chwiliwch am a darllenwch lawlyfr y gweithredwr - cadwch hwn wrth law
- Peidiwch byth â defnyddio peiriant os nad ydych wedi eich hyfforddi ac yn gwybod sut i'w ddefnyddio'n ddiogel
- Peidiwch byth â defnyddio peiriant os nad yw wedi ei gynnal a'i gadw'n dda
- Cadwch i ffwrdd oddi wrth beiriannau sy'n symud
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi...
Roedd gweithiwr yn hyfforddi gweithiwr achlysurol i yrru tractor tra'n medi bresych. Ychydig iawn o brofiad o yrru tractorau oedd gan y gweithiwr achlysurol, ac roedd yn cael cryn drafferth cysylltu'r geriau. Collodd yr hyfforddwr ei amynedd, estynnodd i mewn i'r caban, a thra'n sefyll wrth ochr y tractor, symudodd lifer y gêr. Hyrddiodd y tractor ymlaen gan wasgu'r hyfforddwr o dan yr olwynion dwbl.
Mae hyfforddiant yn hanfodol. Peidiwch byth â'i frysio, na'i adael tan y funud olaf.
SAFLE DIOGEL
Yr unig fan diogel i weithredu tractor yw o'r sedd. Rhaid i chi wybod sut i fynd i mewn a dod allan yn ddiogel, sut i addasu seddau a drychau a sut i adnabod dyfeisiau rheoli er mwyn i chi allu rheoli eich tractor bob amser.
Mynd i mewn a dod allan
- Defnyddiwch risiau mynediad a gafaelion llaw bob amser
- Defnyddiwch ddrws ochr fewnol y caban pan fo hynny'n bosibl
- Cadwch loriau, drysau, pedalau a'ch esgidiau yn lân ac yn rhydd o laid
- Peidiwch â chadw offer, piniau bariau tynnu na chydwyr top ar lawr y caban
- Cyn gadael y sedd cofiwch STOPIO'N DDIOGEL
- Ewch allan gan wynebu tuag at i mewn er mwyn i chi gael gafael da
- Peidiwch byth â mynd i neu ddod oddi ar beiriant sy'n symud
Seddau a drychau
- Cyn i chi eu haddasu sicrhewch fod y tractor wedi STOPIO'N DDIOGEL
- Archwiliwch safle y sedd - a allwch weithredu'r dyfeisiau rheoli yn gyffyrddus?
- Addaswch ddaliant y sedd i'ch pwysau
- Sicrhewch fod y drychau wedi'u haddasu'n gywir
- Sicrhewch fod y drychau a'r ffenestri yn lân ac y gallwch weld yn glir trwyddynt
- Defnyddiwch y gwregys diogelwch os oes un wedi'i ffitio
Dyfeisiau rheoli
- Edrychwch yn llawlyfr y gweithredwr i gael gwybod beth wna pob dyfais rheoli
- Sicrhewch eich bod yn gwybod sut y mae gweithredu'r dyfeisiau rheoli
- Peidiwch byth â defnyddio unrhyw ddyfais rheoli os nad ydych yn eistedd yn gywir yn y cerbyd
- Dylech wybod lle dylai'r dyfeisiau rheoli fod cyn i chi ddechrau'r tractor
- Peidiwch ag anghofio bod gan wahanol dractorau wahanol ddyfeisiau rheoli
- Peidiwch byth â defnyddio peiriant dieithr
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Torrodd gyrrwr tractor ac ôl-gerbyd â llwyth o rawn arno ei asennau ar ôl iddo gael ei ddal o dan olwyn. Bu'n sefyll wrth ochr y tractor i ddechrau'r injan er mwyn iddo fedru tipio'r ôl-gerbyd. Yna, estynnodd i mewn i weithredu'r ddyfais tipio. Nid oedd y brêc llaw ymlaen yn iawn ac wrth i'r grawn ddechrau dod allan o'r ôl-gerbyd, symudodd y tractor ymlaen, a'i ddal o dan yr olwyn.
Dim ond o'r sedd y dylech weithredu'r tractor. Dim ond pan eich bod yn y safle cywir y dylech weithredu'r dyfeisiau rheoli.
TAN BWER
Nid sôn am ddechrau'r injan yn unig y mae'r cam hwn, ond mae'n cynnwys sicrhau ei fod yn ddiogel parhau. Dyma'r amser i archwilio'r breciau, y llywio a dyfeisiau rheoli eraill. Yn ogystal, sicrhewch nad yw'ch tractor yn bygwth diogelwch unrhyw un arall.
- Peidiwch byth â gyrru tractor nac unrhyw beiriant arall oni bai eich bod wedi'ch hyfforddi i wneud hynny
- Sicrhewch eich bod yn deall y dyfeisiau rheoli cyn i chi weithredu'r tractor
- Sicrhewch fod y breciau annibynnol wedi eu cloi gyda'i gilydd
- Sicrhewch nad oes unrhyw un arall yn agos cyn i chi ddechrau'r injan
- Sicrhewch nad oes perygl i unrhyw un cyn i chi symud
- Sicrhewch fod y breciau a'r llywio yn gweithio'n iawn
- Sicrhewch eich bod yn gwybod beth a wna pob dyfais rheoli
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Roedd tractor a chynaeafwr yn cael eu defnyddio i fedi tatws cynnar. Cyflogwyd gweithwyr achlysurol i weithio ar y cynaeafwr. Ar ddiwedd pob rhes, byddai un o'r gweithwyr yn dringo oddi arno i godi tatws a oedd wedi syrthio tra roedd y cynaeafwr yn troi. Wrth i'r gweithiwr baratoi i ddringo yn ôl ar y cynaeafwr, symudodd y gyrrwr ymlaen yn ddi-rybudd, ac heb edrych y tu ôl iddo. Roedd drychau ar y tractor ond fe'u plygwyd yn erbyn ffenestr y cerbyd. Trawyd y gweithiwr i'r llawr a'i wasgu i farwolaeth gan y cynaeafwr.
Edrychwch am beryglon BOB TRO y dechreuwch.
GYRRU
Nid hwn yw'r cam olaf. Mae'n rhaid i yrrwr tractor diogel feddu ar dipyn mwy o sgiliau na'r camau a restrwyd mor belled. Rhaid i chi fod yn yrrwr diogel cyn y gallwch weithredu tractorau a pheiriannau eraill yn ddiogel.
Yn fwy na dim, byddwch ar eich gwyliadwriaeth am bobl eraill, a cadwch eich cyflymder i lawr.
- Peidiwch â gyrru tractorau os nad ydynt wedi eu cynnal a'u cadw'n dda
- Cymerwch eich amser a pheidiwch byth â brysio wrth weithredu tractorau
- Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am bobl eraill, rhwystrau a mannau dall
- Gwyliwch am arwyddion rhybudd
- Cofiwch, gall pobl eraill fod o gwmpas - hyd yn oed os nad ydych yn eu disgwyl
- Mae offer, llwythi a'r tywydd yn ei gwneud yn fwy anodd gweld - byddwch yn ofalus
- Gofynnwch am help os na allwch weld yn glir, yn enwedig wrth yrru tuag yn ôl
- Tra'n gyrru tuag yn ôl, defnyddiwch ddrychau a chyrn
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Roedd dyn yn defnyddio tractor heb gaban i glirio sied dofednod. Er nad oedd uchder y to yn yr adeilad yn broblem, roedd un o'r drysau yn isel iawn. Roedd gan y tractor far gwrthrolio a fedrai blygu ac fell roedd yn bosibl iddo basio drwy'r drws. Anghofiodd y gyrrwr ostwng y ffrâm a gyrrodd trwy'r drws. Trawodd y tractor y capan drws i ffwrdd a syrthiodd hwnnw ar ben y gyrrwr a gwasgu ei gefn.
Dylech gymryd y gofal a'r sylw priodol bob amser.
POBL ERAILL
Bob tro y defnyddiwch dractor, byddwch ar eich gwyliadwriaeth am bobl eraill - lle bynnag y boch. Yn aml, mae gweithwyr eraill gerllaw, yn defnyddio neu'n trwsio peiriannau eraill neu hyd yn oed yn cyflawni gwaith cwbl wahanol. Dylech fod ar eich gwyliadwriaeth am blant bob amser.
Os mai gweithredwr tractor ydych chi:
- edrychwch am unrhyw bobl gerllaw cyn dechrau tractorau neu beiriannau
- sicrhewch eich bod yn gwybod ym mhle y mae cynorthwywyr yn gweithio - sicrhewch eich bod yn gallu eu gweld
- cytunwch ar ddull diogel o weithio - sicrhewch fod pawb yn ei ddilyn
- mynegwch eich hun yn eglur - sicrhewch y gellir clywed a deall cyfarwyddiadau
- dim ond os oes sedd gywir wedi ei ffitio y dylech gludo rhywun arall
- defnyddiwch y corn i rybuddio cynorthwywyr eich bod ar fin dechrau
Os ydych yn cynorthwyo gweithredwr tractor:
- cytunwch ar ddull diogel o weithio - a dilynwch ef
- sicrhewch fod gweithredwr y tractor yn gallu eich gweld
- peidiwch byth â sefyll ar lwybr teithio tractor na pheiriant
- canfyddwch y mannau diogel i weithio neu i sefyll pan fyddwch yn agos at beiriannau
- gwrandewch ar gyfarwyddiadau
Os gallai plant fod yn bresennol:
- peidiwch byth â gadael iddynt deithio mewn tractor
- cadwch nhw i ffwrdd wrth dractorau sydd ar waith
- defnyddiwch STOPIO'N DDIOGEL bob amser
- byddwch yn ymwybodol bob amser o'r mannau y gallant fod
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Roedd gyrrwr tractor yn teithio ar hyd heol gydag ôl-gerbyd. Roedd yn cludo teithiwr a phenderfynodd hwnnw deithio ar far tynnu yr ôl-gerbyd. Collodd ei gydbwysedd a syrthiodd oddi ar y bar tynnu. Ni allai'r gyrrwr stopio mewn pryd ac aeth olwynion yr ôl-gerbyd dros ei deithiwr. Bu farw o ganlyniad i anafiadau difrifol i'r pen.
Peidiwch byth â chludo teithiwr ar far tynnu neu ar gefn tractor.
BACHU
Rydych fwyaf tebygol o gael damwain pan fyddwch yn bachu neu'n dad-fachu peiriant oddi ar eich tractor. Er mwyn atal y damweiniau hyn, cofiwch:
- STOPIO'N DDIOGEL;
- gweithredu'r dyfeisiau rheoli o'r safle cywir; a
- peidiwch ag anghofio bod risg i'ch cynorthwywyr hefyd.
- Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r system bachu gywir
- Dim ond o'r safle gweithredu y dylech ddefnyddio dyfeisiau rheoli
- Peidiwch byth â sefyll rhwng tractor a pheiriannau eraill, na thu ôl iddynt
- Peidiwch byth â sefyll â'ch traed o dan, ar nac yn agos at fariau tynnu
- Sicrhewch y defnyddir a chynhelir a chedwir jaciau, sglefrau a chynhalwyr eraill
- Cyfathrebwch yn glir os ydych yn derbyn help wrth fachu
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Cafodd gyrrwr tractor ei wasgu i farwolaeth tra'n tynnu troellwr gwrtaith oddi ar dractor. Nid oedd wedi codi'r troellwr yn ddigon uchel i fedru gosod paledau o dan y peiriant i'w gynnal ar yr uchder cywir. Dringodd ar y fraich gysylltu isaf ac estyn drwy ffenestr y caban i weithredu dyfais rheoli'r lifft. Cododd y troellwr gwag yn gyflym, a'i ddal rhwng y peiriant a'r tractor.
Dylech ond ddefnyddio dyfeisiau rheoli o'r safle gweithredu.
PEIRIANNAU ERAILL
Mae siafftiau gwerthyd yrru (PTO) heb gardiau, rhwystrau peirianyddol a gweithredoedd cynnal a chadw yn achosi nifer o ddamweiniau difrifol. Mae gosod gardiau yn gywir yn hanfodol a rhaid i chi gofio STOPIO'N DDIOGEL - dyma'r cam pwysicaf i sicrhau y gallwch weithredu peiriannau eraill yn ddiogel.
Siafftiau PTO
- Dilynwch STOPIO'N DDIOGEL - mae'n sicrhau na fydd pethau'n symud
- Sicrhewch y gosodwyd gardiau yn eu lle - sicrhewch y cânt eu cadwyno a'u hiro'n iawn
- Rhowch wybod am unrhyw ddiffygion ar unwaith
- Peidiwch â defnyddio peiriant a chanddo gard siafft PTO sydd wedi'i ddifrodi
Peiriannau Eraill
- Sicrhewch y gosodwyd gardiau yn gywir ar y peiriant
- Archwiliwch y peiriant am unrhyw ddiffygion
- Sicrhewch fod y breciau wedi'u cysylltu
- Sicrhewch y'ch hyfforddwyd a'ch bod yn gymwys i ddefnyddio'r peiriant
- Defnyddiwch STOPIO'N DDIOGEL bob amser
- Peidiwch â defnyddio'r peiriant os nad yw wedi ei gynnal a'i gadw'n gywir
- Dylech ostwng peiriannau i safle diogel cyn gadael y sedd
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Roedd gyrrwr tractor yn codi silwair gan ddefnyddio ôl-gerbyd cynaeafu cnwd pan gafodd ei flocio. Esgynnodd oddi ar y peiriant i geisio clirio'r rhwystr. Ni wnaeth stopio'r injan na gyrrwr y PTO. Wrth iddo dynnu gard trawodd troell ei fraich, a'i thorri i ffwrdd. Bu farw o ganlyniad i golli gwaed.
Dylech STOPIO'N DDIOGEL cyn clirio rhwystr.
PERYGLON ERAILL
Ceir peryglon ar bob fferm. Pwrpas y cam hwn yw dod o hyd iddynt a delio â nhw.
Gall gyrru ar heolydd fferm beri risg i chi ac eraill sy'n defnyddio'r heol. Mae adeiladau cyfyng neu dywyll a buarthau bach ar ffermydd yn ei gwneud yn anodd gweld ac osgoi peryglon. Gall tractorau a pheiriannau eraill achosi damweiniau os nad ydych yn cytuno ar lwybrau diogel. Rhaid i chi wybod sut i ddelio â'r rhain a pheryglon eraill.
Ni allwch ddibynnu ar synnwyr cyffredin. Mae angen cynllun cam wrth gam ar gyfer bob ardal beryglus. Dyma grynodeb o sut i ddelio ag un o'r peryglon - gwifrau pwer uwchben.
Gwifrau pwer uwchben
- Gall dod i gysylltiad â gwifrau pwer uwchben ladd
- Dylech ddod o hyd i ffyrdd i osgoi dod i gysylltiad â gwifrau pwer uwchben
- Sicrhewch y nodwyd gwifrau ar fap y fferm
- Byddwch yn ymwybodol o uchder a chyrhaeddiad peiriannau
- Defnyddiwch fynedfeydd a llwybrau gwahanol er mwyn osgoi'r gwifrau
- Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am arwyddion rhybudd, rhwystrau, pyst a thapiau rhybudd
- Dylech ddefnyddio mannau arllwys diogel bob amser
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Cafodd gyrrwr tractor ei drydanu ar ôl i'w ôl-gerbyd tipio gyffwrdd â gwifren bwer uwchben o 11 000 folt. Bu'n cludo gwrtaith i domen ger gwifren bwer. Arllwysodd ef yr ôl-gerbyd a thynnodd ymlaen i dipio'r llwyth. Cyffyrddodd yr ôl-gerbyd 6.75m â'r wifren bwer 6.5m o uchder. Cafodd ei drydanu pan ddaeth allan o'r tractor
ADNABYDDWCH BERYGLON ERAILL A SICRHEWCH EICH BOD YN GWYBOD SUT I'W HOSGOI
Cadwch glampiau, tomenni gwrtaith, a theisi byrnau i ffwrdd wrth wifrau pwer.
Gall tractor droi drosodd unrhyw le - ar glampiau silwair, yn agos at ffosydd caeau ac hyd yn oed ar fannau gwastad. Ar lethrau y mae mwyafrif yr achosion yn digwydd. Rhaid i chi wybod ac adnabod peryglon llethrau.
Mae damweiniau'n digwydd oherwydd bod gyrwyr yn camfarnu llethrau, yn anwybyddu amodau newidiol y tir, ac yn anghofio am effaith llwythi ar sefydlogrwydd.
Mae Cam 9 yn syml - peidiwch â gyrru ar lethrau hyd nes y'ch hyfforddwyd yn gywir.
- Cofiwch, gall peiriant droi drosodd ar dir gwastad yn ogystal â llethrau
- Sicrhewch fod yr offer yn cyfateb â'r tractor
- Dylech gyplu a defnyddio breciau gweithredol
- Dylech gynnal a chadw peiriannau yn dda
- Defnyddiwch wregysau diogelwch os ydynt wedi eu ffitio - os nad ydynt, ffitiwch un
- Sicrhewch fod caban diogelwch wedi ei ffitio
- MYNNWCH HYFFORDDIANT MEWN DIOGELWCH AR LETHRAU
Gallai'r ddamwain hon ddigwydd i chi ...
Roedd tractor gyriant pedair olwyn a oedd wedi ei gynnal a'i gadw'n dda yn cael ei yrru ar lethr glaswelltog 1 mewn 4 a oedd newydd ddadlaith. Nid oedd y gyrrwr wedi asesu cyflwr y tir yn gywir, a daeth at ran o'r llethr a oedd wedi rhewi. Llithrodd y tractor am 50m, gan gynyddu ei gyflymder, ac adlamodd a rholio drosodd, gan daflu'r gyrrwr trwy un o'r drysau a thorri ei goes. Ni ddaethpwyd o hyd iddo am naw awr arall.
Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i asesu llethrau.
MYNNWCH HYFFORDDIANT MEWN DIOGELWCH AR LETHRAU
GWYBODAETH YCHWANEGOL
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Os oes angen gwybodaeth ychwanegol am iechyd a diogelwch arnoch cysylltwch â Llinell Gwybodaeth HSE Ffôn: 0845 345 0055 , neu ysgrifennwch at HSE Information Centre, Broad Lane, Sheffield S3 7HQ.
DARLLEN PELLACH
Mae cyhoeddiadau Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim o:
Swyddfa Caerdydd, Ty Brunel, 2 Heol Fitzalan, Caerdydd CF2 1SH Ffôn: 01222 263000.
Mae'r cyhoeddiadau HSE sydd am ddim a'r rhai sydd ar werth ar gael drwy'r post o:
HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS.
Ffôn: 01787 881165; ffacs 01787 313995
Mae cyhoeddiadau HSE hefyd ar werth mewn siopau llyfrau da.
AM DDIM
Rhwystro tractorau rhag troi drosodd AS 22(W)
Power take-off and power take-off shafts AS 24(W)
Stacking, transporting and handling bales in agriculture IND(G) 125L HSE Books
AR WERTH
Ffermio diogel: eich canllaw i iechyd a diogelwch HSE Books 1995 ISBN 0 7176 0839 5 pris £3.50.
Safe use of big round balers Taflen Gwybodaeth Amaethyddol Rhif 4
Safe use of combine harvesters Taflen Gwybodaeth Amaethyddol Rhif 6
Gweithio'n ddiogel ger gwifrau pŵer uwchben Taflen Gwybodaeth Amaethyddol Rhif 8(W)
Safe use of potato harvesters Taflen Gwybodaeth Amaethyddol Rhif 13
Mae'r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am arferion da nad ydynt yn orfodol ond a allai fod o gymorth wrth ystyried beth sydd angen i chi ei wneud.
Yn ystod mis Medi 1993 dadansoddodd HSE 1075 o ddamweiniau yn ymwneud â thractorau mewn amaethyddiaeth a archwiliwyd gan arolygwyr HSE. Digwyddodd y damweiniau hyn rhwng lonawr 1987 a Medi 1993.
Nod y dadansoddiad oedd darparu astudiaeth fanwl ar fathau penodol o ddamweiniau. Ni fydd y ffigurau a ddangoswyd yr un peth â'r cyfanswm o ddamweiniau yr hysbyswyd HSE amdanynt. Y rheswm dros hynny yw nad yw pob damwain yr hysbyswyd HSE amdani yn cael ei harchwilio. Gall y ffigurau fod yn wahanol, felly, i'r ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd gan HSE. Yn ogystal, nid yw'r ffigurau a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad wedi eu seilio ar flwyddyn ariannol HSE, a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer ffigurau swyddogol.
Gellir atgynhyrchu'r cyhoeddiad hwn ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu fasnachol. Mae'r wybodaeth a geir ynddo yn gyfredol ar 3/95. Dylid cydnabod y ffynhonnell fel HSE.
Mae'r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth am arferion da nad ydynt yn orfodol ond a allai fod o gymorth wrth ystyried beth sydd angen i chi ei wneud.
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan HSE

