HSE banner

1. Beth yw'r broblem?

Bydd mwy nag un rhan o dair o'r holl anafiadau sy'n para fwy na thridiau yr hysbysir yr HSE ac awdurdodau lleol yn eu cylch yn deillio o drin llwythi â llaw - cludo neu gynnal llwythi â llaw neu drwy rym corfforol

Mae'r rhan fwyaf o'r damweiniau yr hysbysir yr awdurdodau yn eu cylch yn achosi niwed i'r cefn, er bod y dwylo, y breichiau a'r traed hefyd mewn perygl. Dengys y siart cylch y patrwm ar gyfer anafiadau dros dridiau yn ystod 1990/91. Ar gyfartaledd canlyniad pob anaf yw 20 diwrnod i ffwrdd o'r gwaith. Mae'r gost yn anferth. Ac weithiau ni fydd y sawl gafodd ei anafu byth yn gwella'n llwyr.

Bydd nifer o'r anafiadau a ddaw yn sgîl trin llwythi â llaw yn cronni dros gyfnod yn hytrach na chael eu hachosi gan un digwyddiad penodol o drin llwythi. Bydd yr anafiadau hyn yn digwydd lle bynnag y bydd pobl wrth eu gwaith - ar ffermydd a safleoedd adeiladu, mewn ffatrïoedd, swyddfeydd, warysau, ysbytai, banciau, labordai, ac wrth ddosbarthu.


2. Beth ddylwn i ei wneud?

Ystyriwch y peryglon o drin llwythi â llaw i iechyd a diogelwch eich gweithwyr - bydd gweddill y llyfryn hwn yn eich helpu. Os bydd perygl, bydd Rheoliadau Gweithrediadau Trin Llwythi â Llaw 1992 yn berthnasol.

pie chart

3. Beth yw fy nyletswyddau?

Dylai'r cyflogwr:

Caiff y pwyntiau hyn eu hegluro'n fanwl yn adrannau 4 a 5.

Mae gan weithwyr ddyletswyddau hefyd. Dylent:


4. Osgoi trin llwythi â llaw

Cadarnhewch a oes angen i chi ei symud o gwbl.

Er enghraifft:

Gochelwch rhag peryglon newydd oherwydd awtomatiaeth neu fecaneiddio.

Er enghraifft:

diagram of a fork lift truck moving a box Ystyriwch awtomatiaeth, yn arbennig ar gyfer prosesau newydd.

Meddyliwch am fecanyddiaeth, fel defnyddio cerbyd codi


5. Asesu a lleihau'r perygl o anaf

Pwy ddylai wneud yr asesiad?

Cyfrifoldeb y cyflogwr yw'r asesiad. Dylech allu gwneud y rhan fwyaf o'r asesiadau yn fewnol; rydych chi'n adnabod eich busnes yn well nag unrhyw un. Dim ond ychydig funudau o arsylwi a defnyddio synnwyr cyffredin fydd ei angen ar y rhan fwyaf. Gall cyngor gan arbenigwyr allanol fod o gymorth mewn achosion anodd neu anarferol, neu er mwyn cychwyn arni. Gweler y siart ar dudalen 7 ar gyfer y math o broblemau i edrych amdanynt.

Pa swyddogaeth all gweithwyr ei chwarae wrth gynnal asesiadau?

Gall eich gweithwyr eich helpu i gynnal yr asesiad - yn aml byddant yn gwybod pa broblemau sydd a sut y gellir eu datrys orau. Os yw eu gwaith yn amrywio neu os nad oes goruchwyliaeth manwl ohono, sicrhewch eu bod yn ymwybodol o ba risgiau i edrych amdanynt wrth drin llwythi â llaw, a beth i'w wneud yn eu cylch. Ond y cyflogwyr sydd yn gyfrifol yn y pen draw am asesiadau

A oes angen cofnodi'r asesiadau?

Nac oes, ac eithrio pan na fydd yn hawdd ailadrodd yr asesiad, ac mewn achosion o'r fath dylid cofnodi a chadw'r canfyddiadau arwyddocáol.

A oes rhaid i mi wneud asesiadau ar gyfer pob gweithiwr a gweithle unigol?

Nac oes. Mae'n hollol dderbyniol i gyfuno rhannau o'r asesiad sy'n gyffredin i nifer o weithwyr neu i fwy nag un safle neu fath o waith.

Y peth pwysicaf yw i nodi'r perygl o anaf ac arwain y ffordd i welliannau ymarferol.

Sut ddylwn i ddefnyddio fy asesiad?

Peidiwch ag anghofio amdano neu ei gadw mewn ffeil. Diben yr asesiad yw nodi nodweddion gwaethaf y gwaith - a'r rheini y dylech geisio eu gwella yn gyntaf. Gweler y siart ar dudalen 7.

diagram of a model person pushing a sack barrow Faint ddylwn i leihau'r perygl?

I'r lefel isaf sy'n 'rhesymol ymarferol'. Mae hynny'n golygu lleihau'r perygl hyd nes y byddai cost unrhyw gamau pellach - o ran amser, trafferth neu arian - yn llawer rhy fawr o'i gymharu â'r manteision.

A oes rhaid i mi ddarparu cymhorthion mecanyddol ym mhob achos?

Mae'n dibynnu a yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny. Ond dylech ystyried cymhorthion mecanyddol bob amser - gallant wella cynhyrchiant yn ogystal â diogelwch. Gall rhywbeth mor syml â cherbyd sachau fod yn welliant mawr.

Problemau i edrych amdanynt wrth wneud asesiad Ffyrdd o leihau'r perygl o gael anaf
Y tasgau: A ydynt yn cynnwys - Allwch chi -
  • dal llwythi oddi wrth y corff?
  • troi, plygu neu ymestyn tuag i fyny?
  • symudiadau fertigol mawr?
  • pellteroedd cario hir?
  • tynnu neu wthio egnïol?
  • llwythi yn symud yn annisgwyl?
  • trin ailadroddus?
  • amser gorffwys neu amser adfer annigonol?
  • cyflymdra gwaith a bennir gan broses?
  • wella cynllun eich gweithle er mwyn gwella effeithlonrwydd?
  • leihau'r galw am droi a phlygu?
  • osgoi codi o lefel y llawr neu uwchlaw'r ysgwyddau?
  • dorri ar bellteroedd cario?
  • osgoi trin ailadroddus?
  • amrywio'r gwaith, gan ganiatáu i un set o gyhyrau orffwys tra bydd set arall yn cael ei defnyddio?
Y llwythi: a ydynt - Allwch chi wneud y llwyth -
  • yn drwm, swmpus neu'n anhyblyg?
  • yn anodd i afael ynddynt?
  • yn ansefydlog neu'n ansicr?
  • yn gynhenid niweidiol, e.e. yn finiog neu'n boeth?
  • yn ysgafnach neu'n llai swmpus?
  • yn haws i afael ynddo?
  • yn fwy sefydlog?
  • yn llai niweidiol i afael ynddo?
  • Ydych chi wedi gofyn i'ch cyflenwyr i helpu?
Yr amgylchedd gwaith: a oes - Allwch chi -
  • cyfyngiadau ar osgo?
  • lloriau gwael?
  • amrywiadau mewn lefelau?
  • amodau poeth/oer/llaith?
  • symudiadau aer cryf?
  • amodau goleuo gwael?
  • cyfyngiadau ar symudiad neu osgo oherwydd dillad neu gyfarpar amddiffynnol personol?
  • gael gwared ar rwystrau i ryddhau symudiad?
  • ddarparu gwell llawr?
  • osgoi grisiau a rampiau serth?
  • rwystro eithafion poeth ac oer?
  • wella goleuadau?
  • ystyried dillad neu gyfarpar amddiffynnol personol llai cyfyngedig?
Gallu unigol: a yw'r swydd - Allwch chi -
  • yn gofyn am allu anarferol?
  • yn peryglu'r rhai sydd â phroblem iechyd?
  • yn peryglu merched beichiog?
  • yn galw am wybodaeth neu hyfforddiant arbennig?
  • gymryd gwell gofal o'r rhai sydd â gwendid corfforol neu sy'n feichiog?
  • roi mwy o wybodaeth i'ch gweithwyr, e.e. am yr amrywiaeth o dasgau y maent yn debygol o'u hwynebu?
  • ddarparu hyfforddiant (gweler adrannau 6 a7)?

6, Beth am hyfforddiant?

Mae hyfforddiant yn bwysig ond cofiwch, ar ei ben ei hun, na all oresgyn:

Dylai hyfforddiant gwmpasu:


7. Technegau trin da

Dyma rai pwyntiau pwysig, gan ddefnyddio gweithgaredd codi sylfaenol fel esiampl.

model person about to lift a box Arhoswch i feddwl

Cynlluniwch cyn codi. Lle mae'r llwyth i gael ei osod? Defnyddiwch gymhorthion trin addas os yn bosibl. A fydd angen help arnoch gyda'r llwyth? Tynnwch rwystrau fel deunyddiau lapio. Ar gyfer codi llwythi'n uchel, fel o'r llawr i'r ysgwydd, ystyriwch orffwys y llwyth hanner ffordd ar fwrdd neu fainc er mwyn newid eich gafael.


diagram of a model person bending down to pick up a box Mabwysiadwch osgo da

Wrth godi o lefel isel, plygwch eich penliniau. Ond peidiwch â phenlinio neu or-blygu'r penliniau. Cadwch eich cefn yn syth (bydd troi eich gên at i mewn yn helpu). Plygwch ymlaen ychydig dros y llwyth os yw'n hanfodol i gael gafael da. Cadwch yr ysgwyddau'n wastad ac yn wynebu i'r un cyfeiriad â'ch cluniau.


diagram of a standing position to pick up a box Gosod y traed

Mae gosod y traed ar led yn rhoi sail gytbwys a sefydlog i godi (mae sgertiau tyn ac esgidiau anaddas yn gwneud hyn yn anodd). Rhowch eich coes arwain mor bell ymlaen ag sy'n gyfforddus.


diagram of a model person bending down to pick up a box Gafaelwch yn gadarn

Ceisiwch gadw'r breichiau o fewn y ffiniau a ffurfiwyd gan eich coesau. Mae'r osgo gorau a'r math gorau o afael yn dibynnu ar amgylchiadau a dewis yr unigolyn; ond mae'n rhaid iddo fod yn sicr. Mae gafael bachyn yn llai blinedig na chadw'r bysedd yn syth. Os bydd angen amrywio'r gafael arnoch wrth i'r codi fynd rhagddo, gwnewch hynny mor esmwyth â phosibl.


diagram of a model person carrying a box Cadwch yn agos l'r llwyth

Cadwch y llwyth yn agos i'r corff cyhyd ag y bo'n bosibl. Cadwch ochr drymaf y llwyth ger y corff. Os na fydd yn bosibl bod yn agos at y llwyth, llithrwch ef tuag atoch cyn ceisio'i godi.

Peidiwch â chodi'n sydyn

Codwch yn esmwyth, gan gadw rheolaeth ar y llwyth.

Symudwch y traed

Peidiwch â throi'r corff wrth droi i'r ochr.

Rhowch y llwyth i lawr, yna'i smud

Os bydd angen gosod y llwyth yn fanwl gywir, rhowch ef i lawr i ddechrau, yna llithrwch efi'r safle sydd ei angen arnoch.

diagram of a model person placing a box on a desk


8. Sut fydda i'n gwybod os bydd perygl o anaf?

Mae'n fater o farn ym mhob achos, ond mae rhai pethau y dylech edrych amdanynt, fel blinder gormodol, osgo gwael, mannau gwaith gorlawn/anniben, llwythi trwsgwl neu drwm neu hanes o drafferthion gyda'r cefn.

Allwch chi fod yn fwy penodol?

Mae'n anodd bod yn bendant: mae cymaint o ffactorau'n amrywio rhwng swyddi, gweithleoedd a phobl. Ond dylai'r canllawiau cyffredinol helpu.

Felly mae unrhyw beth o fewn y canllawiau yn ddiogel?

Does dim o'r fath beth â gweithgaredd trin llwythi hollol 'ddiogel'. Ond bydd gweithio o fewn y canllawiau yn lleihau'r perygl a'r angen am asesiad manylach.

Fodd bynnag, dylech barhau i wneud y gwaith yn llai beichus os yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

A ydych chi'n dweud na ddylwn fynd y tu hwnt i'r canllawiau?

Nac ydym. Nid yw'r rhain yn gyfyngiadau cyfreithiol. Ond bydd gwaith y tu allan i'r canllawiau hyn yn debygol o gynyddu'r perygl o gael anaf, felly dylech edrych yn fanwl arno ar gyfer gwelliannau posibl, hynny yw bydd angen i chi wneud asesiad manylach.


Canllawiau cyffredinol

Mae pob blwch yn y diagram yn dangos pwysau ar gyfer codi a gostwng. Mae'r pwysau'n tybio bod gafael sicr yn y llwyth gyda dwy law; a bod y gweithgaredd yn digwydd mewn amodau gwaith rhesymol gyda'r sawl sy'n codi'r llwyth mewn safle corfforol sefydlog.

Os bydd dwylo'r sawl sy'n codi mewn mwy nag un blwch yn ystod y gweithgaredd, defnyddiwch y pwysau isaf. Defnyddiwch bwysau rhwng y ddau rif os yw'r dwylo'n agos at ffin rhwng y blychau. Os bydd yn rhaid i'r gweithgaredd gael ei gynnal gyda'r dwylo y tu hwnt i'r blychau, gwnewch asesiad manylach.

Troi

Lleihewch y pwysau canllaw os bydd y codwr yn troi i'r ochr yn ystod y gweithgaredd. Fel canllaw bras, lleihewch hwy 10% os bydd y sawl sy'n codi yn troi drwy ongl o 45 °, ac 20% os bydd y sawl sy'n codi yn troi drwy 90 °.

lifting heights Codi a gostwng yn aml

Mae'r pwysau canllaw ar gyfer gweithgareddau anaml - hyd at 30 gweithgaredd yr awr - lle nad yw cyflymdra'r gwaith yn cael ei orfodi, pan fydd digon o amser i orffwys neu i ddefnyddio cyhyrau gwahanol, ac os nad yw'r llwyth yn cael ei gynnal am unrhyw gyfnod o amser. Lleihewch y pwysau os ailadroddir y gweithgaredd yn amlach. Fel canllaw bras, lleihewch y pwysau 30% os caiff y gweithgaredd ei ailadrodd unwaith neu ddwywaith y munud; 50% os caiff y gweithgaredd ei ailadrodd bump i wyth gwaith y munud ac 80% os caiff y gweithgaredd ei ailadrodd fwy na 12 gwaith y munud.

Gallu unigol

Ar gyfer y boblogaeth waith bydd y pwysau canllaw yn rhoi diogeliad rhesymol i bron i hanner yr holl ddynion a dwy ran o dair o ferched. Er mwyn darparu diogeliad tebyg i bron i bob merch sy'n gweithio, lleihewch y pwysau canllaw un rhan o dair.

Dylid asesu unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys mwy na dwywaith y pwysau canllaw, yn drylwyr - hyd yn oed ar gyfer unigolion heini iawn wedi eu hyfforddi'n gywir sy'n gweithio o dan amodau ffafriol.

Mwy o wybodaeth

Manual handling: Manual Handling Operation Regulations 1992. Guidance on Regulations: L23 HSE Books 1992 ISBN 0 7176 0411 X

Mae'r canllaw hwn yn:

The Management of Health and Safety at Work Regulations 1992, SI 1992/2051 Gwasg ei Mawrhydi HMSO ISBN 0 11 025051 6

The Manual Handling Operations Regulations 1992, SI 1992/2793 Gwasg ei Mawrhydi HMSO ISBN 0 11 025920 3

Mae cyhoeddiadau Gwasg Ei Mawrhydi ar gael o Wasg Ei Mawrhydi a llyfrwerthwyr.

Mae cyhoeddiadau HSE ar gael am ddim ac i'w prynu drwy'r post o: HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS Rhif ffôn: 01787 881165 Ffacs: 01787 313995

Mae cyhoeddiadau HSE hefyd ar werth o Siopau Llyfrau Dillons a phob.siop lyfrau dda.

Dylid cyfeirio ymholiadau eraill at Ganolfan Gwybodaeth HSE, Broad Lane, Sheffield S3 7HQ Rhif ffôn: 0845 345 0055 Ffacs: 0114 2892333

Gellir atgynhyrchu'r cyhoeddiad hwn ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu fasnachu. Mae'r wybodaeth a gynhwysir ynddo yn gyfredol ar 3/93. Cydnabydder y ffynhonnell fel HSE.

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch.

IND(G)143L (W) C20 4/95