Health and Safety Executive

COSHH Y canllaw byr newydd ar gyfer cyflogwyr

Contents

Canllaw i brif ofynion Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) 1994

BETH YW COSHH?

Mae COSHH yn darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu pobl rhag risgiau i'w hiechyd o sylweddau peryglus a ddefnyddir yn y gwaith. Anelir y daflen ddiwygiedig hon at gyflogwyr. Mae'n amlinellu ymagwedd gam wrth gam tuag at Reoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) 1994-nodi peryglon, pwyso a mesur y risgiau sy'n deillio ohonynt a phenderfynu pa gamau pellach sydd angen i chi eu cymryd os yw'r risgiau yn rhai sylweddol.

Mae'n rhaid i bob cyflogwr ystyried sut y mae COSHH yn gymwys i'w gwaith hwy. Bydd llawer yn gallu cydymffurfio â'r Rheoliadau heb fawr o ymdrech; bydd mwy o waith i'w wneud gan eraill, y mae eu gwaith yn creu mwy o risgiau. Mae'r daflen hon yn eich helpu i benderfynu beth ddylech wneud nesaf. •Yng nghefn y daflen hon mae adran ar sut y gallwch gael mwy o wybodaeth.

•Mae Rheoliadau a phrif Godau Ymarfer COSHH ar gael gyda'i gilydd mewn un cyhoeddiad-gweler yr adran wybodaeth yng nghefn y daflen hon.


PAM BOD ANGEN RHEOLI SYLWEDDAU PERYGLUS?

Amlygir miloedd o bobl i sylweddau peryglus yn y gwaith. Os na chaiff yr amlygiad ei atal neu ei reoli'n gywir, gall achosi salwch difrifol, a hyd yn oed farwolaeth weithiau. Gall arwain hefyd at golli enillion, gostwng cynhyrchiant, erlyniadau costus, cwmnïau yn cael eu siwio a'r genedl yn gorfod talu am fudd-dâl salwch. Ymhlith rhai enghreifftiau o effeithiau sylweddau peryglus mae:

  • croen yn cosi, dermatitis neu hyd yn oed canser y croen o ganlyniad i gysylltiad rheolaidd ag olewon;
  • asthma yn deillio o sensiteiddiad i isocyanadau mewn paent neu lud;
  • cael eich llethu gan fygdarthau gwenwynig-gall anafiadau neu farwolaeth gael eu hachosi gan y sylweddau eu hunain neu drwy syrthio ar ôl mynd yn anymwybodol;
  • gwenwyno drwy yfed hylif gwenwynig o boteli y credir eu bod yn cynnwys dŵr neu ddiodydd ysgafn-weithiau gyda chanlyniadau angheuol;
  • canser, a all ymddangos flynyddoedd lawer ar ôl yr amlygiad cyntaf i sylweddau carsinogenig (sy'n achosi canser) yn y gwaith;
  • haint o facteria a micro-organebau eraill ('cyfryngau biolegol').

BETH MAE COSHH YN EI GWMPASU?

Mae COSHH yn cwmpasu sylweddau a all achosi salwch. Gallant:

  • gael eu defnyddio'n uniongyrchol yn y gwaith, e.e. paent neu ddeunydd glanhau; neu
  • deillio o'r gwaith, e.e. llwch, mygdarthau a chynnyrch gwastraff; neu
  • digwydd yn naturiol, e.e. sborau ffyngaidd mewn amaethyddiaeth.

Gellir dod o hyd i sylweddau peryglus mewn pob math o amgylchedd gwaith-ffatrïoedd, swyddfeydd, chwareli, cloddfeydd, ffermydd, safleoedd alltraeth, pibellau, siopau, pyllau nofio ac ati-ac oni bai y caiff y camau diogelu priodol eu cymryd, gallant fygwth iechyd gweithwyr ac eraill a amlygir iddynt.

Mae COSHH yn pennu ymagwedd gam wrth gam i'r camau diogelu hynny. Mae'n pennu mesurau hanfodol y mae'n rhaid i chi-ac weithiau eich gweithwyr-eu cymryd. Mae COSHH hefyd yn ffordd ddefnyddiol o reoli'n dda, a gall hyn ddod â nifer o fanteision yn ei sgîl yn cynnwys arbed arian i chi, helpu gweithwyr i ddod i well dealltwriaeth o iechyd a diogelwch, a gwella morâl a chysylltiadau diwydiannol. Ond cofiwch, fel gyda phob cyfraith ar iechyd a diogelwch, bydd methu â chydymffurfio â COSHH yn eich gadael yn agored i gael eich erlyn.


BETH YW SYLWEDD SY'N BERYGLUS I IECHYD?

At ddibenion COSHH, y sylweddau sy'n beryglus i iechyd yw:

  • sylweddau neu gymysgedd o sylweddau a nodir fel rhai sy'n beryglus i iechyd o dan y Rheoliadau CHIP cyfredol. •Gellir adnabod y rhain yn ôl eu label rhybuddio (gweler y tri label rhybuddio ar ben tudalen 4) ac mae'n rhaid i'r cyflenwr ddarparu taflen data diogelwch ar eu cyfer. Rhestrir llawer, ond nid pob un, o'r sylweddau peryglus yng nghyhoeddiad HSE The Approved Supply List (rhifyn cyfredol a rhan o'r Rheoliadau CHIP).••

Mae'n rhaid i gyflenwyr benderfynu a yw sylweddau nad ydynt yn y rhestr Approved Supply List yn beryglus hefyd, ac, os felly, eu labelu yn unol â hyn;.

Symbol ar gyfer sylwedd gwenwynig iawn neu sylwedd gwenwynig Symbol ar gyfer sylwedd gwenwynig iawn neu sylwedd gwenwynig

symbol ar gyfer sylwedd niweidiol neu lidiog Symbol ar gyfer sylwedd niweidiol neu lidiog

symbol ar gyfer sylwedd cyrydol Symbol ar gyfer sylwedd cyrydol


•Fersiwn cyfredol o'r Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Lapio ar gyfer Cyflenwi).

••Mae'r cyhoeddiad hwn hefyd yn cynmcys dangosyddion pwysig, e.e. yr ymadroddion risg sy'n helpu i adnabod syhceddau a all achosi canser.

  • sylweddau gyda therfynau amlygiad galwedigaethol. Rhestrir y rhain yn EH40-Occupational exposure limits;•
  • cyfryngau biolegol (bacteria a micro-organebau eraill), os ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith neu os yw'r amlygiad yn achlysurol, fel ffermio, trin carthffosaeth neu gofal iechyd;
  • unrhyw fath o lwch mewn crynodiad sylweddol;
  • unrhyw sylwedd arall sydd â pheryglon tebyg i iechyd pobl, ond na chwmpesir yn benodol am resymau technegol gan CHIP. Mae enghreifftiau yn cynnwys rhai plaleiddiaid, moddion, cosmetigion neu ryngolion a gynhyrchir mewn prosesau cemegol.

BETH NAD YW'N SYLWEDD SY'N BERYGLUS I IECHYD?

Mae COSHH yn gymwys i bron pob sylwedd sy'n beryglus i iechyd ac eithrio:

  • asbestos a phlwm, sydd â'u rheoliadau eu hunain;
  • sylweddau sy'n beryglus dim ond am eu bod: yn ymbelydrol; yn fygwyr; ar bwysedd uchel; ar dymheredd eithafol; neu â nodweddion ffrwydrol neu hylosg iawn;
  • cyfryngau biolegol os nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith ac os ydynt y tu allan i reolaeth y cyflogwr, fel dal annwyd oddi wrth gydweithiwr.

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o gemegion masnachol bydd presenoldeb label rhybudd (neu beidio) yn nodi a yw COSHH yn berthnasol. Er enghraifft, nid oes label rhybuddio ar hylif golchi llestri cyffredin, felly os caiff ei ddefnyddio yn y gwaith nid oes rhaid i chi boeni am COSHH. Fodd bynnag, mae label rhybuddio ar gannydd, felly mae COSHH yn gymwys yn y gweithlu.

•Llyfryn canllaw HSE sef EH40 yw'r rhestr swyddogol o derfynau amlygiad galwedigaethol ac fe gaiff ei ddiwygio bob blwyddyn.


PERYGL A RISG

Defnyddir y geiriau perygl a risg yn aml yn y daflen hon. Mae iddynt ystyron arbennig mewn rheoliadau ac arweiniad ynglŷn â sylweddau yn y gwaith ac mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn bwysig er mwyn deall COSHH yn gywir.


Perygl

Y perygl a gyflwynir gan sylwedd yw ei botensial i achosi niwed. Gallai wneud eich croen yn boenus neu niweidio eich ysgyfaint.


Risg

Risg o sylwedd yw'r tebygrwydd y bydd yn niweidio pobl wrth ei ddefnyddio. Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn cynnwys:

  • y perygl a gyflwynir gan y sylwedd;
  • sut y caiff ei ddefnyddio (neu ei gamddefnyddio);
  • sut y caiff amlygiad iddo ei reoli;
  • faint o'r sylwedd y cawsoch eich amlygu iddo ac am ba hyd;
  • y gwaith sy'n cael ei wneud.

Cofiwch, gall fod risg sylweddol hyd yn oed o sylwedd nad yw'n beryglus iawn, os yw'r amlygiad iddo yn ormodol. Ac eto drwy gymryd y camau diogelu cywir, gall y risg o gael eich niweidio gan hyd yn oed y sylwedd mwyaf peryglus fod yn fach iawn.


BETH SY'N OFYNNOL GAN COSHH

Mae cydymffurfio â COSHH yn golygu:

  • asesu'r risgiau i iechyd sy'n deillio o'ch gwaith;
  • penderfynu pa gamau diogelu sydd angen eu cymryd. Ni ddylech gyflawni unrhyw waith a allai amlygu gweithwyr i sylweddau peryglus heb yn gyntaf ystyried y risgiau a'r camau diogelu angenrheidiol. Oni bai eich bod wedi ystyried y risgiau yn gywir, rydych yn annhebyg o benderfynu ar y camau cywir i'w cymryd;
  • atal neu reoli amlygiad. Bydd y cyngor yn y daflen hon, ac yn y canllawiau eraill y mae'n cyfeirio atynt, yn eich helpu i gael yr asesiad yn gywir ac yn eich helpu i gymryd y camau cywir, ond cofiwch na all hyd yn oed y cynlluniau perffaith gyflawni unrhyw beth oni bai y cânt eu rhoi ar waith;
  • sicrhau y caiff mesurau rheoli eu defnyddio a'u cynnal yn gywir, ac y caiff unrhyw weithdrefnau diogelwch a bennwyd eu dilyn;
  • monitro amlygiad gweithwyr i sylweddau peryglus a chyflawni arolygiaeth iechyd briodol, lle mae'r asesiad wedi dangos bod hyn yn angenrheidiol neu pan fydd COSHH yn pennu gofynion penodol;
  • sicrhau bod gweithwyr yn cael eu hysbysu, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n gywir.

ASESU'R RISGIAU A PHENDERFYNU PA GAMAU DIOGELU SYDD ANGEN EU CYMRYD

Asesiad yw'r gofyniad cyfreithiol sylfaenol ar gyfer pob cyflogwr.

  • Yn gyntaf edrychwch ar y gwaith i weld pa sylweddau peryglus sy'n bresennol. Os ydych wedi prynu'r sylwedd, dylech ddarllen y daflen data diogelwch. Ond dylech hefyd feddwl am sylweddau eraill y gall y gwaith eu cynhyrchu, fel rhodenni weldio sy'n cynhyrchu mygdarthau weldio.
  • Yna meddyliwch am y risgiau maent yn eu hachosi i iechyd pobl.
  • Pan fydd yna risgiau sylweddol, penderfynwch ar y camau sydd angen eu cymryd i gael gwared arnynt neu i'w lleihau i lefelau derbyniol, gan gadw'r costau mewn cof.
  • Os yw'r risgiau yn fach, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth.

Dim ond drwy fod ag ymagwedd systematig y gallwch fod yn siwr o ddiogelu iechyd pobl a all gael eu niweidio gan eich gweithgareddau yn y gwaith. Mae ymdrechion bob hyn a hyn yn debygol o wastraffu arian ac ymdrech heb gyflawni'r canlyniadau cywir.•


Pwy ddylai wneud yr asesiad?

Eich cyfrifoldeb chi, y cyflogwr, yw'r asesiad, ond gall eraill wneud peth neu hyd yn oed y rhan fwyaf o'r gwaith o'i baratoi ar eich rhan. Heblaw achosion syml iawn, bydd angen i bwy bynnag sy'n cyflawni'r asesiad:

  • ddeall gofynion Rheoliadau COSHH a'r Codau Ymarfer cydnabyddedig priodol a dylai'r rhain fod ar gael i'r person hwn;
  • fod â'r gallu a'r awdurdod i gael yr holl wybodaeth angenrheidiol a'r wybodaeth a'r gallu i wneud penderfyniadau cywir am y risgiau a'r camau diogelu sydd angen eu cymryd.

Cofiwch mai chi a'ch gweithwyr sy'n gwybod fwyaf am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn eich gweithle. Gwnewch ddefnydd llawn o'r holl wybodaeth honno cyn penderfynu a yw cymorth o'r tu allan yn angenrheidiol. Os credwch nad oes gennych yr arbenigedd i asesu rhai o'r risgiau mwy cymhleth, efallai y gallech gael help gan rywun fel ymgynghorydd proffesiynol neu gymdeithas fasnach.

Mae'n syniad da sicrhau bod gweithwyr perthnasol ac unrhyw gynrychiolwyr diogelwch yn cymryd rhan mewn asesiadau, gan fod ganddynt wybodaeth ddefnyddiol yn aml nad oes gan reolwyr. Mae'n rhaid hefyd eu hysbysu o'r canlyniadau.

Os ydych yn cyflogi pobl sy'n gweithio i chi ar safle arall-gweithwyr teithiol-mae'n rhaid i chi asesu'r risgiau a wynebant ble bynnag y maent yn gweithio, a sicrhau'r diogelwch angenrheidiol ar eu cyfer. Er mwyn gwneud hyn mae'n debyg y bydd angen i chi gydweithio ag eraill, fel deiliaid safleoedd y mae gweithwyr teithiol yn mynd iddynt. Mae'n rhaid i chi hefyd ystyried y risgiau i bobl, heblaw eich gweithwyr, a all fod ar eich safleoedd.••


•Mae llyfryn canllaw HSE ar asesiadau COSHH yn rhoi'r ymagwedd gam wrth gam a argymhellir yn fanwl iawn.

••Mae llyfryn canllaw HSE COSHH and peripatetic workers yn rhoi cyngor ar gymhwyso COSHH i weithwyr sy'n gweithio ar safleoedd eraill.


Sut y gellir adnabod sylweddau peryglus?

  • Ar gyfer sylweddau a brynir i mewn i'r gweithle, dylech fwrw golwg dros y wybodaeth am ddiogelwch; mae'n ofynnol i'ch cyflenwyr yn ôl y gyfraith gynnwys y wybodaeth hon ar labeli ac mewn taflenni data diogelwch.
  • Defnyddiwch eich gwybodaeth bresennol am y gwaith a wneir yn eich gweithle, am yr arfer gorau cyfredol, ac am unrhyw broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â gwaith yn eich diwydiant.
  • Gofynnwch i'ch cymdeithas fasnach a chyflogwyr eraill yn yr un busnes am eu profiad a'u cyngor hwy.
  • Edrychwch i weld a sonnir am y sylwedd yn Rheoliadau COSHH, neu mewn canllaw HSE arall fel EH40 y soniwyd amdano ar dudalen 4, neu'r rhestr gydnabyddedig o gyfryngau biolegol.•
  • Edrychwch yn Rhan V o gyhoeddiad HSE The Approved Supply List (rhifyn cyfredol), y soniwyd amdano eisoes ar dudalen 3.
  • Edrychwch mewn unrhyw lenyddiaeth neu ddogfennau masnach eraill.

Pa sylweddau peryglus sy'n bresennol?

Cofiwch, pan fyddwch yn gwneud asesiad, dylech sicrhau ei fod yn cynnwys sylweddau peryglus:

  • a ddaw i mewn i'r gweithle i'w defnyddio, i weithio arnynt neu i'w storio;
  • a ryddheir fel mygdarthau, tarthau neu aerosolau, neu a all ollwng neu gael eu tywallt, yn ystod unrhyw broses neu weithgaredd gwaith;
  • a gynhyrchir ar ddiwedd unrhyw waith neu broses, fel cynnyrch gorffenedig, gwastraff neu waddodion.

A oes unrhyw risgiau sylweddol o'r sylweddau peryglus?


•Categoreiddio cyfryngau biolegol-Rhestr gydnabyddedig

A allai unrhyw sylweddau yn eich gweithle gyflwyno risg gwirioneddol i iechyd pobl-nawr, yn y dyfodol, neu petai rhywbeth yn mynd o'i le? Edrychwch ar y canlynol:

  • faint a ddefnyddir-er enghraifft, efallai na fydd symiau bach o sylweddau gwenwynig (pan gânt eu defnyddio mewn amgylchiadau arferol) yn creu risg sylweddol, fel peniau marcio yn seiliedig ar doddydd;
  • a allai gweithwyr gael eu hamlygu y tu hwnt i'r terfyn amlygiad galwedigaethol a restrir yn EH 40 (y soniwyd amdano ar dudalen 4);
  • pa mor aml y caiff y sylwedd ei ddefnyddio?
  • pa mor beryglus yw (gwenwynig, cyrydol neu lidiog)?

Er mwyn eich helpu i asesu'r risgiau, dylech ystyried:

  • cyngor gweithgynhyrchwyr ar storio, defnyddio a gwaredu;
  • pwy allai gael eu heffeithio (e.e. gweithwyr, contractwyr, y cyhoedd) a beth maent yn ei wneud. A ydynt yn debygol o gael eu hamlygu i unrhyw sylweddau peryglus sy'n bresennol, ac i ba raddau?
  • a fyddai amlygiad o'r fath yn golygu bod sylweddau yn cael eu hanadlu i mewn, eu llyncu (e.e. yn dilyn difwyniad o'r bysedd ac ati) neu'n cael eu hamsugno drwy'r croen;
  • pa fesurau a gymerir ar hyn o bryd i atal neu reoli amlygiad ac i wirio effeithiolrwydd y mesurau hynny a'r ffordd y cânt eu defnyddio;
  • a allent ollwng, tywallt neu gael eu rhyddhau, e.e. o ganlyniad i'r gwaith neu i'r offer rheoli yn torri, neu drwy gamgymeriad ar ran y gweithredydd;
  • arfer da yn eich diwydiant.

Peidiwch ag anghofio gweithgareddau fel glanhau a gwaith cynnal a chadw - gall amlygiad mawr ddigwydd yn aml mewn gwaith digynnyrch.

Os oes gennych weithwyr sy'n gweithio i ffwrdd o'ch safle chi eich hun, mae'n rhaid i chi ofyn cwestiynau tebyg hefyd am y risgiau mewn gweithleoedd eraill (gweler canllaw HSE COSHH and peripatetic workers y soniwyd amdano ar dudalen 7).

Dewch i gasgliadau am y risgiau gwirioneddol i iechyd pobl o'r wybodaeth a gasglwyd gennych a'ch gwybodaeth am botensial y sylwedd i achosi niwed.


Pa gamau pellach dylech chi eu cymryd?

Os penderfynwch nad oes unrhyw risg i iechyd neu bod unrhyw risg yn fach, yna mae'r asesiad yn gyflawn ac nid oes angen cymryd camau pellach (nes eich bod yn adolygu'r asesiad). Fodd bynnag, os penderfynwch fod risgiau i iechyd, yna mae'n rhaid i chi ystyried beth arall y mae'n rhaid i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliadau.


ATAL AMLYGIAD

Os yw'n rhesymol ymarferol, mae'n rhaid i chi atal amlygiad drwy:

  • newid y broses neu'r gweithgaredd fel nad oes angen neu fel na chynhyrchir y sylwedd peryglus; neu
  • ei ddisodli gyda dewis arall mwy diogel; •neu
  • ei ddefnyddio mewn ffurf fwy diogel, e.e. peli yn lle powdr.

RHEOLI AMLYGIAD

Os nad yw atal yn rhesymol ymarferol, dylech reoli amlygiad yn ddigonol drwy un neu fwy o'r mesurau canlynol:

  • amgáu'r broses i mewn yn gyfan gwbl;
  • amgáu yn rhannol a chael offer echdynnu ('awyriad gwacáu penodol')
  • awyriad cyffredinol;
  • defnyddio systemau gwaith a gweithdrefnau trin sy'n lleihau'r posibilrwydd y bydd sylwedd yn cael ei dywallt neu ei ollwng a lleihau'r posibilrwydd y bydd deunyddiau peryglus eraill yn dianc;
  • lleihau nifer y gweithwyr a amlygir, neu hyd eu hamlygiad, ond dim ond ar ôl ystyried, ac o bosibl, rhoi'r mesurau uchod ar waith.

Ar gyfer carsinogen (sylwedd a all achosi canser) mae gofynion arbennig yn gymwys - gweler rheoliad 7(3) COSHH a'r Carsinogenau ACoP.

Dim ond pan fetho popeth arall ac os na allwch reoli amlygiad yn ddigonol drwy gyfrwng y mesurau uchod, y dylech ddarparu offer diogelu personol (e.e. resbiradwyr, dillad amddiffynnol) er mwyn sicrhau rheolaeth. Nid yw hyn yn eich atal rhag darparu eitemau fel mesur 'gwregys a bresys', os dymunwch.

Ar gyfer nifer o sylweddau bydd cyngor ar reoli yn y daflen diogelwch data. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio'r sylwedd at y diben arfaethedig ac y gallech ei reoli fel yr argymhellir. Os gwnewch hyn, caiff hyn ei ystyried fel arfer yn rheolaeth ddigonol.

•Mae llyfryn canllaw HSE 7 cam i amnewid sylweddau peryglus yn llwyddiannus yn rhoi cyngor ar sut i ddisodli sylweddau peryglus gyda dewisiadau eraill mwy diogel.

Fel arfer ystyrir bod rheolaeth yn ddigonol os na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn dioddef unrhyw effeithiau iechyd niweidiol petaent yn cael eu hamlygu i'r sylwedd ar y lefel honno ddydd ar ôl dydd. Ar gyfer rhai sylweddau pan achosir y risg i iechyd yn bennaf drwy ei anadlu i mewn, mae terfynau amlygiad galwedigaethol wedi cael eu pennu. Mae cyhoeddiad HSE EH40 yn esbonio beth yw'r rhain ac yn cynnwys rhestri llawn o'r sylweddau.


SICRHAU BOD MESURAU RHEOLI YN CAEL EU DEFNYDDIO A'U CYNNAL

Yn ôl y Rheoliadau, mae'n ofynnol i weithwyr ddefnyddio'r mesurau rheoli yn gywir a chofnodi unrhyw ddiffygion ynddynt. Mae'n rhaid i chi y cyflogwr gymryd yr holl gamau sy'n rhesymol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Dyma pam y mae'n rhaid i chi gyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi eich gweithwyr a sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol ar gael (gweler tudalen 13 am esboniad manylach). Mae'n rhaid i chi sicrhau hefyd o dro i dro bod yr hyn y bwriedwch i ddigwydd yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd.

Mae COSHH yn gosod dyletswyddau penodol ar gyflogwyr i sicrhau bod offer rheoli yn gweithio'n effeithiol drwy'r amser ac yn cael eu hatgyweirio'n dda. Mae'n rhaid archwilio offer rheoli peirianyddol ac offer anadlu amddiffynnol a, lle bo hynny'n briodol, eu profi yn rheolaidd. Yna mae cyfnodau penodol rhwng archwiliadau a bennir ar gyfer offer awyru gwacáu penodol. • Mae'n rhaid i chi gadw cofnodion o archwiliadau a phrofion a gyflawnir gennych a'u cadw (neu gadw crynodeb ohonynt) am bum mlynedd o leiaf.


MONITRO AMLYGIAD

Yn ôl COSHH dylai crynodiad o sylweddau peryglus yn yr aer y gallai gweithwyr gael eu hamlygu iddo, gael ei fesur (monitro) mewn rhai achosion e.e.:

  • lle y gall fod risg difrifol i iechyd petai mesurau rheoli yn methu neu'n dirywio;
  • os na allwch fod yn siwr nad eir y tu hwnt i'r terfynau amlygu;
  • pan na allwch fod yn siwr bod mesurau rheoli arbennig yn gweithio'n gywir.

• Cadw, archwilio a phrofi awyriad gwacáu penodol HS(G)54(W).


Dylech gadw cofnod o unrhyw waith monitro amlygiad a gyflawnir gennych.•


AROLYGIAETH IECHYD

Mae arolygiaeth iechyd yn ofynnol o dan COSHH o dan yr amgylchiadau hyn:

  • pan amlygir gweithwyr i sylwedd a gysylltir ag afiechyd penodol neu effaith niweidiol ar iechyd a phan fydd tebygrwydd rhesymol o dan yr amodau gwaith y bydd yr afiechyd hwnnw neu'r effaith honno yn digwydd a phan fydd yn bosibl eu canfod;
  • pan fydd gweithiwr yn gweithio yn un o'r prosesau a restrir yn Atodlen 5 o COSHH, e.e. gweithgynhyrchu cyfansoddion penodol o bensen, ac mae'n debygol o gael ei amlygu'n sylweddol i'r sylwedd a restrir yn yr Atodlen.

Gallai hyn olygu archwiliadau gan feddyg neu nyrs wedi'i hyfforddi. Ond mewn rhai achosion gallai goruchwylwyr wedi'u hyfforddi, er enghraifft, archwilio croen gweithwyr ar gyfer dermatitis, neu ofyn cwestiynau am anawsterau anadlu pan fydd y gwaith yn cynnwys sylweddau y gwyddys eu bod yn achosi asthma (mae holiadur priodol yn Preventing asthma at work). Mae'n rhaid i chi gadw cofnod syml ('cofnod iechyd') o unrhyw arolygiaeth iechyd a gyflawnir. Yn ôl COSHH mae'n rhaid i gofnodion iechyd gael eu cadw am 40 mlynedd.••


COFNODI AC ADOLYGU'R ASESIAD

Dylai'r asesiad gael ei ystyried fel dull rheoli. Oni bai ei fod mor syml fel y gallech alw i gof ac esbonio eich casgliadau ar unrhyw adeg yn hawdd, fe'ch cynghorir i'w cofnodi naill ai'n ysgrifenedig neu ar gyfrifiadur. Nid yw hyn o anghenraid yn golygu cadw pob darn o wybodaeth, fel taflenni data diogelwch. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio eich synnwyr cyffredin - dylech gynnwys digon o wybodaeth i ddangos sut y daethpwyd i benderfyniadau am y risgiau a'r camau diogelu i'w cymryd i'w hatal a dylech esbonio wrth eich gweithwyr ac eraill yn eglur pa rannau sydd ganddynt i'w chwarae yn y camau hyn.

Wrth i'ch gwaith fynd rhagddo dylech roi 'adborth' o brofiad ymarferol i'r asesiad. Defnyddiwch yr asesiad fel 'dogfen fyw', y bydd yn rhaid i chi ailymweld â hi efallai os bydd sefyllfaoedd yn newid ac a all arwain at arolwg o'r asesiad a'r camau i'w cymryd - ond nid bob dydd!


• Ceir mwy o fanylion yn nodyn canllaw HSE Monitoring strategies for toxic substances.


•• Ceir manylion llawn yn nodyn canllaw HSE Health surveillance under COSHH.

Fe'ch cynghorir i'w adolygu:

  • ddim llai na phob pum mlynedd;
  • pryd bynnag y bydd rheswm i gredu nad yw asesiad yn ddilys bellach;
  • pan fydd newid sylweddol wedi bod yn y gwaith.

Dylech ddweud yn yr asesiad pryd rydych yn bwriadu ei adolygu nesaf.

Cofiwch, mae cofnodion er eich lles chi ac maent yn rhan o'r system i ddiogelu iechyd. Peidiwch â gwneud gwaith papur oni bai bod ei angen ac y bydd yn eich helpu i reoli iechyd eich gweithwyr.


GWYBODAETH, CYFARWYDDYD A HYFFORDDIANT I WEITHWYR

Mae'n ofynnol yn ôl COSHH i hysbysu, cyfarwyddo a hyfforddi eich gweithwyr am:

  • natur y sylweddau y maent yn gweithio gyda hwy a'r risgiau a greir o gael eu hamlygu i'r sylweddau hynny;
  • y camau y dylid eu cymryd.

Dylech roi digon o wybodaeth a chyfarwyddiadau iddynt am:

  • mesurau rheoli, eu pwrpas a sut i'w defnyddio;
  • sut i ddefnyddio offer a dillad amddiffynnol personol a ddarperir;
  • canlyniadau unrhyw waith monitro amlygiad ac arolygiaeth iechyd (heb roi enwau pobl);
  • gweithdrefnau argyfwng.

Mae'r rhain yn ddyletswyddau pwysig iawn a esgeulusir weithiau. Nid oes gwerth asesu'r risgiau eich hun heb wneud yn siwr bod eich gweithwyr yn eu deall hefyd. Hefyd, ni all mesurau rheoli fod yn effeithiol os nad yw gweithwyr yn gwybod sut i'w defnyddio'n gywir.


CYNGOR A GWYBODAETH BELLACH

Cofiwch, os oes unrhyw ansicrwydd, gallwch gysylltu â'ch swyddfa HSE leol, y mae ei chyfeiriad yn y llyfr ffôn. Gall y staff yno eich cyfeirio at yr arolygydd priodol neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol.


Cyhoeddiadau COSHH


Codau Ymarfer Cydnabyddedig

General COSHH ACoP (yn cynnwys Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd 1994) and Carcinogens ACoP and Biological Agents ACoP

L5 HSE Books 1995 ISBN 0 7176 08190

Categorisation of biological agents - Rhestr gydnabyddedig HSE Books 1995 ISBN 0 7176 10381

A step-by-step guide to COSHH assessments HS(G)97 HSE Books 1993 ISBN 0 11 886379 7

Monitoring strategies for toxic substances EH42 HSE Books 1989 ISBN 0 11 885412 7

Health surveillance under COSHH - guidance for employers HSE Books 1990 ISBN 0 7176 0491 8

COSHH and peripatetic workers HS(G)77 HSE Books 1992 ISBN 0 11 885733 7

COSHH: An open learning course HSE Books 1989 ISBN 0 7176 0850 6


Cyhoeddiadau sylweddau peryglus

Occupational exposure limits EH40/96 HSE Books 1997 ISBN 0 7176 1315 1 (yn cael ei ddiwygio'n flynyddol)

The Approved Supply List and database - CHIP 2 HSE Books 1995 ISBN 0 7176 0858 1

7 cam i amnewid sylweddau peryglus yn llwyddiannus HS(G)110(W) HSE Books 1994 ISBN 0 7176 0695 3

The maintenance, examination and testing of local exhaust ventilation HS(G)54 HSE Books 1990 ISBN 0 11 885438 0

Respiratory protective equipment: A practical guide for users HS(G)53 HSE Books 1990 ISBN 0 11 885522 0


Cyhoeddiadau ar risgiau penodol

Dim ond lle ar gyfer detholiad bach sydd - cysylltwch â HSE am fanylion am unrhyw ganllaw arall a gynhyrchir ar gyfer eich diwydiant.

Control of substances hazardous to health in the production of pottery Cod Ymarfer Cymeradwy L60 HSE Books 1995 ISBN 0 7176 0849 2

Pesticides: Code of Practice for the safe use of pesticides on farms and holdings Cod HSC/MAFF ar y Cyd HMSO 1990 ISBN 0 11 242892 4

The safe use of pesticides for non-agricultural purposes Cod Ymarfer Cymeradwy L9 HSE Books 1996 ISBN 0 7176 0542 6

The prevention or control of legionellosis (including legionnaire's disease) Cod Ymarfer Cymeradwy L8 HSE Books 1995 ISBN 0 7176 0732 1

Assessment of exposure to fume from welding, brazing and allied processes EH54 HSE Books 1990 ISBN 0 11 885429 1

The carcinogenicity of mineral oils EH58 HSE Books 1990 ISBN 0 11 885581 6

Health and safety in motor vehicle repair HS(G)67 HSE Books 1991 ISBN 0 11 885671 5

Health and safety in engineering workshops HS(G)129 HSE Books ISBN 0 7176 0880 8

Preventing asthma at work: How to control respiratory sensitisers L55 HSE Books 1994 ISBN 0 7176 0661 9

Agricultural pesticides AS27 (taflen am ddim) HSE Books 1995

Solvents and you IND(G)93(L) (taflen am ddim) HSE Books 1993


Cyhoeddiadau iechyd a diogelwch cyffredinol

Hanfodion iechyd a diogelwch yn y gwaith HSE Books 1994 ISBN 0 7176 0838 7

Mae cyhoeddiadau Cymraeg am ddim ar gael o:

Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas, Llanishen, Caerdydd CF14 5SH. Ffôn: 01222 263000

Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth a'r rhai sydd am ddim ar gael drwy'r post o:

HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS
Ffôn: 01787 881165; Ffacs: 01787 313995.

Mae cyhoeddiadau HSE ar werth mewn siopau llyfrau da.

Ar gyfer ymholiadau eraill ffoniwch Linell Gwybodaeth HSE, ffôn: 0845 345 0055 , neu ysgrifennwch at HSE Information Centre, Broad Lane, Sheffield S3 7HQ.

Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arferion da nad ydynt yn orfodol ond a all fod o gymorth wrth ystyried beth sydd angen i chi ei wneud.

Gellir atgynhyrchu'r cyhoeddiad hwn ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu fasnachu. Mae'r wybodaeth yn gyfredol ar 5/96. Dylid cydnabod y ffynhonnell fel HSE.

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

IND(G)136L (diwygiedig)(W) 4/97 C20



Quick links

Ask an expert 0845 345 0055

Health and Safety Executive
Caerphilly Business Park
Caerphilly CF83 3GG

Directgov - Business Link

Updated 19.03.09