Health and Safety Executive

Gynnau

Mae'r daflen hon yn rhoi cyngor sylfaenol ymarferol ar ddefnyddio reifflau a gynnau yn ddiogel. Nid yw'n cymryd lle cyfarwyddiadau a hyfforddiant addas neu ddehongliad uniongyrchol o'r gyfraith. Fodd bynnag, bydd dilyn y cyngor hwn yn helpu i sicrhau y byddwch yn defnyddio'ch gwn yn ddiogel ac yn cwrdd â'ch dyletswyddau cyfreithiol.

Yr hyn a ddywed y gyfraith

Mae gan gyflogwyr a phobl sy'n 'ymgymryd' â defnyddio gynnau ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf lechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 i gymryd pob cam rhesymol ymarferol fel nad achosir risg i unrhyw un. Yn yr ystyr hwn, nid oes yn rhaid i 'ymgymeriad' o anghenraid, gynnwys cyflogaeth neu elw masnachol. Gall y ddyletswydd ymestyn i amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys staff fferm, ciperiaid, curwyr, codwyr, gyrwyr, gwesteion, gwirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd. Hefyd mae gan weithwyr gyfrifoldebau dros eu hiechyd a'u diogelwch hwy eu hunain a thros bobl eraill a allai fod mewn perygl o ganlyniad i'w gwaith.

Ceir gofynion cyfreithiol eraill sy'n berthnasol i brynu a gwerthu gynnau, trwyddedu, tystysgrifau drylliau, cyfyngiadau oedran a storio gynnau a bwledi. Dylech gael cyngor ar y materion hyn gan eich heddlu lleol neu gan un o'r sefydliadau a restrir ar gefn y daflen hon.


Hyfforddiant a goruchwyliaeth

Mae gwn yn arf peryglus iawn a dylai unrhyw un sy'n trin arf o'r fath fod wedi derbyn hyfforddiant ar ei ddefnyddio'n ddiogel. Hefyd mae hyfforddiant ar ddefnyddio gynnau'n ddiogel yn ofyniad cyfreithiol i bawb sy'n defnyddio offer gwaith. Mae hynny'n cynnwys gynnau pan y'u defnyddir fel rhan o weithgaredd gwaith. Mae cyrsiau hyfforddi addas ar gael ac fe restrir cysylltiadau defnyddiol ar gefn y daflen hon. Fel arfer mae goruchwyliaeth agos o ddefnyddwyr gynnau amhrofiadol yn $$Word$$. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol i weithwyr.


Cyn i chi ddefnyddio gwn

  • Bob tro y byddwch yn codi gwn, sicrhewch nad oes bwledi ynddo.
  • Gwnewch yn siwr bob tro nad oes yna unrhyw rwystr yn y bareli, ee eira neu laid.
  • Archwiliwch y bareli yn rheolaidd am rwd, tyllau a tholciau.
  • Sicrhewch fod y gwn yn gweithio'n iawn ac wedi'i wasanaethu yn rheolaidd gan berson cymwys, ee gofaint gynnau dibynadwy.
  • Os yw'r gwn yn newydd i chi, dylech ymgyfarwyddo â'i holl nodweddion - yn enwedig y bachyn diogelwch. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa mor sensitif yw'r glicied. Defnyddiwch gapiau clec ar gyfer hyn er mwyn osgoi niweidio'r mecanwaith.

Yn anad dim arall cofiwch:Mae gynnau wedi'u cynllunio i ladd a byddant fel arfer yn gwneud hynny - FELLY PEIDIWCH Â PHWYNTIO UN AT BERSON ARALL


Pasio gwn i gydymaith

Y drefn arferol yw dadlwytho'r gwn yn llwyr cyn ei drosglwyddo i berson arall. Fel cam diogelu ychwanegol dylid hefyd agor gynnau ac agor y bollt ar reifflau. Sicrhewch bob amser bod y gwn wedi'i ddadlwytho cyn iddo gael ei basio o un person i'r llall.

Ceir amgylchiadau lle gallai fod yn dderbyniol i drosglwyddo gwn wedi'i lwytho, ee cyn diwedd helfa ceirw neu pan fydd saethwr yn gweithio gyda llwythwr ar system gwn dwbl. Dim ond pan fydd y ddau barti wedi ymarfer y drefn hon yn llawn gyda gynnau heb eu llwytho y dylid gwneud hyn. Dylech sicrhau bod y bachyn diogelwch ymlaen bob tro cyn trosglwyddo'r gwn. Dylech fod yn ofalus iawn i beidio â gollowng neu gnocio'r gynnau yn erbyn ei gilydd.


Defnyddio gwn

Pryd i lwytho a dadlwytho

  • Dylech bob amser dynnu bwledi o fôn y gwn cyn ei roi i lawr.
  • Dim ond pan fyddwch yn disgwyl saethu fwy neu lai ar unwaith y dylech lwytho gwn. Dylech ddadlwytho ar unwaith os aiff y cyfle i saethu heibio.
  • Cadwch y storgell a bôn y reiffl yn wag ac eithrio pan yn hela.
  • Dylech bob amser ddadlwytho gynnau yn llwyr cyn mynd i mewn i adeilad neu eu rhoi mewn cerbyd. (Gall defnyddio gwn y tu mewn i adeilad fod yn beryglus iawn a dim ond ar ôl cymryd cyngor arbenigol y dylid gwneud hyn.)

Cario gynnau

  • Os nad ydych yn debygol o danio gwn, dylech ei gario heb ei lwytho a'r blaen yn wynebu tuag i lawr yn ei orchudd neu gasyn diogelwch. Bydd hyn yn gymorth i atal difrod neu rwystr yn y baril.
  • Pan yn gorffwys, neu'n cerdded i'r man nesaf yr ydych yn debygol o saethu, cariwch eich gwn wedi'i ddadlwytho ac ar agor ar eich braich. Mewn rhai amgylchiadau gallech ei gario ar eich ysgwydd, ond bydd yn rhaid i chi gadw gard y glicied ar ei uchaf fel bod blaen y gwn yn wynebu tuag i fyny. Sicrhewch eu bod bob amser yn wynebu i gyfeiriad diogel.

    cario gwn nas defnyddir - gyda'r bôn yn wag

    cario gwn nas defnyddir - gyda'r bôn yn wag

  • Pan yn agosáu at anifeiliaid hela gyda gwn wedi'i lwytho, cadwch y bachyn diogelwch ymlaen a blaen y gwn yn wynebu i gyfeiriad diogel.

    Cario gwn y'i defnyddir, â'ch bys oddi ar y glicied - â'r bachyn diogelwch yn ei le.

  • Pan yn hela gyda reiffl wedi'i lwytho cadwch y bachyn diogelwch ymlaen a'r reiffl wedi'i rhoi'n ddiogel dros un ysgwydd gyda blaen y gwn o dan reolaeth bob amser.
  • Sicrhewch yn rheolaidd nad yw'r bachyn diogelwch wedi'i wthio i ffwrdd yn ddamweiniol.
  • Byddwch yn ofalus i beidio â gollwng neu ysgwyd gwn wedi'i lwytho. Gall hyn beri iddo danio hyd yn oed pan fydd y bachyn diogelwch ymlaen.
  • Peidiwch byth â chario reiffl gyda rownd yn y bôn, y bollt ar gau a'r gweithrediad wedi'i ddatgocio - gallai danio'n annisgwyl.

    Hela â reiffl wedi'i llwytho - gyda'r bachyn diogelwch yn ei le

Rhwystrau a thirwedd anodd

  • Dylech dynnu unrhyw fwledi o fôn eich gwn bob amser cyn croesi unrhyw rwystr neu dirwedd anodd a chyn symud trwy lystyfiant trwchus.
  • Wrth groesi rhwystr gyda chydymaith, dylech ddadlwytho'r ddau wn bob amser. Dylai'ch cydymaith ddal y ddau wn nes i chi gyrraedd yr ochr arall, yna eu trosglwyddo i chi yn wag ac ar agor, y carn yn gyntaf os yn bosibl, un ar ôl y llall.
Croesi rhwystrau - gwag ac ar agor

Bwledi

  • Dylech sicrhau bod y bwledi cywir gennych, eu bod heb eu niweidio ac yn llwytho'n hawdd. Defnyddiwch alldynnwr cywir i dynnu cetrys sydd wedi cloi.
  • Peidiwch byth â chymysgu cetrys gynnau gyda meintiau calibr gwahanol - yn enwedig calibr 12 a 20. Gallai cetrys o'r maint anghywir gael ei lwytho drwy ddamwain a mynd ynghlwm yn y baril y tu hwnt i'r siambr. Petai cetrys arall yn cael ei lwytho a'i danio wedyn, gallai'r gwn ffrwydro.
  • Sicrhewch fod bwledi y reiffl yn cyfateb â'r calibr a nodir ar faril y reiffl.

Storio

Storiwch eich gwn a'r bwledi mewn mannau gwahanol. Tynnwch follt y reiffl a'i storio ar wahân.


Saethu

  • Mae angen barn ac ymateb da arnoch - golyga hyn y dylech fod yn ddigynnwrf ac ni ddylai'ch synhwyrau gael eu pylu gan flinder, alcohol neu gyffuriau.
  • Er mwyn saethu yn gywir ac yn ddiogel bydd angen i chi fod mewn safle lle y gallwch sefyll yn gadarn. Sicrhewch fod gennych olwg glir ddirwystr o'r targed.
  • Wrth anelu reiffl dylech sicrhau bob amser nad oes unrhyw beth yn llinell anelu blaen y gwn na allwch ei weld drwy'r aneliad.
  • Dylech ddatblygu ymwybyddiaeth o ble yn union y mae blaen y gwn yn anelu. Byddwch yn effro i safleoedd pobl eraill yn yr ardal - nid yn unig gynnau a chynorthwywyr eraill, ond hefyd aelodau'r cyhoedd. Byddwch yn ofalus iawn ger llwybrau tramwy a ffyrdd cyhoeddus.
  • Cadwch eich bys oddi ar y glicied hyd nes eich bod yn siwr beth yr ydych yn saethu ato a dylech ond rhyddhau'r bachyn diogelwch yn union cyn saethu.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn saethu i gefndir diogel. Golyga hyn awyr glir os ydych yn saethu at adar sy'n hedfan neu ôl-stop solet os ydych yn saethu at ysglyfaeth ar y ddaear. Bydd angen i'r ôl-stop fod yn bridd neu rywbeth tebyg na fydd yn achosi ergydion adlam. Gall hynny olygu trefnu eich safle fel eich bod yn saethu tuag i lawr. Peidiwch byth â thanio reiffl i goetir, llystyfiant ysgafn neu ar draws dwr.
  • Byddwch yn ofalus iawn pan yn saethu yn y nos. Byddwch yn hollol siwr eich bod yn saethu at gefndir diogel ac at y targed cywir.
  • Cofiwch y gall peledi gwn deithio 300 metr a bwled o reiffl carw, 4 km.
  • Gall bwledi reiffl a pheledi gwn adlamu oddi ar ddwr, perthi, gwifren ffens neu rwystrau eraill ar eu ffordd i'r targed. Hwyrach na all aneliad telesgopig ddangos y rhain bob amser, felly dylech sicrhau gyda'ch llygad nad oes rhwystr yn y llinell anelu.
  • Os bydd eich gwn yn camdanio byddwch yn ofalus iawn. Cadwch flaen y gwn i wynebu i gyfeiriad diogel hyd nes y bydd y gwn wedi'i wneud yn ddiogel. Agorwch y gwn i ffwrdd o'ch wyneb a dim ond pan fyddwch wedi'ch bodloni bod digon o amser wedi mynd heibio i fod yn siwr na fydd unrhyw danio pellach.

BYDDWCH YN SAETHWR DIOGEL. BYDD POBL YN EICH PARCHU AC NI FYDD FYTH GENNYCH ACHOS I DDIFARU.


Digwyddiadau wedi'u trefnu

  • Waeth pa mor fawr neu fach yw'r digwyddiad, dylai un person fod â rheolaeth gyffredinol. Gwnewch yn siwr y gwyddoch pwy yw'r person hwnnw a beth yw'r arwyddion y cytunir arnynt ymlaen llaw. Mae'n bwysig adnabod yr arwydd i roi'r gorau i saethu.
  • Pan fydd cynorthwywyr yn cymryd rhan yn taro a gweithgareddau cynorthwyol eraill dylech gadw'ch saethiadau yn uchel fel na berir risg i unrhyw un.
  • Os byddwch yn mynd i saethu y tu ôl i chi - trowch gyda blaen y gwn yn anelu at yr awyr, fel na fydd unrhyw un sydd wrth eich ymyl mewn perygl.
  • Dylai'r person sy'n rheoli'r digwyddiad roi cyfarwyddiadau a gwybodaeth eglur ar beryglon posibl. Dylent hefyd sicrhau y bydd cynorthwywyr sy'n gorfod bod mewn mannau diamddiffyn, yn gwisgo dillad gweladwy iawn neu yn cario marcwyr gweladwy clir fel bod saethwyr yn ymwybodol o'u presenoldeb.
  • Dylid trefnu digwyddiadau fel na ddaw unrhyw un o fewn bwa tanio disgwyliedig gwn wedi'i lwytho. Yr unig eithriad i hyn yw os bydd y person sy'n rheoli wedi sefydlu y tu hwnt i bob amheuaeth nad ydynt o fewn cyrraedd.

Cerbydau

  • Dylech bob amser gario gynnau wedi'u dadlwytho mewn cerbydau - yn eu gorchuddion neu gasynnau diogelwch os yn bosibl. Defnyddiwch wain, cludydd neu glamp gwn sefydlog ar dractor, cerbydau ATV a cherbydau tebyg.
  • Dim ond os bydd yn llonydd a bod blaen y gwn y tu allan i'r cerbyd cyn gosod bwledi yn y bôn y mae'n ddiogel i saethu o gerbyd.
  • Gall saethu dros gerbyd â phobl ynddo fod yn beryglus. Ni ddylech wneud hyn oni bai bod gennych system ddiogel o waith gyda phawb dan sylw. Dylech sirchau bod hyn yn dileu unrhyw bosibilrwydd o bobl yn mynd ar draws y llinell anelu.

Offer amddiffyn y clyw

Bydd gynnau yn cynhyrchu pylsau o swn a all achosi niwed yn syth i'ch clyw. Gall defnydd anaml hyd yn oed arwain at anallu parhaol i ddeall pobl yn sgwrsio. Gall rhai pobl ddioddef yn waeth nag eraill o fyddaredd a achosir gan swn - felly dylech bob amser wisgo offer addas i amddiffyn y clyw. Dylech gymryd cyngor gan arbenigwr cyn dewis eich offer amddiffyn y clyw. Os yw'n bwysig eich bod yn gallu siarad â chyd-saethwyr, mae myffiau electronig afliniol ar gael sydd yn caniatáu hyn.

Defnyddiwch offer amddiffyn clyw addas


Saethu colomennod clai

Mae'n hanfodol y trefnir digwyddiadau saethu colomennod clai fel y caiff diogelwch y rheini sy'n cymryd rhan, y gwylwyr a gweithredwyr y trapiau ei ystyried. Mae arweiniad manwl ar gael o'r Gymdeithas Saethu Colomennod Clai. Dylai'r saethwyr a gweithredwyr y trapiau wisgo offer addas i amddiffyn clyw oherwydd natur estynedig ac ailadroddus y saethu. Argymhellir offer amddiffyn y llygaid hefyd ond os bydd hyn yn effeithio ar sêl offer amddiffyn y clyw, bydd yn rhaid i chi ganiatáu ar gyfer hyn.


Cyngor pellach

Os bydd angen cyngor pellach arnoch ar unrhyw fater iechyd a diogelwch, gall arolygydd amaethyddol lleol yr Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch roi help i chi. Bydd y swyddfa agosaf yn y llyfr ffôn.


Gwybodaeth bellach

Gall y sefydliadau canlynol ddarparu cyngor ar ddefnyddio gynnau yn ddiogel a sut i gael cyfarwyddyd a hyfforddiant addas:

British Association for Shooting and Conservation, Marford Mill, Yr Orsedd, Wrecsam, Clwyd LL12 OHL

British Deer Society, Beale Centre, Lower Basildon, Reading, Berkshire RG8 9NH

Clay Pigeon Shooting Association, 107 Epping New Road, Buckhurst Hill, Essex 1G9 5TQ

British Field Sports Society, 59 Kennington Road, London SE1 7PZ

Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arfer da nad ydynt yn orfodol ond a allai fod o gymorth i chi wrth benderfynu beth sydd angen i chi ei wneud.

Gellir atgynhyrchu'r cyhoeddiad hwn am ddim, ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu fasnachol. Mae'r wybodaeth sydd ynddo yn gyfredol ar 3/96. Cydnabydder y ffynhonnell fel HSE.

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan HSE
AS 7 (W)


Quick links

Ask an expert 0845 345 0055

Health and Safety Executive
Caerphilly Business Park
Caerphilly CF83 3GG

Directgov - Business Link

Updated 29.05.09