Office for Nuclear Regulation
An agency of HSE

Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear Em

Magnox North Limited Atomfa Wylfa

Grŵp Rhanddeiliaid Safle

Adroddiad Chwarterol Ar Gyfer 1 Hydref I 31 Rhagfyr 2010


Rhagair

Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth am weithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd.  Bwriedir iddo gael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Wylfa ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn safle Wylfa. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent hefyd ar gael ar wefan HSE yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm .  Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM fel arfer yn mynd i gyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau a godir yn y cyfarfodydd neu ar ôl hynny gan aelodau o'r SSG. 


Arolygiadau

Gwnaeth yr Arolygydd Safle yr ymweliadau canlynol â'r Wylfa yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn:

  • 7-8, 25-27 Hydref 2010
  • 10-11, 16-19 Hydref 2010
  • 6-9, 16-17 Rhagfyr 2010

Materion arferol

Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:

  1. yr amodau a atodir i'r drwydded safle niwclear gan HSE/NII;
  2. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati (HSWA) 1974
  3. rheoliadau a wnaed o dan HSWA, er enghraifft Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 1999 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch.  Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn, cwmpasodd arolygiadau arferol safle Wylfa:

  • Archwilio, Cynnal a Chadw, Arolygu a Phrofi.
  • Hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad staff.
  • Addasiadau i'r peirianwaith, y cyfarpar a'r achosion diogelwch.
  • Parodrwydd mewn argyfwng.
  • Datgomisiynu.
  • Newidiadau Sefydliadol.

Yn gyffredinol, tybiwyd bod y trefniadau a wnaed ac a weithredwyd gan safle Wylfa mewn ymateb i ofynion diogelwch yn ddigonol yn y meysydd a arolygwyd. Fodd bynnag, lle yr ystyriwyd bod gwelliannau yn angenrheidiol, gwnaed ymrwymiadau boddhaol gan y trwyddedai i fynd i'r afael â'r problemau, neu gofynnir iddo wneud hynny, a bydd yr arolygydd safle yn monitro cynnydd yn ystod ymweliadau yn y dyfodol. Lle y bo angen, cymerir camau gorfodi rheoliadol ffurfiol i sicrhau y caiff mesurau adferol priodol eu cymryd o fewn terfynau amser sy'n rhesymol ymarferol.

Ar 10 Tachwedd 2010, bu tîm o'r NII yn dyst i Ymarfer Argyfwng Lefel 1 Ampere 10. Roedd hwn yn ymarfer y tu allan i oriau a gynlluniwyd i brofi gallu'r safle i reoli argyfwng heb lawer o staff ar y safle hyd nes y gellid galw rhagor o staff i'r safle. Canfu tîm yr NII fod yr ymarfer yn dangos bod trefniadau'r safle yn ddigonol.

Pan gyhoeddodd Wylfa ei Adolygiad Diogelwch Cyfnodol (PSR) yn 2004, cymerodd yn ganiataol y byddai gwaith cynhyrchu yn dod i ben ar ddiwedd mis Rhagfyr 2010. Darparodd Wylfa dystiolaeth yn nodi y byddai'r PSR yn berthnasol hyd at fis Medi 2014, sydd 10 mlynedd o ddyddiad gwreiddiol y PSR. O ganlyniad, cadarnhaodd yr NII nad oedd yn gwrthwynebu gweithredu'r safle y tu hwnt i ddiwedd mis Rhagfyr 2010, ond rhybuddiwyd y byddai gweithredu'r safle y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn dibynnu ar achos diogelwch digonol ar gyfer yr adweithydd a'r ffordd y caiff ei weithredu; wedi'i ategu gan raglenni cynnal a chadw, arolygu a phrofi parhaus a chanlyniadau boddhaol o arolygiadau.

Mynychodd yr arolygydd safle gyfarfod â'r cynrychiolwyr diogelwch ar y safle i drafod materion o ddiddordeb i'r ddwy ochr.


Materion anarferol

Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr yr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol. Mae materion o bryder penodol a ystyriwyd yn ystod cyfnod yr adroddiad yn cynnwys y canlynol.

Ar 30 Medi, cafwyd nam ar gysylltwr trydanol yn y neuadd dyrbin, a gordwymodd. Canodd y larwm tân o ganlyniad i'r mwg. Ymatebodd y safle drwy ddilyn ei drefniadau brys ar gyfer tanau. Archwiliwyd y digwyddiad gan yr arolygydd safle a chanfu fod ymateb y safle wedi bod yn briodol.
Cyflwynodd yr NII drwyddedau newydd i'r safleoedd a weithredir gan Magnox South Cyf i'w galluogi i gael eu hintegreiddio â Magnox North Cyf, a bu'n rhaid newid trefniadaeth gorfforaethol Magnox North Cyf yn sgîl hyn. O dan drwydded y safle, mae'n rhaid i'r trwyddedai gyflwyno achos diogelwch i ddangos nad yw'r drefn newydd yn amharu ar ddiogelwch y safleoedd. Cafodd hyn ei asesu gan yr NII a chytunwyd y gellid rhoi'r newid trefniadol ar waith.


Gweithgarwch Rheoleiddio

O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall Arolygwyr Safle'r NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.

Cyflwynwyd un OT i'r trwyddedai yn ystod y chwarter:

  • OT 546 dyddiedig 24 Rhagfyr 2010 - cytunwyd i newid strwythur trefniadol Magnox North Cyf er mwyn galluogi i'r safleoedd a weithredir gan Magnox South Cyf gael eu hymgorffori i mewn i'r cwmni.
  • Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gorfodi yn ystod y cyfnod adrodd.

Trawsnewid Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE

Mae Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE yn parhau i weithio ar raglen newid o'r enw 'Trawsnewid', a'r bwriad yw helpu'r Gyfarwyddiaeth Niwclear i gyflawni ei nod o gael ei chydnabod fel rheoleiddiwr o'r radd flaenaf. Dros y misoedd nesaf, bydd y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn canolbwyntio ar wella'r ffordd y mae'n ymgysylltu â phob un o'i rhanddeiliaid, gan gynnwys cymunedau o amgylch safleoedd niwclear trwyddedig, i esbonio'r gwaith a'r penderfyniadau rheoleiddiol a wna.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn rhoi gwybod i randdeiliaid am newidiadau ac unrhyw benderfyniadau a wneir drwy:

Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynau neu awgrymiadau yn ymwneud â rhaglen Drawsnewid y Gyfarwyddiaeth Niwclear, cysylltwch â ni drwy e-bostio ONRenquiries@hse.gsi.gov.uk.


Directgov - Business Link

Updated 17.08.11