Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch gweithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd. Mae hefyd ar gyfer ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Atomfa Wylfa ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa Wylfa. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent ar gael ar y Rhyngrwyd yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/index.htm. Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM yn mynychu cyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ymateb i gwestiynau a godir ynddynt gan aelodau o’r SSG.
Gwnaeth yr Arolygydd Safle yr ymweliadau canlynol â Wylfa yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn:
Er bod gweinidogion yn dal i ystyried cynigion y llywodraeth flaenorol i sefydlu Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ar wahân, mae'r heriau sy'n gysylltiedig â rhyngweithio â'r diwydiant niwclear modern yn y DU a'i reoleiddio yn parhau o hyd. Mewn ymateb i hyn mae'r Gyfarwyddiaeth Niwclear (y Gyfarwyddiaeth) wedi llunio rhaglen newid sy'n canolbwyntio ar ffyrdd gwell o weithio a dulliau gwell o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'r rhaglen hon hefyd yn adlewyrchu nod y sefydliad i gael ei gydnabod yn rheoleiddiwr o'r radd flaenaf.
Er bod y Gyfarwyddiaeth yn ymrwymedig i ateb yr her o wneud newidiadau sefydliadol a gweithredol mawr, ni fydd yn caniatáu i hyn dynnu ei sylw oddi ar fwrw ymlaen â'i gwaith blaenoriaeth uchel parhaus i sicrhau y caiff pobl a chymdeithas eu diogelu rhag peryglon y diwydiant niwclear.
Mae'r Gyfarwyddiaeth wedi ymrwymo i roi gwybodaeth lawn am y newidiadau ac unrhyw benderfyniadau a wneir am strwythur y Rheoleiddiwr yn y dyfodol i'w rhanddeiliaid drwy gydol y broses drawsnewid hon; cyflawnir hyn drwy adroddiadau megis adroddiadau'r Grŵp Rhanddeiliaid ac ar Wefan HSE.
Arolygiadau ar y Safle: Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:
Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedeion/gweithredwyr wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol (y safle/atomfa):
Yn dilyn digwyddiad annormal yn ystod cyfnod diffodd Adweithydd 2 lle canfuwyd elfen danwydd mewn lleoliad ansafonol yn yr adweithydd (y digwyddiad "TLSE"), rhoddodd arbenigwyr mecanyddol a thrydanol o NII gyngor i'r trwyddedai ar ei drefniadau arfaethedig ar gyfer adfer yr elfen danwydd. Adolygodd NII achos diogelwch y trwyddedai a chytunodd arno, ac fe'i gweithredwyd yn llwyddiannus.
Rhoddodd staff Magnox North adolygiad manwl i NII o'r cynnydd a wnaed hyd yma yn Wylfa i sicrhau bod gan y safle drefniadau digonol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gwaredu tanwydd Rhaglen Weithredu Magnox. Rhoddwyd cyflwyniadau ar nifer o
bynciau gan gynnwys modelu llwybrau tanwydd, gwelliannau i beirianwaith a hyfforddi staff. Canlyniad yr adolygiad hwn oedd hyder rheoleiddiol parhaus yn nhrefniadau lleol Wylfa.
Cynhaliodd arolygwyr arbenigol o NII adolygiad manwl o drefniadau cemeg yn Wylfa a oedd yn cynnwys rheoli amodau gyda'r adweithydd a rheoli gwastraff. Daeth NII i'r casgliad bod y trefniadau lleol o ran hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad staff yn yr adran cemeg yn foddhaol.
Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol.
Dim i'w nodi
O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall arolygwyr NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.
| Dyddiad | Math | Rhif | Disgrifiad |
|---|---|---|---|
| 20 Gorffennaf 2010 | Cymeradwyo | 545 | Cymeradwyo diwygiad i Reol Gweithredu 5.1 o dan Amod Trwyddedu 23(5) |
| 17 Medi 2010 | Cydsynio | 544 | Caniatâd i ailddechrau adweithydd 2 o dan Amod Trwyddedu 30 (3) o'r Drwydded 30 (3 ) |
Noder: Cyfeiriad at Grynodeb Gweithredol yr Adroddiadau Asesu Prosiect sy'n rhoi trosolwg o'r broses gwneud penderfyniadau, y gellir ei ddarllen yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/pars/index.htm.
Redgrave Court
Bootle
Merseyside, L20 7HS
1 Hydref 2010