Office for Nuclear Regulation
An agency of HSE

arolygiaeth gosodiadau niwclear em

magnox north limited - atomfa wylfa

grŵp rhanddeiliaid safle

adroddiad chwarterol ar gyfer 1 Ebrill hyd 30 Mehefin 2010


Rhagair

Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch gweithgareddau arolygu a rheoleiddio sy'n ymwneud â'r safle uchod ar gael i'r cyhoedd. Mae hefyd ar gyfer ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Atomfa Wylfa ac mae'n cwmpasu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa Wylfa. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent ar gael ar y Rhyngrwyd yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm. Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM yn mynychu cyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ymateb i gwestiynau a godir ynddynt gan aelodau o'r SSG.


Arolygiadau

Gwnaeth yr Arolygydd Safle yr ymweliadau canlynol â Wylfa yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn:

  • 13 Ebrill 2010
  • 21 - 22 Ebrill 2010
  • 29 - 30 Ebrill 2010
  • 7 Mai 2010
  • 11 Mai 2010
  • 13 Mai 2010
  • 18-19 Mai 2010
  • 26 -27 Mai 2010
  • 2 - 3 Mehefin 2010
  • 16 - 17 Mehefin 2010
  • 22 - 24 Mehefin 2010

[back to top]

Materion arferol

Arolygiadau ar y Safle: Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:

  1. yr amodau a atodir i'r drwydded safle niwclear gan HSE/NII;
  2. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati (HSWA) 1974
  3. rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, er enghraifft Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 1999 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedeion/gweithredwyr wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol (y safle/atomfa):

Archwilio, Cynnal a Chadw, Arolygu a Phrofi: Cynhaliwyd nifer o arolygiadau gan arolygydd safle NII ac arolygwyr arbenigol NII yn ystod cyfnod diffodd Adweithydd 2 yn 2010. Cwmpasodd yr arolygiadau hyn y trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd, diogelwch radiolegol, cyfanrwydd strwythurol, cyfyngu'r llestr pwysedd, rheoli a goruchwylio, graffit, peryglon mewnol a dulliau rheoli ac arwain er mwyn sicrhau diogelwch. Mae'r trwyddedai wedi ymateb yn gadarnhaol i geisiadau NII am wybodaeth a lle y bo'n briodol, wedi gweithredu ar gyngor ac arsylwadau gan arolygwyr NII. Ni nodwyd unrhyw bryderon rheoliadol o bwys o'r arolygiadau hyn a nodwyd sawl achos o arfer da. O ganlyniad i'r gweithgareddau hyn, mae NII yn hyderus bod y gweithgareddau cynnal a chadw a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod diffodd yn briodol i sicrhau y gellid ailddechrau defnyddio Adweithydd 2. Daeth uwch staff o NII i gyfarfod cychwyn a gynhaliwyd ym mis Mehefin a ategodd eu hyder yn nhrefniadau'r trwyddedai ar gyfer y cyfnod diffodd.

Archwilio, Cynnal a Chadw, Arolygu a Phrofi: Yn ystod cyfnod diffodd Adweithydd 2 yn 2010, cynhaliwyd arolygiadau ar y cyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil. O ganlyniad i'r arolygiadau hyn, ystyriwyd elfennau o berfformiad diogelwch a pherfformiad amgylcheddol ar yr un pryd â diogelwch niwclear. Ni nodwyd unrhyw bryderon rheoliadol penodol.

Rheolau Gweithredu : Cwblhawyd arolygiadau o derfyn y Rheolau Gweithredu ar gyfer amser oeri gollyngiadau'r elfen danwydd ac argaeledd rhodiau rheoli ar gyfer diffodd yr adweithydd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd arolygydd y safle yn fodlon bod y trwyddedai yn cydymffurfio â'r rheolau gweithredu.

Adolygiad cyfnodol o ddiogelwch - Gwaith Cynhyrchu Estynedig : Ar hyn o bryd, disgwylir y bydd yr Wylfa yn dod â chynhyrchu i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr 2010. Mae NII yn parhau i ymgysylltu â'r trwyddedai ar ei gynigion ar gyfer ymestyn gwaith cynhyrchu y tu hwnt i'r dyddiad arfaethedig i ddod â chynhyrchu i ben. Mae cyfarfodydd wedi'u cynnal rhwng NII ac arbenigwyr Magnox North ar gyflwyniadau achos diogelwch.


[back to top]

Materion Anarferol

Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol.

  • Yn unol â threfniadau Amod 7 y Drwydded ar gyfer hysbysu NII am ddigwyddiadau ar y safle, gwnaeth y trwyddedai hysbysu NII o ddigwyddiad ar 22 Ebrill 2010. Defnyddiwyd math o ddysychwr nas cymeradwywyd i sychu aer a gyflenwyd i offer monitro'r tyrbinau. Nid oedd unrhyw oblygiadau uniongyrchol i ddiogelwch yn gysylltiedig â'r digwyddiad ac ymchwiliodd y trwyddedai iddo ar unwaith.

Roedd NII yn fodlon ag ymateb y trwyddedai.

  • Yn unol â threfniadau Amod 7 y Drwydded ar gyfer hysbysu NII am ddigwyddiadau ar y safle, gwnaeth y trwyddedai hysbysu NII o ddigwyddiad ar 6 Mehefin 2010 ar y cast concrid (pile cap) lle y tynnwyd llithren wefru yn ôl gan ddefnyddio peiriant gwasanaethu'r adweithydd o leoliad anghywir ar y safbibell. O ganlyniad i'r digwyddiad hwn, codwyd elfen danwydd i safle a oedd y tu allan i amodau gweithredu arferol y peirianwaith, ond roedd wedi'i chyfyngu o fewn yr adweithydd o hyd. Hysbysodd y trwyddedai NII am y digwyddiad hwn ar unwaith ac ataliwyd yr holl weithgareddau gweithredol a chynnal a chadw yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Nid oedd unrhyw oblygiadau uniongyrchol i ddiogelwch yn gysylltiedig â'r digwyddiad ac ymchwiliodd y trwyddedai iddo ar unwaith. Barnwyd mai 'abnormaledd peirianwaith' oedd y digwyddiad ac na fyddai'n cael ei raddio (h.y. Lefel 0) ar y Raddfa Digwyddiadau Niwclear Rhyngwladol (INES).Trafodwyd cynllun adfer a chytunwyd arno gydag NII.

[back to top]


Materion eraill

Newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddiaeth Niwclear HSE

Ar hyn o bryd, mae'r penderfyniad i wahanu Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE a chreu sefydliad newydd yn cael ei ystyried gan weinidogion. Byddwn yn cyfeirio at unrhyw gynnydd a wneir yn hyn o beth mewn adroddiadau yn y dyfodol yn unol â hynny.

[back to top]


Gweithgaredd rheoleiddio

O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall arolygwyr NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.

Dyddiad Math Rhif Disgrifiad
11 Mawrth 2010 Cytundeb 541 Cytundeb o dan Amod 22 (1) o'r Drwydded ar gynigion i gadw elfennau tanwydd 1 a 2 hyd ddiwedd y cyfnod cynhyrchu.
31 Mawrth 2010 Cymeradwyo 542 Cymeradwyaeth o dan Amod 13 (3) o Drwydded Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Diogelwch Niwclear
31 Mawrth 2010 Cymeradwyo 543 Cymeradwyaeth o dan Amod 13 (11) o'r Drwydded ar drefniadau'r Pwyllgor Diogelwch Niwclear i ystyried cynigion diogelwch brys.

Directgov - Business Link

Updated 17.08.11