Office for Nuclear Regulation
An agency of HSE

arolygiaeth gosodiadau niwclear em

magnox north limited - atomfa wylfa

grŵp rhanddeiliaid safle

adroddiad chwarterol ar gyfer 1 ionawr i 31 mawrth 2010


Rhagair

Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch gweithgareddau arolygu a rheoleiddio sy'n ymwneud â'r safle uchod ar gael i'r cyhoedd. Mae hefyd ar gyfer ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Atomfa Wylfa ac mae'n cwmpasu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa Wylfa. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent ar gael ar y Rhyngrwyd yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm. Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM yn mynychu cyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ymateb i gwestiynau a godir ynddynt gan aelodau o'r SSG.


Arolygiadau

Gwnaeth yr Arolygydd Safle yr ymweliadau canlynol â Wylfa yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn:

  • 4 - 6 Ionawr 2010
  • 20 - 21 Ionawr 2010
  • 28 - 29 Ionawr 2010
  • 24 - 26 Chwefror 2010
  • 9 - 11 Mawrth 2010
  • 17 Mawrth 2010
  • 25 Mawrth 2010

[back to top]

Materion arferol

Arolygiadau ar y Safle: Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:

  1. yr amodau a atodir i'r drwydded safle niwclear gan HSE/NII;
  2. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati (HSWA) 1974
  3. rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, er enghraifft Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 1999 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedeion/gweithredwyr wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol (y safle/atomfa):

Addasiadau i'r peirianwaith, y cyfarpar a'r achosion diogelwch: Mae cyfarfodydd lefel 4 wedi'u cynnal ag arolygwyr NII a staff Magnox i leihau'r perygl ar y safle a achosir gan nifer fach o hen elfennau tanwydd wedi'u cyrydu yng Nghell Storio Sych 4. Mae NII wedi croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud gan MXN i gael gwared ar nifer o elfennau tanwydd a oedd wedi'u difrodi o'r storfa ac mae'n ymgysylltu â'r trwyddedai i ystyried digonolrwydd y cynigion i wneud addasiadau i'r cyfarpar adfer er mwyn hwyluso'r gwaith o gael gwared ar yr elfennau tanwydd sy'n weddill.

Addasiadau i'r peirianwaith, y cyfarpar a'r achosion diogelwch: Mae NII wedi derbyn cynigion gan MXN i ddefnyddio Cynwysyddion Haearn Bwrw Hydwyth i storio gwastraff ymbelydrol ar y safle am gyfnod prawf.

Archwilio, Cynnal a Chadw, Arolygu a Phrofi: Cyflwynwyd cynigion ar gyfer cynnal a chadw Adweithydd 2 yn ystod cyfnod diffodd statudol 2010 i NII ac ystyriwyd eu bod yn foddhaol.

Rheolau Gweithredu :  Cwblhawyd arolygiad o derfyn y pwysedd nwy adweithydd yn unol â'r Rheol Weithredu yn ystod y cyfnod hwn, ac roedd yr arolygydd yn fodlon bod y trwyddedai yn cydymffurfio â'r terfyn rhifol priodol.

Newidiadau sefydliadol : Mae'r trwyddedai wedi cyflwyno cynigion i NII i wneud addasiadau i strwythur sylfaenol sefydliadol y safle o dan ei drefniadau rheoli Newid sefydliadol o dan Amod 36 o'r Drwydded. Mae asesiad gan arbenigwyr NII o ddigonolrwydd y cynigion hyn yn mynd rhagddo.

Adolygiad cyfnodol o ddiogelwch - Gwaith Cynhyrchu Estynedig : Y bwriad ar hyn o bryd yw bod Wylfa yn dod â chynhyrchu i ben erbyn diwedd mis Rhagfyr 2010. Mae NII yn parhau i ymgysylltu â'r trwyddedai ar ei gynigion ar gyfer ymestyn gwaith cynhyrchu y tu hwnt i'r dyddiad arfaethedig i ddod â chynhyrchu i ben.  Mae cyfarfodydd wedi'u cynnal rhwng NII ac arbenigwyr Magnox North ar gyflwyniadau achos diogelwch. Fel rhan o'r prosiect hwn, mae NII wedi cytuno
ar gynnig i gadw rhai elfennau tanwydd yng nghraidd yr adweithydd am gyfnod pellach. Arweiniodd hyn at gyhoeddi Offeryn Trwydded 541.


[back to top]

Materion anarferol

Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol.

  • Mewn cyfarfod ym mis Mawrth, cynhaliodd uwch aelodau o staff MXN ac NII adolygiad o berfformiad yr orsaf o ran diogelwch yn ystod 2009. Nodwyd a chroesawyd nifer o fentrau a gynigiwyd gan y trwyddedai i wella diogelwch niwclear yn Wylfa ymhellach gan NII, a daeth i'r casgliad fod perfformiad yr orsaf o ran diogelwch niwclear dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddigonol.
  • Yn unol â threfniadau Amod 7 o'r Drwydded ar gyfer hysbysu NII am ddigwyddiadau ar y safle, dywedodd y trwyddedai wrth NII am rai mân ddiffygion ym mhibellau dyfrhau tân yr orsaf. Daeth arolygydd y safle i'r casgliad bod y trwyddedai wedi ymateb mewn modd priodol drwy roi camau cywirol ar waith.

[back to top]


Materion eraill

Newidiadau Arfaethedig i statws Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ailstrwythuro Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE i'w sefydlu fel Corfforaeth Statudol Niwclear. Fel y disgrifiwyd mewn adroddiad chwarterol blaenorol (Gorffennaf-Medi 2009), bydd diwygio'r Gyfarwyddiaeth Niwclear yn arwain at ei hailsefydlu fel sefydliad annibynnol sector-benodol ond bydd yn dal i fod o dan nawdd HSE. Diben y broses drawsnewid hon yw sicrhau ei bod yn y sefyllfa orau i ddarparu rheoleiddiwr niwclear blaengar newydd sydd o'r radd flaenaf ac sy'n gymwys i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol.

Mae'r newid angenrheidiol i statws y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn cael ei wneud drwy Orchymyn Diwygio Deddfwriaethol o dan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

Fel rhan o'r newid statws arfaethedig, bydd y sefydliad newydd yn mabwysiadu enw newydd a phenderfynodd Gweinidogion y Llywodraeth yn ddiweddar y dylai gael ei alw yn Swyddfa Rheoleiddio Niwclear. Fodd bynnag, ni fydd y gwaith ailstrwythuro, fel mabwysiadu'r enw newydd, yn newid nac yn gwanhau sylwedd na safonau rheoleiddio nac yn peryglu annibyniaeth y corff rheoleiddio niwclear, ac ni fydd yn effeithio ar y penderfyniadau a wna na'r rhwymedigaethau rhyngwladol y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol iddo eu cyflawni. Yn lle hynny, bydd yn creu corff sydd mewn gwell sefyllfa i ategu'r cynllun ar gyfer ehangu'r diwydiant a gweithgarwch rheoli gwaith etifeddol yn effeithiol ac, yn bwysicaf oll, a fydd yn parhau i orfodi'r rheoliadau mewn safleoedd â thrwydded niwclear yn gadarn.

Er mwyn sicrhau y gall y Gyfarwyddiaeth Niwclear weithredu fel Corfforaeth Statudol Niwclear, mae rhaglen waith fewnol wedi bod yn mynd rhagddi i gynllunio, datblygu a gweithredu'r newidiadau angenrheidiol. Mae'r rhaglen hon hefyd yn ymgorffori gwaith presennol ac arfaethedig y Gyfarwyddiaeth Niwclear gan sicrhau cysondeb drwy ein holl fusnes. Mae'r Gyfarwyddiaeth Niwclear wedi ymrwymo i roi gwybodaeth lawn am y newidiadau i'w rhanddeiliaid drwy gydol y broses drawsnewid hon ac mae'n mabwysiadu nifer o ddulliau ymgysylltu, gan gynnwys yr adroddiadau chwarterol hyn, er mwyn cyflawni'r nod hwn.

[back to top]


Gweithgaredd rheoleiddio

O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall arolygwyr NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol.  O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT).  Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.

Dyddiad Math Rhif Disgrifiad
11 Mawrth 2010 Cytundeb 541 Cytundeb o dan Amod 22 (1) o'r Drwydded ar gynigion i gadw elfennau tanwydd 1 a 2 hyd ddiwedd y cyfnod cynhyrchu.
31 Mawrth 2010 Cymeradwyo 542 Cymeradwyaeth o dan Amod 13 (3) o Drwydded Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Diogelwch Niwclear
31 Mawrth 2010 Cymeradwyo 543 Cymeradwyaeth o dan Amod 13 (11) o'r Drwydded ar drefniadau'r Pwyllgor Diogelwch Niwclear i ystyried cynigion diogelwch brys.

Directgov - Business Link

Updated 17.08.11