Office for Nuclear Regulation
An agency of HSE

Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM Trawsfynydd Grŵp Rhanddeiliaid Safle

Adroddiad Chwarterol ar gyfer 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2010


Rhagair

Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth am weithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd. Bwriedir iddo gael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Trawsfynydd ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Nhrawsfynydd.  Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent hefyd ar gael ar wefan HSE yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm  Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM fel arfer yn mynd i gyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau a godir yn y cyfarfodydd neu ar ôl hynny gan aelodau o'r SSG. 


Arolygiadau

Cynhaliodd yr Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear (NII) arolygiadau ar y dyddiadau canlynol yn ystod y chwarter:

  • 4-5 Hydref
  • 6-8 Rhagfyr

[back to top]


Materion arferol

Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:

  1. yr amodau a atodir i'r drwydded safle niwclear gan HSE/NII;
  2. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. (HSWA) 1974; a
  3. rheoliadau a wnaed o dan HSWA, er enghraifft Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 1999 a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch.  Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol.  Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol safle Trawsfynydd:

  • Addasiadau i weithfeydd a phrosesau presennol
  • Archwilio, arolygu, cynnal a chadw a phrofi
  • Hyfforddi

Yn gyffredinol, tybiwyd bod y trefniadau a wnaed ac a weithredwyd gan y trwyddedai mewn ymateb i ofynion diogelwch yn ddigonol yn y meysydd a arolygwyd.  Fodd bynnag, lle yr ystyriwyd bod gwelliannau yn angenrheidiol, gwnaed ymrwymiadau boddhaol gan y trwyddedai i fynd i'r afael â'r problemau, neu gofynnir iddo wneud hynny, a bydd yr arolygydd safle yn monitro cynnydd yn ystod ymweliadau yn y dyfodol.  Lle y bo angen, cymerir camau gorfodi rheoliadol ffurfiol i sicrhau y caiff mesurau adferol priodol eu cymryd o fewn terfynau amser sy'n rhesymol ymarferol.

[back to top]


Materion anarferol

Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol. Nid oedd unrhyw eitemau o bwys arbennig yn ystod y cyfnod adrodd.

Storfa ar gyfer gwastraff lefel ganolraddol (ILW)

Mae'r trwyddedai wedi bod wrthi'n comisiynu'r storfa newydd ar gyfer pecynnau o wastraff ymbelydrol lefel ganolraddol. Yn ystod y chwarter hwn, gorffennodd y gwaith o gomisiynu mewn perthynas ag un math o becyn. Cyfarfu'r arolygydd safle â'r trwyddedai i drafod ei adroddiad ar y gwaith comisiynu hwnnw, a'i oblygiadau ar gyfer gweithrediadau yn y dyfodol. O ganlyniad, roedd NII yn fodlon y bydd y storfa yn derbyn rhagor o becynnau o'r fath yn rheolaidd yn y dyfodol.

Parodrwydd mewn Argyfwng

Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau ar gyfer delio ag unrhyw ddamwain neu argyfwng sy'n digwydd ar y safle. Mae NII yn arsylwi ymarfer o'r trefniadau hyn o leiaf unwaith y flwyddyn ar safle Trawsfynydd. Cynhaliwyd cyfarfod i adolygu'r perfformiad yn ystod ymarferion 2010, trafod cynnydd mewn perthynas â'r camau gweithredu a bennwyd ar ôl yr ymarfer a chynllunio ar gyfer ymarfer 2011. Cynhaliwyd y cyfarfod gyda Chapelcross a Hunterston A er mwyn rhoi cyfle i wersi gael eu rhannu ar draws tri safle'r trwyddedai sydd wrthi'n gwaredu tanwydd ac yn digomisiynu.

Grŵp Rhanddeiliaid Safle

Aeth yr arolygydd safle i gyfarfod y Grŵp Rhanddeiliaid Safle a gynhelir bob chwe mis, a gwnaeth gyflwyniad byr yno.

Cynrychiolwyr Diogelwch

Cynhaliodd yr arolygydd safle gyfarfod cyfnodol â Chynrychiolwyr Diogelwch i gefnogi eu swyddogaeth o ran cynrychioli cyflogeion a derbyn gwybodaeth am faterion sy'n effeithio ar eu hiechyd, eu diogelwch a'u lles yn y gwaith.

[back to top]


Gweithgaredd rheoleiddio

O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall Arolygwyr Safle'r NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear, mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.

Ni chyhoeddwyd unrhyw Offerynnau Trwydded na hysbysiadau gorfodi yn ystod y chwarter.

[back to top]


Trawsnewid ein busnes

Mae Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE yn parhau i weithio ar raglen newid o'r enw 'Trawsnewid', a'r bwriad yw helpu'r Gyfarwyddiaeth Niwclear i gyflawni ei nod o gael ei chydnabod fel rheoleiddiwr o'r radd flaenaf. Dros y misoedd nesaf, bydd y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn canolbwyntio ar wella'r ffordd y mae'n ymgysylltu â phob un o'i rhanddeiliaid, gan gynnwys cymunedau o amgylch safleoedd niwclear trwyddedig, i esbonio'r gwaith a'r penderfyniadau rheoleiddiol a wna.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn rhoi gwybod i randdeiliaid am newidiadau ac unrhyw benderfyniadau a wneir drwy:

Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynau neu awgrymiadau yn ymwneud â rhaglen Drawsnewid y Gyfarwyddiaeth Niwclear, cysylltwch â ni drwy e-bostio ONRenquiries@hse.gsi.gov.uk.


Directgov - Business Link

Updated 17.08.11