Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth am weithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd. Bwriedir iddo gael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Trawsfynydd ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Nhrawsfynydd. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent hefyd ar gael ar wefan HSE yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm. Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM fel arfer yn mynd i gyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau a godir yn y cyfarfodydd neu ar ôl hynny gan aelodau o'r SSG.
Cynhaliodd Arolygydd Safle'r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear (NII) arolygiadau ar y dyddiadau canlynol yn ystod y chwarter:
Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:
Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol safle Trawsfynydd:
Yn gyffredinol, tybiwyd bod y trefniadau a wnaed ac a weithredwyd gan safle Trawsfynydd mewn ymateb i ofynion diogelwch yn ddigonol yn y meysydd a arolygwyd. Fodd bynnag, lle yr ystyriwyd bod gwelliannau yn angenrheidiol, gwnaed ymrwymiadau boddhaol gan y trwyddedai i fynd i'r afael â'r problemau, neu gofynnir iddo wneud hynny, a bydd yr arolygydd safle yn monitro cynnydd yn ystod ymweliadau yn y dyfodol. Lle y bo angen, cymerir camau gorfodi rheoliadol ffurfiol i sicrhau y caiff mesurau adferol priodol eu cymryd o fewn terfynau amser sy'n rhesymol ymarferol.
Ar 5 Mai 2010 bu tîm o'r NII yn dyst i Ymarfer Argyfwng Arddangos Nerone Lefel 1, a gwmpaswyd yn yr adroddiad diwethaf. O ganlyniad i un o ganfyddiadau'r ymarfer hwnnw, bu'r NII yn dyst i ymarfer sifft FETA ar 21 Medi 2010. Canfu'r NII fod yr ymarfer yn dangos bod trefniadau'r safle yn ddigonol. Er i welliannau gael eu gwneud ymhob maes, roedd un maes lle byddai'r NII wedi disgwyl gweld mwy o welliant. Felly mae'r NII wedi gofyn i'r trwyddedai gynnal ymarfer sifft arall, y bydd Tîm Sicrwydd Magnox North yn dyst iddo.
Mae'r NII wedi dechrau gweithio ar Adolygiad Diogelwch Cyfnodol (PSR) y safle, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2010. Ymwelodd arolygydd y prosiect â'r safle.
Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol. Nid oedd unrhyw eitemau o bwys arbennig yn ystod y cyfnod adrodd.
O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall Arolygwyr Safle'r NII, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.
Cyflwynwyd un OT i'r trwyddedai yn ystod y chwarter:
OT 519 - 23 Gorffennaf 2010 - Cytundeb i newid dyddiad y rhaglen ddigomisiynu ar gyfer clirio'r safle'n derfynol o 14/7/2100 i 8/9/2085
Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gorfodi yn ystod y cyfnod adrodd:
Er bod gweinidogion yn dal i ystyried cynigion y llywodraeth flaenorol i sefydlu Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ar wahân, mae'r heriau sy'n gysylltiedig â rhyngweithio gyda'r diwydiant niwclear modern yn y DU a'i reoleiddio yn parhau o hyd. Mewn ymateb i hyn mae'r Gyfarwyddiaeth Niwclear (y Gyfarwyddiaeth) wedi llunio rhaglen newid sy'n canolbwyntio ar well ffyrdd o weithio a phrosesau gwell ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'r rhaglen hon hefyd yn adlewyrchu nod y sefydliad i gael ei gydnabod yn rheoleiddiwr o'r radd flaenaf.
Er bod y Gyfarwyddiaeth yn ymrwymedig i ateb yr her o wneud newidiadau sefydliadol a gweithredol mawr, ni fydd yn caniatáu i hyn dynnu ei sylw oddi ar fwrw ymlaen â'i gwaith blaenoriaeth uchel parhaus i sicrhau y caiff pobl a chymdeithas eu diogelu rhag peryglon y diwydiant niwclear.
Mae'r Gyfarwyddiaeth yn ymrwymedig i sicrhau y caiff ei rhanddeiliaid wybod am y newidiadau ac unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch strwythur y Rheoleiddiwr yn y dyfodol drwy gydol y broses drawsnewid hon. Gwneir hyn drwy adroddiadau fel adroddiadau'r Grŵp Rhanddeiliaid ac ar wefan HSE.
9 Tachwedd 2010