Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth am weithgareddau arolygu a rheoleiddio sy'n ymwneud â'r safle uchod ar gael i'r cyhoedd. Bwriedir iddo gael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle Trawsfynydd ac mae'n cwmpasu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa Trawsfynydd. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent ar gael ar wefan HSE yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm. Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM fel arfer yn mynd i gyfarfodydd y Grŵp Rhanddeiliaid Safle a byddant yn ymateb i unrhyw gwestiynau a godir ynddynt gan aelodau'r grŵp.
Gwnaeth Arolygydd Safle'r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear (NII) arolygiadau ar y dyddiadau canlynol yn ystod y chwarter:
Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:
Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol safle Trawsfynydd:
Yn gyffredinol, tybiwyd bod y trefniadau a wnaed ac a weithredwyd gan safle Trawsfynydd mewn ymateb i ofynion diogelwch yn ddigonol yn y meysydd a arolygwyd. Fodd bynnag, lle yr ystyriwyd bod gwelliannau yn angenrheidiol, gwnaed ymrwymiadau boddhaol gan y trwyddedai i fynd i'r afael â'r problemau, neu gofynnir iddo wneud hynny, a bydd yr arolygydd safle yn monitro cynnydd yn ystod ymweliadau yn y dyfodol. Lle y bo angen, cymerir camau gorfodi rheoliadol ffurfiol i sicrhau y caiff mesurau adferol priodol eu cymryd o fewn terfynau amser sy'n rhesymol ymarferol.
Ar 5 Mai 2010 bu tîm o'r NII yn dyst i Ymarfer Argyfwng Nerone Lefel 1. Er y cytunodd yr NII fod hyn yn ymarfer digonol o drefniadau'r safle, roedd rhai meysydd o berfformiad, yr oedd angen eu gwella ym marn yr NII. Mae'r NII felly wedi ei gwneud yn ofynnol i Magnox North gynnal ymarfer sifft, y bydd yr NII yn dyst iddo er mwyn edrych ar berfformiad y meysydd hyn.
Roedd tîm o'r NII yn bresennol yng nghyfarfod y safle i gyflwyno ei Adolygiad Diogelwch Blynyddol ar 25 Mai 2010. Daeth y tîm i'r casgliad fod y safle wedi cwblhau adolygiad digonol.
Cyflwynodd Atomfa Trawsfynydd ei Adolygiad Cyfnodol o Ddiogelwch i'r NII ym mis Ebrill 2010. Caiff adolygiad diogelwch cynhwysfawr ei gynnal bob 10 mlynedd. Bydd yr NII yn gwneud penderfyniad ar ddigonolrwydd yr adolygiad erbyn mis Ebrill 2011. Neilltuodd yr NII swyddog prosiect i reoli'r broses o asesu'r adolygiad.
Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol. Nid oedd unrhyw eitemau o bwys arbennig yn ystod y cyfnod adrodd.
O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall Arolygwyr Safle'r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.
Ni chyhoeddwyd OTau i'r trwyddedai yn ystod y chwarter.
Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gorfodi yn ystod y cyfnod adrodd.
Ar hyn o bryd, mae'r penderfyniad i wahanu Cyfarwyddiaeth Niwclear HSE a chreu sefydliad newydd yn cael ei ystyried gan weinidogion. Byddwn yn cyfeirio at unrhyw gynnydd a wneir yn hyn o beth mewn adroddiadau yn y dyfodol yn unol â hynny.