Trawsfynydd - Grŵp Rhanddeiliaid Safle - Adroddiad Chwarterol ar gyfer 1 Ionawr i 31 Mawrth 2010 - Rhagair
Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth am weithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd. Bwriedir iddo gael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Atomfa Trawsfynydd ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa Trawsfynydd. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent hefyd ar gael ar wefan HSE yn www.hse.gov.uk/nuclear/llc/index.htm. Mae Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM fel arfer yn mynd i gyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau a godir yn y cyfarfodydd neu ar ôl hynny gan aelodau o'r SSG.
Gwnaeth Arolygydd Safle'r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear (NII) arolygiadau ar y dyddiadau canlynol yn ystod y chwarter:
Cynhelir arolygiadau ar y safle fel rhan o'r broses ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r canlynol:
Mae hyn yn golygu monitro'r camau a gymerir gan y trwyddedai ar y safle mewn perthynas â digwyddiadau, gweithrediadau, cynnal a chadw, prosiectau, addasiadau, newidiadau i'r achos diogelwch ac unrhyw faterion eraill a all effeithio ar ddiogelwch. Mae'n ofynnol i'r trwyddedai wneud trefniadau digonol a'u rhoi ar waith o dan yr amodau sydd wedi eu hatodi i'r drwydded er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Mae arolygiadau yn ceisio barnu digonolrwydd y trefniadau hyn a'r broses o'u rhoi ar waith. Yn y cyfnod hwn cwmpasodd arolygiadau arferol o safle Trawsfynydd:
Yn gyffredinol, tybiwyd bod y trefniadau a wnaed ac a weithredwyd gan safle Trawsfynydd mewn ymateb i ofynion diogelwch yn ddigonol yn y meysydd a arolygwyd. Fodd bynnag, lle yr ystyriwyd bod gwelliannau yn angenrheidiol, gwnaed ymrwymiadau boddhaol gan y trwyddedai i fynd i'r afael â'r problemau, neu gofynnir iddo wneud hynny, a bydd yr arolygydd safle yn monitro cynnydd yn ystod ymweliadau yn y dyfodol. Lle y bo angen, cymerir camau gorfodi rheoliadol ffurfiol i sicrhau y caiff mesurau adferol priodol eu cymryd o fewn terfynau amser sy'n rhesymol ymarferol.
Mae'n ofynnol bod gan drwyddedeion drefniadau i ymateb i faterion a digwyddiadau anarferol. Mae arolygwyr NII yn barnu pa mor ddigonol yw ymateb y trwyddedai gan gynnwys camau a gymerwyd i weithredu unrhyw welliannau angenrheidiol. Nid oedd unrhyw eitemau o bwys arbennig yn ystod y cyfnod adrodd.
O dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gall Arolygwyr Safle'r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear, ac Arolygwyr eraill HSE, gyhoeddi dogfennau ffurfiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadol. O dan amodau trwyddedu safleoedd niwclear mae HSE/NII yn cyhoeddi dogfennau rheoliadol, sydd naill ai'n caniatáu gweithgaredd neu'n mynnu bod camau penodol yn cael eu cymryd; gelwir y rhain gyda'i gilydd yn Offerynnau Trwydded (OT). Yn ogystal, gall arolygwyr gyhoeddi hysbysiadau gorfodi i sicrhau gwelliannau i ddiogelwch.
Rhoddwyd tri OT i'r trwyddedai yn ystod y chwarter:
Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gorfodi yn ystod y cyfnod adrodd:
O gofio bod etholiad cyffredinol ar fin cael ei gynnal, mae Gweinidogion wedi penderfynu peidio â chyflwyno'r Ddeddfwriaeth (a elwir yn LRO), sydd ei hangen i sefydlu'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, yn ystod y sesiwn Seneddol hon. Gwnaed y penderfyniad hwn i sicrhau y gall y Senedd graffu arni'n llawn ac yn effeithiol.
Yn ddiweddar cyhoeddodd y Llywodraeth er gwybodaeth y dogfennau deddfwriaethol a chanlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd yn Haf 2009. Dangosodd yr ymgynghoriad gefnogaeth gan amrywiaeth eang o sefydliadau. Gellir gweld y dogfennau yn:
Mae'r Rhaglen Drosglwyddo (y gwaith i greu'r sefydliad newydd) wedi'i chwblhau i raddau helaeth ac fe'i hatelir ‘dros dro’ nes y bydd yr LRO wedi'i gymeradwyo
Y rhagdybiaeth gynllunio o ran dyddiad breinio'r sefydliad newydd yw 1 Ebrill 2011 ar yr amod bod yr LRO yn mynd drwy'r broses seneddol
Datblygir y camau nesaf a'r amserlen ddiwygiedig sy'n ymwneud â'r LRO ymhellach maes o law.
Yn y cyfamser mae'r gwaith i gyflawni ein nod o drawsnewid y Gyfarwyddiaeth Niwclear yn rheoleiddiwr niwclear o'r radd flaenaf sy'n gymwys i ymateb i heriau'r dyfodol, yn mynd rhagddo â'r un egni a phenderfyniad.