Health and Safety
Executive / Commission
Nuclear
LLC reports
Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel rhan o ymrwymiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch gweithgareddau arolygu a rheoleiddio sy’n ymwneud â’r safle uchod ar gael i’r cyhoedd. Mae hefyd ar gyfer ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Rhanddeiliaid Safle (SSG) Atomfa’r Wylfa ac mae’n cwmpasu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoleiddio diogelwch yn Atomfa’r Wylfa. Dosberthir yr adroddiadau hyn bob chwarter ac maent ar gael ar y Rhyngrwyd yn http://www.hse.gov.uk/nuclear/index.htm
Mae Arolygwyr Safle Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM yn mynychu cyfarfodydd yr SSG a byddant yn fwy na pharod i ymateb i gwestiynau a godir ynddynt gan aelodau o’r SSG. Dylai unrhyw un arall sy’n dymuno holi am faterion a gwmpesir gan yr adroddiad hwn gysylltu â HSE, Ymholiadau Gwybodaeth y Gyfarwyddiaeth Niwclear ar 0151 - 951 – 3484 / 3290.
Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear EM
Redgrave Court
Merton Road
Bootle
Merseyside
L20 7HS
Gwnaeth yr Arolygydd Safle yr ymweliadau canlynol â’r Wylfa yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn:
Yn ystod yr ymweliadau hyn cynhaliodd arolygydd safle’r Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear (NII) arolygiadau sampl cynlluniedig o’r modd y mae’r trwyddedai’n cydymffurfio â’r amodau sydd ynghlwm wrth y Drwydded Safle a deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol arall. Lle y datgelodd yr arolygiadau hyn fod angen gwella trefniadau’r safle, cododd yr arolygydd safle'r materion hyn gyda Rheolwr yr Atomfa ac mae’n monitro ymateb yr Atomfa yn rheolaidd.
Drwy gydol y cyfnod derbyniodd NII wybodaeth wythnosol yn codi o drefniadau'r trwyddedai ar gyfer cofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau yn yr atomfa. O'r wybodaeth hon ni chododd unrhyw faterion a allai awgrymu diffygion o ran y ffordd y datblygwyd y materion hyn gan y Cwmni. Nodir y digwyddiadau a fu'n destun ymchwiliad dilynol gan NII isod.
Cadarnhaodd cyfarfodydd monitro ac adolygu NII â'r Atomfa fod gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar baratoi'r dadansoddiad diogelwch tebygol Peryglon Tanau Niwclear. Mae cwblhau'r gwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2008/09 o hyd.
Arddangoswyd trefniadau brys yr Wylfa yn ddigonol yn ystod yr ymarfer Lefel 1 a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd. Ni ddangoswyd bod gwelliannau i fynd i'r afael â'r mater sy'n codi droeon yn ymwneud ag ymateb graddedig yn y pwynt rheoli mynediad i reoli'r dos o bersonél ymyrraeth. Cytunodd yr NII i arsylwi Ymarfer Sifft Ionawr 2008 er mwyn dangos ffordd ddigonol o weithredu a chlirio'r mater. Er y gwelwyd perfformiad da a boddhaol, nodwyd y pwyntiau dysgu manwl i'w hystyried a chynnal gwaith dilynol arnynt hefyd ac y dylid rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n ymwneud â dangos blaenoriaethau'r Rheolwr Brys a chamau gweithredu cysylltiedig yn glir ar y Byrddau Briffio.
Aeth NII i Gyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol Cynllunio Brys a gynhaliwyd ar 16 Hydref. Mae hefyd wedi cael cais gan yr Atomfa am gymeradwyaeth NII o'r cynllun brys diwygiedig, ac wedi asesu'r cais hwnnw. Caiff Offeryn Trwyddedu yn Cymeradwyo rhoi Cynllun Brys wedi'i ailgyhoeddi ar waith yn lle'r Cynllun Brys presennol ei gyhoeddi ar ddechrau 2008.
Ar 11 Hydref wrth adfer pŵer Adweithydd 1 tra oedd y TA2 yn weithredol, cafwyd ansadrwydd yn y cywasgydd oherwydd bod pwmp echdynnu wedi diffodd. Arweiniodd y digwyddiad hwn at Adweithydd 1, a oedd ar 60MW, yn diffodd yn annisgwyl. Gweithredodd swyddogaethau ar ôl y diffodd yn arferol ac o fewn yr achos diogelwch. Cafodd ymateb yr Atomfa ei fonitro gan ND a dyfarnwyd bod yr ymateb yn dda. Penderfynodd Cyfarwyddwr y Safle beidio ag ailddechrau Adweithydd 1 hyd nes iddo gael sicrwydd bod cyfluniad y gwaith wedi'i ddeall yn llawn ac y dangoswyd ei fod yn gywir. Cafodd y broses ar gyfer rhoi'r sicrwydd hwn ei chyflwyno i ND cyn dechrau'r Adweithydd. Roedd angen i Adweithydd 1 barhau wedi'i ddiffodd am dros wythnos er mwyn cwblhau'r gwiriadau a nodwyd. Cafodd y broses o roi sicrwydd ei chwblhau yn foddhaol cyn ailddechrau'r Adweithydd. Mae'r Atomfa yn ymchwilio'n llawn i'r digwyddiad a chynhelir gwaith dilynol ar hyn gan arolygydd safle Wylfa ND.
Ymwelodd tîm arolygu meincnodi NII â'r Wylfa ar 22 – 26 Hydref i archwilio trefniadau'r Atomfa ar gyfer cydymffurfio â'r Rheol Weithredu. Roedd hyn yn rhan o gyfres o chwe arolygiad gan y tîm meincnodi ar draws y diwydiant. Mae amcanion y rhaglen feincnodi fel a ganlyn;
Cynhaliwyd yr arolygiad meincnodi yn erbyn cyfres o ddisgwyliadau ar gyfer gweithredu cydymffurfio â'r rheol weithredu yn deillio o'r canllawiau IAEA perthnasol ac wedi'u hategu gan gyfres o gwestiynau a ddatblygwyd yn benodol. Y nod yw gwerthuso arwyddocâd y canfyddiadau ar ôl cwblhau'r rhaglen o chwe arolygiad meincnodi.
Cynhaliwyd ymweliad cynorthwyo ND ym mis Rhagfyr. Ei nod oedd ystyried mentrau rhagweithiol yr Atomfa a gyflwynwyd mewn ymateb i duedd annymunol mewn digwyddiadau perfformiad dynol a rhoi cyfle i gynnig cyngor os bydd angen. Roedd y tîm yn cynnwys arbenigwr o Gyfarwyddiaeth Gosodiadau Peryglus yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i roi cyfraniad diogelwch ymddygiad trawsbynciol o'r profiad a gafwyd o reoleiddio gweithfeydd perygl uchel eraill.
Trwydded y Safle: Mae gan yr Arolygiaeth bwerau o dan y Drwydded Safle Niwclear i gyflwyno Cydsyniadau, Cymeradwyaethau a Chyfarwyddiadau. Yn ogystal, defnyddia’r Arolygiaeth Offerynnau Trwydded i gyflwyno Manylebau a Chytundebau o dan yr amodau sydd ynghlwm wrth Drwydded y Safle. Cyhoeddwyd y dogfennau rheoleiddio canlynol yn ystod y cyfnod:
| Dyddiad | Math | Rhif | Disgrifiad |
|---|---|---|---|
12 Hydref 2007 |
Cytundeb |
523 |
Switsh Diffodd Gwasgedd Gwahaniaethol Llif (Isel) Dŵr y Bwyler newydd ar gyfer prif Amddiffyniad y Cylched Diogelwch |
Tachwedd 2007 |
Cytundeb |
524 |
Cytundeb i Ddechrau Gwaith Cysgodi |
17 Rhagfyr 2007 |
Manyleb |
525 |
Manyleb Cymorth LC 25 (3) HASS |