Health and Safety Executive

Cysylltu â’r HSE y tu allan i oriau

Nid gwasanaeth argyfwng yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac nid yw fel arfer yn gallu ymateb y tu allan i oriau gwaith arferol sef 8.30am – 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yn ein profiad ni, gellir ymchwilio i’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn foddhaol yn ystod oriau gwaith arferol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd sefyllfaoedd yn codi a fydd yn gofyn am ymateb cyflym gan yr HSE ac er mwyn gwneud hyn mae swyddog ar ddyletswydd a all gysylltu â’r swyddog yr HSE priodol y tu allan i oriau gwaith.

Oes angen i mi gysylltu â’r HSE y tu allan i oriau gwaith?

Y math o amgylchiadau y byddai angen i’r HSE ymateb iddynt y tu allan i oriau gwaith o bosibl yw:

  • yn dilyn marwolaeth sy’n gysylltiedig â gwaith, neu pan fo posibilrwydd cryf bod rhywun wedi marw yn dilyn digwyddiad yn y gwaith neu’n gysylltiedig â gwaith;
  • yn dilyn damwain yn y gweithle, er mwyn casglu manylion tystiolaeth ffisegol a fyddai’n cael eu colli pe baech yn aros tan oriau gwaith arferol;
  • yn dilyn digwyddiad mawr yn y gweithle pan fo difrifoldeb y digwyddiad, neu bryder y cyhoedd, yn gofyn am ddatganiad cyhoeddus ar unwaith gan naill ai HSE neu weinidogion y Llywodraeth.

Os byddwch yn teimlo bod eich digwyddiad yn debyg i’r disgrifiadau hyn, neu os nad ydych yn siŵr, ffoniwch y swyddog ar ddyletswydd ar 0151 922 9235.

Bydd y swyddog ar ddyletswydd yn cymryd eich neges ac yn gofyn am eich rhif ffôn a fydd yn ein galluogi i gysylltu â chi. Bydd yn rhoi eich manylion i swyddog HSE priodol, a fydd o bosibl am gysylltu â chi ymhellach. Os na ellir cael gafael ar y Swyddog ar Ddyletswydd ar y rhif uchod ffoniwch 0207 928 8382 (Swyddog y Wasg ar ddyletswydd)

Os byddwch yn dymuno rhoi gwybod am glefydau, digwyddiadau peryglus neu ddamweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith sy’n arwain at anaf sy’n gysylltiedig â gwaith ac eithrio’r rhai y sonnir amdanynt uchod, dylech gysylltu â’r Ganolfan Gyswllt Digwyddiadau (ICC) yn ystod oriau swyddfa.

Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r HSE am unrhyw reswm arall, dylech gysylltu â’r Llinell Wybodaeth yn gyntaf yn ystod oriau swyddfa.


Quick links

Ask an expert 0845 345 0055

Health and Safety Executive
Caerphilly Business Park
Caerphilly CF83 3GG

Directgov - Business Link

Updated 05.10.09