Cyfrinachedd
Y Llinell wybodaeth yw canolfan gyswllt ymholiadau'r cyhoedd HSE. Mae'r llinell wybodaeth yn rhoi mynediad i wybodaeth iechyd a diogelwch yn y gweithle, canllawiau a chyngor arbenigol. Gwnawn bob ymdrech i ddiogelu'r wybodaeth a rowch i ni. Nodwch na fydd HSE, fel arfer, yn rhoi eich manylion personol i sefydliadau eraill. Fodd bynnag, weithiau mae angen i ni roi eich manylion i adran arall o'r llywodraeth er mwyn eich helpu gyda'ch ymholiad.
Cadw
Mae cadw a dileu gwybodaeth yn rhan bwysig o gadw cofnodion o fewn HSE, nodwch y caiff pob ymholiad ei ddinistrio ar ô l dwy flynedd. Mae HSE wedi datblygu polisi cadw cofnodion i gynnal y trefniadau dileu hyn yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Gofynion Cyfreithiol
- Gwerth Hanesyddol a throsglwyddo i'r Archif Genedlaethol
- Gofynion busnes, gan gynnwys yr angen am dryloywder ac atebolrwydd

