Daeth Prydain yn lle iachach a mwy diogel i weithio ynddi y llynedd, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Mae'r ystadegau'n dangos gostyngiad sylweddol yn y niferoedd o bobl a laddwyd, anafwyd neu a fu'n dioddef salwch sy'n gysylltiedig â gwaith o Ebrill 2008 hyd Mawrth 2009.
Ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, collwyd 29.3 miliwn o ddiwrnodau gwaith (sy'n cyfateb i 1.24 diwrnod i bob gweithiwr) oherwydd anaf neu salwch y llynedd - o gymharu â 33.9 miliwn yn 2007/08.
Syrthiodd y nifer o anafiadau angheuol sy'n gysylltiedig â gwaith o 223 yn 2007/08 i 180 yn 2008/09, sef y nifer lleiaf erioed, a bu gostyngiad o dros 7,000 yn y nifer o anafiadau yn y gweithle a gaiff eu dosbarthu fel rhai difrifol neu a arweiniodd at gael dros dri diwrnod o absenoldeb o'r gwaith.
O gymharu â data rhyngwladol dangosir bod Prydain yn un o'r llefydd mwyaf diogel i weithio ynddi yn yr UE.
Dywedodd Judith Hackitt, Cadeirydd HSE:
"Mae wir yn galonogol gweld y gwelliannau hyn yn y niferoedd o farwolaethau, anafiadau a salwch yn y gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae diogelu pobl rhag niwed yn y gwaith yn dal yn bwysig, waeth beth yw'r hinsawdd economaidd. Ar ôl dangos, wrth gychwyn ar ddirwasgiad byd-eang, y gall Prydain Fawr gyflawni perfformiad sy'n cymharu'n ffafriol â chenhedloedd diwydiannol eraill, yr her yn awr yw cynnal y gwelliant hwn wrth i ni symud tuag at adferiad a gweithgaredd cynyddol mewn rhai sectorau economaidd.
"Er gwaetha'r ystadegau calonogol heddiw ar y cyfan, rhaid cofio eu bod nhw'n adrodd stori hefyd am unigolion a theuluoedd sydd wedi dioddef. Maent yn pwysleisio'r risgiau gwirioneddol y gall pobl eu hwynebu yn y gwaith bob dydd. Dyma fu gwir agenda iechyd a diogelwch erioed a bydd yn parhau felly."
Mae anafiadau difrifol yn y gwaith wedi syrthio ers 2000 a pharhaodd y duedd hon y llynedd gyda 28,692 o weithwyr yn cael eu cofnodi wedi'u hanafu yn 2008/09 (94.8 ym mhob 100,000) o gymharu â 29,389 yn 2007/08 (96.5 ym mhob 100,000).
Cofnodwyd cwymp ystadegol arwyddocaol yn y nifer a amcangyfrifir o anafiadau a hunan-gofnodowyd - gan ostwng o 299,000 yn 2007/08 i 246,000 y llynedd.
O ganlyniad i'r gwelliant hwn collwyd 1.6 miliwn yn llai o ddiwrnodau gwaith gan fusnesau oherwydd bob math o anaf, cyfanswm o 4.7 miliwn.
Syrthiodd y nifer o bobl a amcangyfrifir sy'n dioddef salwch sy'n gysylltiedig â gwaith i 1.2 miliwn sef 79,000 yn llai.
O ganlyniad, collwyd tair miliwn yn llai o ddiwrnodau gwaith oherwydd salwch yn 2008/09 - cyfanswm o 24.6 miliwn.
Ychwanegodd Judith Hackitt:
"Mae'r gwelliannau a amlygwyd yn yr ystadegau hyn yn awgrymu ffactorau eraill heblaw lleihad gweithgaredd yn ystod y dirwasgiad yn unig. Tra bydd y dirwasgiad yn sicr yn cael effaith, nid yw'n effaith uniongyrchol nac yn hawdd i'w egluro.
"Awgryma hanes, wrth i ni symud yn ôl tuag at dwf economaidd bydd cyfradd yr anafiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn tueddu i gynyddu. Mae atal yr un peth rhag digwydd eto yn her sy'n wynebu pawb sy'n cyfrannu at iechyd a diogelwch yn y gwaith - boed yn reoleiddwyr, cyflogwyr neu'n gyflogeion: mae gofyn i bawb fod yn rhan o'r ateb."
Parha HSE i ymateb yn gadarn i gwmnïau sy'n rhoi gweithwyr mewn perygl drwy dorri'r ddeddfwriaeth diogelwch. Daeth â 1231 o droseddau i'r llys yn 2008/9, a chyhoeddodd 8054 o hysbysiadau gorfodi.
Dylai gohebwyr Rhanbarthol ffoniwch y swyddfa briodol wasg ranbarthol COI
Gellir gweld gwybodaeth a datganiadau'r wasg HSE ar y Rhyngrwyd http://www.hse.gov.uk