Health and Safety
Executive / Commission
Awdurdod Gweithredol
lechyd a Diogelwch
Cafodd 80 o ffermwyr wybod am sut y bu i 489 o ffermwyr farw mewn damweiniau ar eu ffermydd yn y deng mlynedd diwethaf ym Mhrydain. Yr achos mwyaf o ddamweiniau angheuol yw damweiniau yn ymwneud â thrafnidiaeth, e.e. cael eich taro i lawr gan gerbyd fferm neu eich gwasgu ganddo, ond llynedd lladdwyd tri ffermwr gan anifeiliaid fferm hefyd. Roedd achosion eraill yn cynnwys syrthio o doeau, tasau neu ôl-gerbydau a chlirio rhwystrau o beiriannau porthiant.
Mae 80% o'r bobl yn y diwydiant ffermio yn dioddef o gefn, ysgwyddau neu bengliniau tost (anhwylderau cyhyrysgerbydol) - gellir osgoi'r rhan fwyaf o'r anafiadau hyn. Cafodd y ffermwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad glywed am yr hyn y gallant ei wneud i osgoi'r mathau hyn o anafiadau, drwy ddefnyddio technegau codi da a chymorth mecanyddol. Trafodwyd Beiciau Cwad, Teledrafodwyr, Cynnal a chadw Cerbydau a Thrin Anifeiliaid hefyd yn ystod y dydd. Cytunodd llawer o'r rhai a oedd yn bresennol i wneud newidiadau ar eu ffermydd.
Diolchwn i bawb a helpodd i wneud y diwrnod hwn yn bosibl - rydym yn falch fod y rhai a ddaeth wedi cael diwrnod defnyddiol a buddiol, ac y byddent yn argymell eraill i fynychu. Cynhelir digwyddiadau eraill yn ddiweddarach eleni; Bydd ffermwyr yn cael llythyr gwahoddiad gan HSE.
Mae cyfle i weld rhai o'r senarios yn Nigwyddiad Defaid Cymru y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol, Betws y Coed ar 19 Mai 2009.