Health and Safety Executive

Menter Cyfnewid Ysgolion 2010

Peidiwch â difetha eich bywyd gydag ysgol sydd wedi torri!

Cyfnewid Ysgolion 2010 (1 Medi - 30 Tachwedd 2010)

Syrthio o uchder yw achos mwyaf cyffredin marwolaethau yn y gwaith o hyd. Yn 2008/09 bu farw 35 o weithwyr a chafodd 4654 o gyflogeion eu hanafu'n ddifrifol. Syrthio oddi ar ysgol oedd achos dros ddwy ran o dair o'r anafiadau difrifol hyn.

Mewn ymdrech i leihau nifer y gweithwyr sy'n cael eu hanafu am eu bod yn syrthio oddi ar ysgol sydd wedi torri, mae HSE yn gweithio gyda'r cwmnïau partner canlynol er mwyn cynnal ein menter lwyddiannus “Cyfnewid Ysgolion” unwaith eto;

HSS Hire, Speedy, HARSCO (SGB Hire gynt), Ladderstore.com, Ladder Association, ABRU, A-Plant, Browns Ladders and Ceilings, Clow Group, Engex (mewn cydweithrediad â CEF), Globe Ladders, Ladder & Fencing Industries, TB Davies, Slingsby, Youngman Group, Zarges UK a phartneriaid newydd, Travis Perkins, Attic Access ac Engex.

Llwyddodd mentrau Cyfnewid Ysgolion blaenorol (2007-2009) i gael gwared ar bron 7000 o ysgolion a oedd wedi torri o weithleoedd ym Mhrydain.

Beth yw Cyfnewid Ysgolion?

Mae'r cysyniad sy'n sail i'r fenter Cyfnewid Ysgolion yn un syml iawn; os oes gan ddefnyddiwr ysgol sydd wedi torri, wedi'i difrodi neu wedi plygu, gall ddod â hi i unrhyw un o'n siopau partner a'i chyfnewid am un newydd am bris gostyngol.

Cyfnewid Ysgolion - Negeseuon allweddol

Y negeseuon allweddol ar gyfer ymgyrch eleni yw:

  • Peidiwch â difetha eich bywyd gydag ysgol sydd wedi torri - ewch â'i chyfnewid hi
  • Os yw'n iawn defnyddio ysgol, defnyddiwch yr un gywir a defnyddiwch hi'n ddiogel.
  • Edrychwch ar eich ysgol - Os oes gennych ysgol sydd wedi torri, wedi'i difrodi neu wedi plygu, gallwch ei chyfnewid am un newydd

Am ragor o wybodaeth am gyfnewid ysgolion cysylltwch yn ymweld â'rLadderexchange gwefan(Saesneg yn unig)


Directgov - Business Link

Updated 08.05.12