Dylai cyflogwyr a chyflogeion ddefnyddio mesurau hylendid personol da drwy'r amser - defnyddiwch hances bapur dafladwy pan fyddwch yn pesychu neu'n tisian a sicrhewch eich bod yn cael gwared ohoni mewn ffordd briodol, a golchwch eich dwylo cyn bwyta, yfed ac ati. Ar yr adeg hon dylech hefyd wneud y canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am ffliw moch ewch i wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd. (Saesneg)
Ychydig o bobl sy'n debygol o fod yn arddangos symptomau mewn mannau cyhoeddus. Felly ni ddylai fod angen i weithwyr wisgo mygydau yn rheolaidd pan fyddant mewn cysylltiad â'r cyhoedd.
Yn achos rhai swyddi a gweithgareddau, mae'n fwy tebygol y daw unigolion i gysylltiad â'r firws (e.e. gweithwyr gofal iechyd), ac mae canllawiau HSE yn nodi bod mygydau llawfeddygol gwrth-hylif yn lleihau cysylltiad â'r geg a'r trwyn ond nad ydynt yn diogelu'r unigolyn rhag erosolau.
I gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu i benderfynu pryd y gallai fod angen defnyddio mygydau yn y gweithle, a sut i gael gwared ohonynt yn ddiogel, ewch i wefan yr Adran Iechyd: Pandemic flu guidance for businesses[2].(Saesneg)
Mae achosion o ffliw moch mewn pobl wedi'u cadarnhau ym Mecsico, Canada, Sbaen ac Unol Daleithiau America. Yn ogystal, mae dau achos wedi'u cadarnhau yn yr Alban. Fel mater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, y prif bwynt cyswllt a ffynhonnell gwybodaeth am iechyd yw'r Asiantaeth Diogelu Iechyd. Mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar gael ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd. (Saesneg)
Bu HSE, yn gweithio gydag adrannau ac asiantaethau'r Llywodraeth i baratoi ar gyfer yr amgylchiadau hyn ac mae'n parhau i wneud hynny. Mae HSE yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â'r gweithle a'r gweithlu ac felly mae'n barod i gynnig gwybodaeth a chyngor yn ôl yr angen.