Health and Safety Executive

Cam 6: Darparu cyfleusterau

Rhaid i chi ddarparu amgylchedd diogel ac iach ar gyfer pob un o'ch cyflogeion. Mae angen i chi ystyried eu hanghenion lles hefyd. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau.

Er enghraifft, rhaid i chi ddarparu toiledau, cyfleusterau ymolchi a dŵr yfed, ac mae angen i chi ystyried ffactorau o ran yr amgylchedd gwaith fel y goleuadau a'r tymheredd.

A yw hyn yn effeithio ar fy musnes?

Mae gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o weithleoedd: Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992.  Mae rhai gweithleoedd, fel safleoedd adeiladu, wedi'u cwmpasu gan ddeddfwriaeth HSE ar wahân.

Beth mae angen i gyflogwyr ei wneud

Mae’r adran hon yn rhoi amlinelliad byr o'r gofynion. Mae rhagor o wybodaeth yn nhaflen am ddim HSE INDG 244 Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle - Canllaw byr i reolwyr .


Cyfleusterau lles

Toiledau, basnau golchi dwylo, cyfleusterau cawod ac ymolchi

Rhaid i chi ddarparu:

  • toiledau glân, wedi'u hawyru'n dda (rhai ar wahân i ddynion a merched onid oes gan bob cyfleuster ei ddrws ei hun y gellir ei gloi);
  • basnau ymolchi gyda dŵr oer a phoeth (neu gynnes) o'r tap;
  • cawodydd ar gyfer gwaith brwnt a allai halogi'r croen;
  • sebon a thywelion (neu sychwr dwylo).

Dŵr yfed

Rhaid i chi ddarparu dŵr yfed o safon uchel, gyda phistyll yfed neu gwpanau addas. Nid oes rhaid nodi dŵr yfed oni bai bod risg sylweddol fod pobl yn yfed dŵr na ddylid ei yfed.

Lleoliad ar gyfer dillad a chyfleusterau newid

Rhaid i chi ddarparu cypyrddau bach neu le i hongian dillad a chyfleusterau newid lle mae gweithwyr yn gwisgo dillad arbennig. Dylai'r cyfleusterau ei gwneud yn bosibl i sychu dillad.

Cyfleusterau ar gyfer gorffwys a bwyta prydau

Rhaid i chi ddarparu lle bwyta, a chyfleusterau gorffwys os oes gennych aelodau o staff sy'n feichiog neu'n famau sy'n magu.

[yn ôl i'r brig ]


Materion iechyd

Awyru

Rhaid sicrhau bod y gweithle wedi'i awyru'n dda:

  • Cyflenwad o aer ffres a glân o'r tu allan neu o systemau awyru. Ni ddylai fod wedi'i lygru a dylai gylchredeg drwy'r gweithle.
  • Dylai system awyru hefyd gael gwared ar awyr cynnes a'i wanhau a chaniatáu i awyr symud heb achosi drafft.

Tymheredd

Mewn gweithleoedd dan do, rhaid i chi ddarparu:

  • tymheredd gweithio rhesymol; 16°C o leiaf fel arfer, neu 13°C ar gyfer gwaith llafurus (oni fydd deddfau eraill yn gofyn am dymereddau is);
  • systemau gwresogi neu oeri lleol lle na ellir cynnal tymheredd cyfforddus ym mhob ystafell waith, er enghraifft, prosesau poeth ac oer;
  • dillad thermol a chyfleusterau gorffwys lle bo angen, er enghraifft ar gyfer ‘gwaith poeth’ neu storfeydd oer;
  • systemau gwresogi nad ydynt yn gollwng lefelau peryglus nac annymunol o fygdarth i'r gweithle;
  • lle digonol mewn ystafelloedd gwaith.

Goleuadau

Rhaid i chi ddarparu:

  • golau da; defnyddiwch olau naturiol lle y bo'n bosibl, ond ceisiwch osgoi llewyrch;
  • lefel dda o oleuadau lleol ar weithfannau lle bo angen;
  • mathau addas o oleuadau. Gall rhai tiwbiau fflwroleuol 'grynu' a gallant fod yn beryglus gyda rhai peirannau sy'n troi (gan y gall ymddangos bod rhan sy'n troi wedi stopio).

Glanweithdra a deunyddiau gwastraff

Rhaid i chi:

  • ddarparu adeiladau, dodrefn a gosodiadau glân (e.e. goleuadau);
  • darparu lloriau a grisiau glân, nad ydynt yn llithrig;
  • darparu cynwysyddion ar gyfer deunyddiau gwastraff;
  • gwaredu baw, sbwriel a gwastraff masnachol yn rheolaidd;
  • glanhau gollyngiadau'n brydlon;
  • cadw waliau a nenfydau mewnol yn lân.

Mesuriadau ystafelloedd a lle gwag mewn ystafelloedd

Dylai fod gan ystafelloedd gwaith ddigon o le gwag i alluogi pobl i symud o gwmpas yn hawdd. I gael canllawiau ar fesuriadau ystafelloedd cyfeiriwch at daflen INDG244:

Gweithfannau a seddau

Rhaid i weithfannau fod yn addas i'r gweithiwr a'r gwaith a dylai pobl allu gadael gweithfannau yn gyflym mewn argyfwng. Sicrhewch y canlynol:

  • bod cynalyddion cefn seddau'n cynnal y meingefn a rhaid i chi ddarparu troedfeinciau os oes angen;
  • bod arwynebau gwaith ar uchder call;
  • bod mynediad hawdd i reolyddion ar offer.

[yn ôl i'r brig ]


Materion diogelwch

Cynnal a chadw'r gweithle ac offer gwaith

Rhaid i chi:

  • gadw adeiladau ac offer gwaith mewn cyflwr da;
  • sicrhau bod lle i allu symud a chael mynediad yn ddiogel, er enghraifft, i beiriant;
  • darparu gwydr ffenestri diogel, os oes angen, er enghraifft gwydr wedi'i baentio, gwydr gwydn neu wydr trwchus, sydd wedi'i nodi i'w gwneud yn hawdd i'w weld;
  • sicrhau draeniad da ar gyfer prosesau gwlyb;
  • darparu cysgod rhag y tywydd ar gyfer gweithleoedd awyr agored, os yw'n ymarferol;
  • cadw llwybrau awyr agored yn ddiogel adeg rhew, er enghraifft, taenu halen/tywod a'u hysgubo.
  • Gweler tudalennau gwe HSE ar offer gwaith a pheiriannau

Lloriau a llwybrau traffig

Rhaid i chi sicrhau:

  • bod lloriau, coridorau a grisiau yn glir o rwystrau, er enghraifft, ceblau;
  • nad yw arwynebau yn llithrig;
  • bod ardaloedd awyr agored wedi'u goleuo'n dda - bydd hyn yn helpu gyda diogelwch hefyd;
  • bod llwybrau diogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau - y ffordd orau yw cadw cerbydau a cherddwyr ar wahân trwy ddefnyddio llwybrau ar wahân;
  • bod arwynebau gwastad, llyfn heb dyllau nac estyll wedi torri;
  • bod rheiliau llaw ar risiau a rampiau lle bo angen;
  • bod drysau diogel, er enghraifft, paneli gweld mewn drysau siglo, a dyfeisiau diogelwch ar ddrysau â phŵer.

Drysau, gatiau, waliau a ffenestri tryloyw a lled dryloyw

Dylai ffenestri, arwynebau tryloyw neu led dryloyw mewn waliau, partisiynau, drysau a gatiau, pan fo'u hangen i ddiogelu iechyd a diogelwch, fod wedi’u gwneud o ddeunydd diogelwch neu dylent fod wedi’u diogelu rhag torri. Dylech nodi'r arwynebau hyn yn glir os oes perygl y gallai pobl wrthdaro â hwy.

Ffenestri a glanhau diogel

Grisiau symudol a llwybrau symudol

Dylai grisiau symudol a llwybrau symudol weithio’n ddiogel a dylent fod wedi’u ffitio ag unrhyw ddyfeisiau diogelwch angenrheidiol ac un neu ragor o reolyddion stopio brys sy’n hawdd eu hadnabod a’u cyrraedd.

Taflenni am ddim

Llyfrau HSE


Directgov - Business Link

Updated 09.02.12