Health and Safety
Executive / Commission
Awdurdod Gweithredol
lechyd a Diogelwch
Mae'r gyfraith iechyd a diogelwch yn dweud:
Mae angen i bawb sy'n gweithio i chi, gan gynnwys pobl hunangyflogedig, wybod sut i weithio'n ddiogel a heb risgiau i iechyd. Felly mae angen i chi eu hyfforddi er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod pa beryglon a risgiau y gallent eu hwynebu, sut i ymdrin 'r risgiau hynny ac unrhyw weithdrefnau argyfwng. Dylid cynnal hyfforddiant iechyd a diogelwch yn ystod oriau gwaith ac ni ddylai cyflogeion dalu amdano.
Gallai fod gan rai cyflogeion anghenion hyfforddi penodol, er enghraifft:
Mae angen i chi sicrhau y caiff cyflogeion newydd, amhrofiadol neu ifanc oruchwyliaeth ddigonol.
Mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnod o'r holl hyfforddiant i ddangos y caiff ei gynnal ac fel y gallwch weld pryd y gallai fod angen ei ailadrodd. Dylech ymgynghori gweithwyr neu eu cynrychiolwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant yn berthnasol ac yn effeithiol.
Dylid ailadrodd yr hyfforddiant o bryd i'w gilydd os gwneir y gwaith y mae'n gysylltiedig ag ef yn achlysurol yn unig. Er enghraifft, os bydd rhywun yn cyflenwi ar gyfer rhywun arall tra eu bod i ffwrdd; ni wneir proses yn aml; neu weithdrefnau argyfwng.
(cliciwch am gynnwys Saesneg)
(cliciwch am gynnwys Saesneg)
(cliciwch am gynnwys Saesneg)