Os ydych yn cyflogi unrhyw un, rhaid i chi arddangos poster cyfraith iechyd a diogelwch HSE. Neu gallwch roi taflen i'ch cyflogeion a elwir yn 'Cyfraith Iechyd a Diogelwch: Beth y dylech chi ei wybod ' .
Mae'r poster yn cynnwys gwybodaeth iechyd a diogelwch sylfaenol ac mae'n rhoi gwybod i bobl pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Rhaid i chi arddangos y poster lle y gall eich gweithwyr ei ddarllen yn hawdd, a rhaid iddo fod mewn cyflwr fel y gellir ei ddarllen. Rhaid i chi gynnwys rhai manylion cyswllt hefyd, er enghraifft eich awdurdod gorfodi lleol.
Mae'r poster a'r daflen (mewn pecynnau o 25) ar gael o HSE Books 01787 881 165