HSE banner

Eich polisi iechyd a diogelwch

Mae polisi iechyd a diogelwch yn nodi eich ymagwedd gyffredinol a'ch amcanion (eich gweledigaeth) a'r trefniadau sydd ar waith gennych ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch yn eich busnes. Mae'n ddogfen unigryw sy'n nodi pwy sy'n gwneud beth, pryd a sut.
Os oes gennych bump cyflogai neu fwy, rhaid i chi feddu ar bolisi ysgrifenedig.

Mae datganiad polisi ysgrifenedig yn dangos eich ymrwymiad i iechyd a diogelwch i'ch staff, ac unrhyw un arall. Dylai ddisgrifio sut y byddwch yn gweithredu ac yn monitro eich rheolaethau iechyd a diogelwch. Dylid ei adolygu'n rheolaidd.

Mae polisi yn wahanol i asesiad risg. Mae polisi yn dangos y weledigaeth a'r trefniadau cyffredinol ar gyfer y busnes cyfan ac mae'n ehangach nag asesiad risg. Mae asesiad risg yn adolygiad systematig o sut rydych yn dileu ac yn rheoli pob perygl sylweddol, ac a ydych yn gwneud digon.

Dim ond os gweithredir arno ac y caiff ei ddilyn gennych chi a'ch staff y bydd polisi'n effeithiol.

Datganiadau polisi ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gwblhau eich datganiad polisi: