Cofrestru eich busnes newydd
Penderfynwch a oes angen i chi hysbysu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu eich awdurdod lleol am eich busnes ac os oes angen, gwnewch hynny.
Trefnu Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr
Mae Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwr yn eich diogelu rhag hawliadau gan gyflogeion sydd wedi cael anaf neu sy'n sâl o ganlyniad i'w gwaith.
Penodi unigolyn cymwys
Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi benodi unigolyn cymwys i'ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau iechyd a diogelwch. Nid oes rhaid iddo fod yn ymgynghorydd allanol.
Ysgrifennu eich polisi iechyd a diogelwch
Mae eich polisi iechyd a diogelwch yn nodi'r trefniadau sydd ar waith gennych ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch yn eich busnes. Mae'n ddogfen unigryw sy'n nodi pwy sy'n gwneud beth, pryd a sut.
Asesu'r risgiau
Penderfynwch beth allai niweidio pobl a pha ragofalon i'w cymryd. Dyma eich asesiad risg. Rhaid i chi weithredu ar ganfyddiadau eich asesiad risg, drwy roi rheolaethau call ar waith i atal damweiniau a salwch a sicrhau y cânt eu dilyn.
Darparu cyfleusterau lles sylfaenol
Rhaid i chi ddarparu amgylchedd diogel ac iach ar gyfer pob un o'ch cyflogeion. Mae hyn yn cynnwys toiledau, cyfleusterau ymolchi a dŵr yfed, a goleuadau a thymheredd priodol.
Ymgynghori â'ch gweithwyr
Mae ymgynghori'n golygu trafod materion iechyd a diogelwch gyda'ch gweithwyr, gan eu galluogi i godi pryderon a dylanwadu ar benderfyniadau.
Arddangos y poster iechyd a diogelwch
Mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae'r poster yn cynnwys gwybodaeth iechyd a diogelwch sylfaenol ac mae'n rhoi gwybod i bobl pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Neu gallwch roi taflen i'r gweithwyr.
Deall gweithdrefnau cofnodi RIDDOR
O dan Reoliadau Cofnodi Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 1995 (RIDDOR), mae'n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw ddamweiniau, clefydau a digwyddiadau y bu bron iddynt ddigwydd sy'n ymwneud â'r gwaith. Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i wneud hynny, hyd yn oed os na fydd byth angen i chi wneud hynny.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Gallwch gael newyddion eich sector drwy e-fwletinau, llif newyddion, podlediadau a negeseuon testun i'ch ffôn.