HSE banner

Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i gyflogwyr gael Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rhaid i chi arddangos y dystysgrif lle y gall eich staff ei darllen yn hawdd. Gellir codi dirwy arnoch os nad oes gennych bolisi cyfredol.

Gallai eich staff gael eu hanafu neu gallent fynd yn sâl oherwydd eu gwaith i chi. Gallent geisio hawlio iawndal gennych os ydynt o'r farn mai chi sy'n gyfrifol. Mae Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr yn golygu bod gennych ddiogelwch yn erbyn hawliadau fel hyn.

Gyda phwy y dylwn drefnu polisi?

Rhaid i chi ddefnyddio yswiriwr awdurdodedig. Mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) restr o yswirwyr awdurdodedig. Gallwch edrych i weld a yw cwmni wedi'i awdurdodi drwy chwilio'r gofrestr yn www.fsa.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth defnyddwyr FSA ar 0845 606 1234.

A oes angen yr yswiriant hwn arnaf?

Yr ateb, bron yn sicr, yw 'oes'. Efallai na fydd ei angen arnoch os nad oes gennych gyflogeion, os ydych yn fusnes teuluol ac yn perthyn yn agos i'ch staff, neu os ydych yn sefydliad cyhoeddus (er enghraifft, adran o'r llywodraeth neu gorff gwasanaeth iechyd). Os credwch eich bod wedi'ch eithrio, fe'ch cynghorir yn gryf i ddarllen Employers' Liability (Compulsory Insurance) Act 1969: A guide for employers [160kb] PDF (cliciwch am gynnwys Saesneg).

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys faint o yswiriant fydd ei angen arnoch; pwy nad oes angen Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr arnynt; a pha gyflogeion y dylai eich polisi eu cwmpasu, llwythwch ein cyngor am ddim i gyflogwyr.

Taflenni perthnasol HSE am ddim: