Health and Safety Executive

Cam 8: Ymgynghori â'ch gweithlu

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i gyflogwyr ymgynghori â'u gweithwyr am iechyd a diogelwch.

Mae ymgynghori yn broses ddwy ffordd - nid yw ond yn golygu dweud wrth weithwyr am iechyd a diogelwch. Mae'n golygu trafod materion iechyd a diogelwch gyda hwy, gan eu galluogi i godi pryderon a dylanwadu ar benderfyniadau.

Mae'n rhaid i chi ymgynghori â'ch holl weithwyr. Mewn busnesau bach iawn, gallech ddewis ymgynghori â phob gweithiwr ar wahân. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'n ymgynghori â'u staff drwy eu cynrychiolwyr iechyd a diogelwch.

Mae dau fath o gynrychiolydd. Gallent fod:

  • wedi'u hethol gan eu cydweithwyr; neu
  • wedi'u penodi gan undeb llafur.

Ni ddylai rheolwyr benderfynu pwy fydd yn cynrychioli gweithwyr ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Mae ein tudalennau ar gynnwys gweithwyr yn dangos i chi:

  • Pwy i ymgynghori â hwy a sut
  • Beth i ymgynghori arno
  • Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud

Taflenni am ddim


Directgov - Business Link

Updated 07.12.10