Gall damweiniau a salwch yn y gwaith gostio arian a dinistrio bywydau. Mae iechyd a diogelwch da yn arfer da - ac mae'n gyfraith.
Gall dechrau ymdrin materion iechyd a diogelwch godi ofn, ond nid oes yn rhaid iddo fod yn gymhleth, llafurus na drud. Mae HSE yma i helpu - gyda chyngor ac offer ar-lein, a'n llinell gymorth gyfrinachol am ddim.
Mae ein rhestr deg pwynt o'r hyn y dylech ei wneud yn rhoi cyngor ac offer i'ch helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch allweddol, gan gynnwys templed polisi iechyd a diogelwch a dolenni i asesiadau risg enghreifftiol (cliciwch am gynnwys Saesneg) ar gyfer gwahanol fathau o waith.
Gallwch lwytho canllawiau sylfaenol am ddim ar gyfer busnesau bach, gan gynnwys dau dempled parod ar gyfer asesiad risg a pholisi iechyd a diogelwch: Cyflwyniad i iechyd a diogelwch [363KB] (cliciwch am gynnwys Saesneg).
I gael canllaw cryno ar gyfraith iechyd a diogelwch [64KB] (cliciwch am gynnwys Saesneg) darllenwch ein taflen am ddim. Efallai bydd ein tudalennau rolau a chyfrifoldebau (cliciwch am gynnwys Saesneg) yn ddefnyddiol hefyd.
Mae gan ein gwefan gyfoeth o wybodaeth ar gyfer diwydiannau penodol a gwybodaeth yn benodol i bwnc, fel y gallwch ddod o hyd i'r union beth sy'n berthnasol i chi: dilynwch y dolenni neu defnyddiwch yr offer chwilio ar ein hafan.
Gallwch brynu pecyn dechrau (cliciwch am gynnwys Saesneg) parod HSE, sy'n cynnwys cyhoeddiad poblogaidd HSE Essentials of health and safety at work, y poster cyfraith iechyd a diogelwch, llyfr damweiniau a dogfennau defnyddiol eraill am bris gostyngol.