Health and Safety Executive

Cwynion am iechyd a diogelwch yn y gweithle

Cynnwys

Mae’r gyfraith yn galw ar gyflogwyr a’r hunan-gyflogedig i gynnal eu busnes yn y fath ffordd i sicrhau, cyn belled â rhesymol ymarferol, nad yw personau yr effeithir arnynt yn agored i risgau i’w hiechyd na’u diogelwch. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau lles hanfodol ar gyfer cyflogeion.

Gallwch ddod o hyd i’r hyn y mae’r gyfraith iechyd a diogelwch yn galw amdano drwy chwilio’n gwefan, rhowch gychwyn drwy edrych o dan yr adran testun neu ddiwydiant  perthnasol.

Os ydych yn ystyried bod gweithgaredd gwaith eich cyflogwr (neu gyflogwr rhywun arall) yn peryglu’ch diogelwch neu’n niweidio’ch iechyd, yna dylech godi’ch pryderon gyda’r cyflogwr neu’r person hwnnw. Os nad oes gwelliant a mae’ch diogelwch neu’ch iechyd yn parhau i fod mewn perygl, yna gallwch hysbysu’r awdurdod gorfodi perthnasol am eich cwyn gan ofyn iddynt ymchwilio iddo.

Yn gyntaf, gall HSE weithredu ar gwyn dim ond os:

  • Mae’n perthyn i weithgaredd gwaith.
  • HSE yw’r awdurdod gorfodi perthnasol am y gwaith..
  • Mae’r mater y cwynir amdano’n ddigon penodol i alluogi adnabod y mater a daliwr y ddyletswydd a/neu’r lleoliad a naill ai:
  • Mae’r mater y cwynir amdano wedi achosi neu o bosibl y gallai achosi niwed arwyddocaol, neu’n honni bod cyfleusterau lles sylfaenol cyflogai’n cael eu gwadu.
  • Mae’n ymddangos ei fod yn golygu toriad arwyddocaol ar y gyfraith y mae HSE yn awdurdod gorfodi amdani.

Felly ni all HSE ddelio â chwynion am faterion neu gyflogwyr ble nad oes awdurdodaeth gennym a ble rydym yn derbyn y fath gwynion, ni fyddwn yn gweithredu ymhellach. Dylai’r adran ddilynol eich helpu i benderfynu ai HSE yw’r awdurdod gorfodi cywir ac yna dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.
Ai HSE yw’r awdurdod gorfodi cywir i chi?
Mae HSE yn gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd yn cynnwys:

  • ffatrïoedd
  • ffermydd
  • safleoedd adeiladu
  • safleoedd niwclear
  • pyllau glo
  • ysgolion a cholegau
  • ffeiriau
  • systemau nwy, trydan a dŵr
  • ysbytai a chartrefi nyrsio
  • safleoedd llywodraeth ganolog a lleol
  • safleoedd ar y môr

Dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol os yw’ch cwyn am y math dilynol o safle:

  • swyddfeydd (ag eithrio swyddfeydd y llywodraeth)
  • siopau
  • gwestai
  • tai bwyta
  • safleoedd hamdden
  • meithrinfaoedd a chylchoedd chwarae
  • tafarnau a chlybiau
  • amgueddfeydd ( sy’n eiddo preifat)
  • lleoedd addoli
  • llety gwarchod a chartrefi gofal

Awdurdodau gorfodi eraill sy’n ymdrin â meysydd penodol:

Pryder Corff gorfodi
Hylendid bwyd gwael Adran Iechyd yr Amgylchedd (Awdurdod Lleol)
Llygredd, yn cynnwys diflastod sŵn Iechyd yr Amgylchedd (Awdurdod Lleol)
Problemau â nwyddau a gwasanaethau rydych wedi’u prynu Safonau Masnach (Awdurdod Lleol)
Ffyrdd, priffyrdd a phafinau Adran y Priffyrdd (Awdurdod Lleol)
Adeiladau ansad/peryglus Rheoli Adeiladu (Awdurdod Lleol)
Materion ynghylch traffig ar y ffyrdd Yr Heddlu
Addasrwydd cerbydau i’r ffordd fawr Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
Diogelwch ar y rheilffyrdd Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR)
Gwaredu gwastraff, tir halogedig, rhai materion ynghylch llygredd aer Asiantaeth yr Amgylchedd
Trin cleifion GIG Lloegr Gwasanaethau Cyswllt Cynghorol Cleifion
Gofal cleifion a defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr Y Comisiwn Ansawdd Gofal
Gofal cleifion gwasanaethau iechyd yn Yr Alban Gwella Gofal Iechyd Yr Alban
Gofal cleifion gwasanaethau iechyd yng Nghymru Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gofal defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Yr Alban Gwella Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol Yr Alban
Gofal defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru
Materion cyflogaeth, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu yn y gwaith Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Atgyweiriadau i dai sy’n eiddo i’r cyngor Ombwdsmon

Sut allwch ddatrys eich pryderon?

Os ydych yn gyflogai a rydych yn meddwl bod y gyfraith yn cael ei thorri, neu yr anwybyddir y safonau lleiaf o fewn eich gweithle, gallwch:

Os na ddatrysir y broblem yn foddhaol, gallwch ei chodi â'r awdurdod gorfodi perthnasol.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd a rydych yn meddwl bod iechyd a diogelwch person mewn perygl, gallwch gysylltu â'u cyflogwr yn uniongyrchol i godi'ch pryder ganddynt.

Hysbysu'r HSE am eich cwyn ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle

Cofiwch, nid yw HSE yn gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch ym mhob gweithle. Felly gwiriwch yr adran olaf ddwywaith i sicrhau mai'r HSE sy'n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn y gweithle sy'n peri pryder ichi. Os ydych yn dymuno hysbysu HSE am eich cwyn cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Os gwelwch yn dda nodwch y bydd angen ichi ddarparu:

  • eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt;
  • enw a chyfeiriad y gweithle neu'r gweithgaredd sy'n peri pryder ichi;
  • disgrifiad eich pryder, yn cynnwys pwy sydd mewn perygl a pham, os yw'r risg yn digwydd nawr, faint o amser mae'n debygol o barhau, ba mor aml mae'n digwydd a phryd a ble y digwyddodd unrhyw ddigwyddiad; a
  • manylion ynghylch yr hyn rydych wedi'i wneud i geisio datrys y mater.

To use English, contact the team on 0300 0031647.

Beth s'n digwydd ar ôl i gwyn gael ei wneud i HSE?

Yn gyntaf, byddwn yn gwirio bod y cwyn yn perthyn i weithgaredd gwaith ble mae HSE yn gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Yna byddwn yn ceisio adnabod o'r wybodaeth rydych wedi'i darparu:

  • Pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn lleoliad y cwyn?
  • Pwy sydd mewn perygl o niwed neu afiechyd neu sydd heb gyfleusterau lles digonol?
  • Pa anaf neu afiechyd a allai ddilyn a pha mor debygol yw hyn?

Yna bydd swyddog cwynion yn asesu'ch cwyn a'i osod mewn un o'r categorïau dilynol:

  • Coch = Perygl Difrifol a bydd swyddog cwynion yn ei ddilyn fel blaenoriaeth uchel o fewn 24 awr o'i dderbyn (neu fe'i trosglwyddir i arolygydd ar gyfer ymchwiliad ar y safle)
  • Ambr = Perygl Arwyddocaol a bydd swyddog cwynion yn ei ddilyn o fewn 5 niwrnod o'i dderbyn
  • Gwyrdd = Perygl Isel a nis ddilynir gan HSE

Fodd bynnag, os yw'ch cwyn yn perthyn i ddiwydiant a ddosbarthir gan HSE fel diwydiant â pheryglon mawr - fel ar y môr, niwclear neu safle cemegion mawr - yna caiff ei asesu gan arolygydd a chaiff flaenoriaeth ei aseinio iddo sy'n briodol dan yr amgylchiadau.

Beth wnawn ni

Efallai byddwn yn gofyn i'r cyflogwr ymchwilio i'ch cwyn neu efallai byddwn yn edrych i mewn iddo ein hunain. Fodd bynnag, ni allwn ddilyn eich cwyn 'coch' neu 'ambr' yn llwyddiannus os, o'r wybodaeth rydych wedi'i darparu, na allwn adnabod na sefydlu pwy sy'n gyfrifol am y gwaith rydych wedi cwyno amdano o'r wybodaeth rydych wedi'i darparu. Yn y fath sefyllfaoedd, cofnodir hyn fel "mater o bryder" a ni weithredir o angenrheidrwydd. Fodd bynnag, os yw'r "mater o bryder" wedi'i asesu fel "coch" caiff ei adolygu gan arolygydd.

Y sefyllfaoedd eraill ble na fydd HSE yn ymchwilio i'ch cwyn yw:

  • Pan ydych yn gwneud cwyn yn ddienw i  HSE neu rydych yn gwrthod rhoi manylion cyswllt. Mae hyn oherwydd na allwn gadarnhau'r wybodaeth gyda chi na'i thrafod gyda chi na sicrhau nad yw'n gwyn maleisus.
  • Pan nad ydych wedi codi'r cwyn gyda'r person sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch na'ch undeb llafur – oni bai, wrth gwrs, fod gennych reswm da  i gredu y caech eich gosod mewn sefyllfa fregus pe byddech yn codi'ch pryderon gyda'r person hwn.
  • Pan nad oes rhagofalon rhesymol ymarferol i ddelio â'r materion rydych wedi'u codi
  • Pan nad yw'n ymarferol i ddilyn eich cwyn

Ni all HSE eich helpu i gael iawndal nag i ddatrys problemau'r gyfraith sifil.

Sut a wyddoch beth sydd wedi digwydd fel canlyniad i'ch cwyn?

Os ydych eisiau adborth, byddwn yn cysylltu â chi a rhoi gwybod ichi am yr hyn rydym wedi'i wneud. Neu, os ydym wedi asesu'ch cwyn fel 'gwyrdd' o berygl isel byddwn yn egluro'n penderfyniad.


Directgov - Business Link

Updated 08.05.12