Cyf: 719/W/08 - 18fed Rhagfyr 2008
Mae adeiladu yn un o'r galwedigaethau mwyaf peryglus. Cafwyd 72 o farwolaethau yn y DU yn 2007/08, ac mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn atgoffa cwmnïau adeiladu bod angen iddynt wneud popeth y gallant i leihau'r risg i'w cyflogeion a'u contractwyr yn dilyn damwain angheuol a ddigwyddodd wrth godi adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Plediodd Taylor Woodrow Construction Ltd, y cwmni a oedd yn rheoli prosiect adeiladu'r Senedd, yn euog yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiad o dan Adran 3 (1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974. Cafodd y cwmni ddirwy o £200,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £71,400.
Bu farw John Walsh, 53 oed o Fryste, ar ôl i wal ddymchwel ym mis Mawrth 2004, gan ei daflu oddi ar ei ysgol. Roedd yn cael ei gyflogi fel goruchwylydd gyda'r isgontractwr Ferson Construction Services Ltd i adeiladu wal gynhaliol o flocwaith yn y Senedd, a gynhwysai geudod rhwng y wal a ffrâm goncrid y prif strwythur ar gyfer gwaith inswleiddio a chwrs gwrth-leithder. Roedd Mr Walsh yn llenwi'r ceudod â sment pan ymchwyddodd y wal allan oherwydd y pwysau gan ei saethu tuag yn ôl.
Dywedodd arolygydd HSE, Alun Williams, fod cyfuniad o weithio ar uchder a methiant y cwmni i reoli'n gywir y risg a oedd yn gysylltiedig â methiant y wal o dan bwysau'r sment wedi arwain at farwolaeth Mr Walsh, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y risgiau wedi'u cydnabod cyn y ddamwain.
“Mae gweithdrefnau cydnabyddedig yn y diwydiant adeiladu ar gyfer gwneud gwaith ôl-lenwi ac inswleiddio ceudod a fyddai wedi atal y wal rhag ymchwyddo tuag allan.
“Ac roedd y defnydd o ysgolion i fod i gael ei reoli'n llym ar y safle ac eto roedd un yn cael ei defnyddio er gwaethaf datganiad dull i'r gwrthwyneb.”
“Methodd y cwmni â sicrhau i'r datganiad dull gael ei ddilyn ac wrth wneud hynny methodd â rheoli gweithgareddau pobl eraill.”
Adeiladu yw sector cyflogi mwyaf y wlad, ond mae hefyd yn un o'r sectorau mwyaf peryglus a chafwyd 72 o farwolaethau ym Mhrydain Fawr yn 2007/008, gyda phump ohonynt yng Nghymru. Yng Nghymru cafwyd hefyd gyfanswm o 705 o anafiadau i gyflogeion a oedd wedi'u dosbarthu'n anafiadau difrifol neu'n anafiadau lle roedd angen i'r unigolion dan sylw gymryd mwy na thri diwrnod i ffwrdd o'r gwaith. Nod y digwyddiadau hyn yw helpu i leihau nifer y damweiniau angheuol a difrifol yn y sector adeiladu.