Health and Safety Executive

This website uses non-intrusive cookies to improve your user experience. You can visit our cookie privacy page for more information.

Social media

Javascript is required to use HSE website social media functionality.

Cyfarfodydd agored Bwrdd HSE

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymrwymedig i fod yn agored am yr hyn y mae'n ei wneud a chynhelir llawer o drafodaethau'r Bwrdd yn ei gyfarfodydd misol ar ffurf sesiwn agored, ac eithrio unrhyw fusnes cyfrinachol.

Cofrestru i ddod i gyfarfod agored

Rhestrir dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y Bwrdd isod. Er mwyn cael eich derbyn i ddod i gyfarfod agored, yn gyntaf bydd yn rhaid i chi gofrestru eich diddordeb o leiaf bum diwrnod gwaith ymlaen llaw drwy gwblhau'r ffurflen gofrestru (Saesneg yn unig) - NI CHAIFF unigolion nad ydynt wedi cofrestru ymlaen llaw eu derbyn i'r cyfarfod.

Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac fe'u pennir ar sail y cyntaf i'r felin. Mae gennym hefyd restr wrth gefn. Felly os ydych wedi cofrestru eisoes a byddwch yn penderfynu maes o law na allwch ddod mwyach, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy anfon e-bost i general.account.secretariat@hse.gsi.gov.uk

Cyfarfodydd agored Bwrdd HSE 2012

Social media

Javascript is required to use HSE website social media functionality.

Updated 2012-12-19