HSE yng Nghymru

"Ein cenhadaeth yw diogelu iechyd a diogelwch pobl drwy sicrhau y rheolir risgiau yn y gweithle newidiol yn briodol."

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau.  HSE yw'r corff sy'n gyfrifol am hyrwyddo, rheoleiddio a gorfodi iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle, ac am waith ymchwil i risgiau galwedigaethol. Mae HSE yn gweithio er mwyn atal pobl rhag cael eu lladd, eu hanafu neu fynd yn sâl oherwydd gwaith. Mae HSE Cymru yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), yn arbennig mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, e.e. iechyd a diogelwch mewn amaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

Cydweithiodd HSE Cymru â Llywodraeth Cynulliad Cymru i lansio Cefnau Cymru, menter iechyd y cyhoedd fawr i leihau effeithiau ariannol, personol a seicolegol poen cefn ar Gymru. Mae 160 o sefydliadau yng Nghymru wedi cofrestru gyda'r gweithgaredd hwn yn unig.

Mae HSE Cymru ar flaen y gad o ran gweithio gyda GIG Cymru i wella amodau iechyd a diogelwch i gyflogeion a diogelu cleifion rhag risgiau yn y gweithle. Mae HSE Cymru hefyd wedi gweithio gyda GIG Cymru i greu Cynllun Pasport Codi a Chario a'r Cynllun Pasport Trais ac Ymosodiad, rhywbeth sy'n unigryw i Gymru ac sydd bellach yn cael ei ledaenu i rannau eraill.

Mae HSE Cymru yn gweithio'n llwyddiannus gyda diwydiant yng Nghymru. Mae Fforwm Iechyd a Diogelwch Gweithgynhyrchu Cymru yn bartneriaeth unigryw rhwng gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, undebau llafur a HSE Cymru. Ei nod yw dangos a rhannu arfer gorau o ran systemau rheoli diogelwch a rheoli peryglon.

Hefyd, mae HSE Cymru yn aelod o'r Concordat rhwng cyrff arolygu, rheoleiddio, archwilio a chynghori ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gefnogi'r broses o wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'r cyhoedd a dileu'r beichiau diangen rhaglenni arolygu i staff y rheng flaen.

Gorfodir cyfraith iechyd a diogelwch yng Nghymru gan bob Awdurdod Lleol hefyd; ac mae HSE yn gweithio'n agos gyda hwy i sicrhau ein bod yn gweithio ar risgiau sylweddol a materion cyffredin er mwyn lleihau nifer y damweiniau ac iechyd gwael yn ogystal ag osgoi dyblygu'r ymdrech orfodi. Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am reoliadau iechyd a diogelwch mewn swyddfeydd, siopau, gweithgareddau hamdden, gwestai a bwytai, digwyddiadau chwaraeon, canolfannau galwadau ac ati.

Mae gan HSE dros 100 o staff wedi'u lleoli mewn swyddfeydd yng Nghaerdydd, Wrecsam a Chaerfyrddin.  Mae'r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau Maes yn cwmpasu'r prif feysydd cyflogaeth, sef adeiladu, amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, chwareli, gwasanaethau, iechyd ac addysg.  Cyfarwyddwr HSE yng Nghymru yw Terry Rose. 

Ymhlith y sectorau eraill a gynrychiolir gan swyddfeydd HSE Cymru mae'r Is-adran Diwydiannau Cemegol, sy'n cwmpasu'r diwydiannau petrogemegol ar y tir a diwydiannau cysylltiedig; yr Is-adran Diogelwch Alltraeth, Nwy ac unigolion yn y Grwpiau Arbenigol ar gyfer adeiladu, iechyd galwedigaethol, diogelwch trydanol a pheirianneg fecanyddol. Cyfrifoldeb y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Niwclear a leolir yn Bootle, Glannau Merswy, yw diogelwch niwclear yng Nghymru.

Translate this page

Is this page useful?

Updated 2022-05-20