HSE banner

Ymweld â’r HSE

Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad eich Swyddfa HSE agosaf a’r Ganolfan Wybodaeth yma – mae’r manylion cyswllt a’r oriau ymweld ar gael isod.

Canolfan Wybodaeth

Mae ein Canolfan Wybodaeth yng Nglannau Merswy yn darparu gwasanaeth ar gyfer y rhai sy’n galw heibio sydd am ddarllen y deunydd sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch a geir yno. Fodd bynnag, dylai pob ymholiad gan y cyhoedd sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch galwedigaethol gael ei gyfeirio yn gyntaf at Llinell Wybodaeth HSE.

Knowledge Centre
Health and Safety Executive
(1G) Redgrave Court
Merton Road
Bootle
Merseyside
L20 7HS

Ar agor 8 am tan 5.30 pm
Dydd Llun i ddydd Gwener

Swyddfeydd Lleol HSE

Mae Arolygwyr a gweithwyr proffesiynol maes eraill yn gweithio mewn swyddfeydd sydd wedi’u rhannu’n rhanbarthau. Mae swyddfeydd HSE ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dylid cyfeirio pob ymholiad ffôn drwy Linell Wybodaeth HSE yn y lle cyntaf.

Ymweliadau Rhyngwladol a Thramor â’r HSE

Os ydych yn dymuno ymweld â’r HSE i ddysgu mwy am waith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Comisiwn Iechyd a Diogelwch yna cliciwch isod am ragor o wybodaeth.


Translate this page